Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 5982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil / File
Rhagolwg argraffu Gweld:

Y Gwersyll Llangollen

Albwm poced fechan yn cynnwys ffotograffau o Wersyll yr Urdd, Llangollen 1929; cardiau post ffotograffig o Wersyll Bechgyn (Llangollen) 1930.

Y Gwersyll Llangrannog

Deunydd yn ymwneud â gweinyddu Gwersyll Llangrannog gan gynnwys ystadegau presenoldeb,1978-2002 (gyda bylchau); manylion staffio; pamffledi. Gohebiaeth a dyluniadau yn ymwneud â newidiadau yng Nghefn Cwrt, 1962.

Llyfr lloffion

Toriadau cylchlythyr a phapurau newydd yn adrodd ar wahanol weithgareddau'r Urdd ac Aelwyd ar draws Cymru; lluniau; effemera.

Gwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn

Mae'r deunydd yn cynnwys llyfr lloffion o weithgareddau gwersylla a gynhaliwyd yn y 1980au-1990au, a gwybodaeth am Wersyll Haf 2004 a threfniadau ar gyfer bwcio i fynychu. Taflenni marchnata ar gyfer y cylchgronau Cip a Bore Da.

Dramâu Cymraeg

Casgliad o ddramâu Cymraeg printiedig, gan gynnwys rhai esiamplau o’r gyfres EPC: Cyfres Ddrama Gymreig a Chyfres y Brython, yn ogystal â'r rhai a gyhoeddir yn annibynnol. Gweithiau gan Wil Ifan, Eic Davies, J. M. Edwards, Helena Roberts a J. Ellis Williams, ymhlith eraill.

Taflennu gwybodaeth

Taflenni printiedig a ddefnyddir i hyrwyddo neu gofnodi amrywiol polisïau, adnoddau, gweithgareddau a digwyddiadau'r Urdd.

Dathlu'r mudiad

Eitemau printiedig gan gynnwys Yr Urdd (1943); Cofiant i Owen M. Edwards (1959); Teyrnged i Syr Ifan ap Owen Edwards (1970); Y Llinyn Arian (1941); Catalog llyfrau Gwasg Gomer (1947-8); Bywyd a Gwaith O.M. Edwards (1958).

Yr Anrheg

Casgliad o rifynnau Yr Anrheg, rhifau 1-39 (rhifau 2, 6, 9-10, 12, 16-17, 33 yn eisiau).

Cyhoeddiadau cynnar

Cymru'r Plant 1936-41 (gyda blychau); Er Mwyn Cymru (Aelwyd Caerdydd) 1943; Yr Urdd 1922-1943; Eisteddfod 1957 'Ysgrifau'r Goron.'

Canlyniadau 61 i 80 o 5982