Showing 950 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd File
Print preview View:

D. J. Jones, Hedgerley, Buckinghamshire,

Cafodd bleser mawr o glywed anerchiad eneiniedig W. J. Gruffydd i'r Cymmrodorion ar y radio. Y mae'n cytuno â barn W. J. Gruffydd ar beth ddylai cynnwys Y Bywgraffiadur fod. Ni ddylai fod yn 'apologia pro vita sua' i'r Saeson nac yn ymgais i brofi bod Cymru wedi cynhyrchu gwyr mawr. Y mae o'r farn y ddylai gwyr fel Evan Phillips, Castellnewydd Emlyn, a David Lewis, y teiliwr a'r cerddor o Lanrhystud, fod ynddo.

D. Tafwys Jones, Caerffili,

Mae'n anfon copi o'r llyfr Y Cydymaith Goreu at W. J. Gruffydd yn rhodd gyda diolch am bopeth a wnaeth dros Elsie [ei ferch]. Nid yw Elsie wedi cael lle hyd yma, dal i obeithio y maent. Cafodd fenthyg cofiant Hiraethog gan Scorpion a Dewi Ogwen ac y mae wedi dechrau ar ei gwaith. Mae D. Tafwys Jones wedi ei ddarllen yn frysiog ac nid yw'n credu ei fod yn dda iawn. Y mae'n proffwydo y bydd W. J. Gruffydd yn bennaeth un o'r colegau sydd yn, ac sydd i ddod yn wag cyn bo hir.

Dafydd M[orris] Jones, Aberystwyth,

Mae'n amgau tocyn maes parcio ar gyfer yr Eisteddfod. Bydd yn rhaid cael trwydded gan y Prif Gwnstabl i barcio'r car ar rai o strydoedd Aberystwyth. Dylid gwneud cais yn Swyddfa'r Heddlu ar ôl cyrraedd gan ddangos y tocyn amgaeëdig. Cynhwysir awgrymiadau ynghylch traddodi beirniadaethau yn y Babell Lên. Teipysgrif.

Edmund Jones, Y Bermo,

Negyddol yw pob ymgais am wybodaeth ar gyfer W. J. Gruffydd hyd yn hyn. Mae'n amgau llythyr oddi wrth Morris Davies ac un a dderbyniodd yntau gan gyfaill. Y mae'n disgwyl ateb oddi wrth gyfaill arall yn Nhrawsfynydd hefyd.

Elizabeth Jones, Treherbert,

Y mae ei thad wedi dechrau copio'r llythyrau a dderbyniodd oddi wrth ei hewyrth, ond gan ei fod yn brysur y mae yn eu danfon fel y maent gan obeithio y bydd W. J. Gruffydd yn eu deall.

H. Parry Jones, Llanrwst,

Anfon gair o ddiolch am y cyfeiriad caredig at ei stori 'Gwneuthur Lle' yn 'Hen Atgofion' yn Y Llenor. Bu'n fwriad ganddo gyhoeddi cyfrol o'i gyfieithiadau a gallai'r stori honno ymddangos gyda hwynt wedyn. Mae wedi mwynhau'r 'Hen Atgofion' yn fawr. Mae'n cofio clywed W. J. Gruffydd yn traethu hanes G. Jones, y 'Deryn Mawr' dros ddeng mlynedd ar hugain ynghynt. Bu'n bwriadu ysgrifennu rhywbeth ar gyfer Y Llenor i ddangos nad 'rhyw hunllef a lusgwyd i mewn i Gymru o Loegr yn y 17 a'r 18 ganrif yw Piwritaniaeth'.

H. P[arry Jones], Llanrwst,

Hydera fod W. J. Gruffydd yn gwella. Y mae wedi llunio cywydd am salwch ac adferiad W. J. Gruffydd. Mae'n amgau copi teipiedig ohono. Y mae'n bwriadu mynd i'r Eisteddfod yn Ystradgynlais. Mae'n estyn gwahoddiad i W. J. Gruffydd a'i chwaer, Ceridwen, i ymweld ag ef. Cynhwysir copi teipiedig o 'Gywydd y Cur'.

J. E. Jones, Caernarfon,

Honnir bod Saunders Lewis wedi cydnabod wrth W. J. Gruffydd ei fod yn Ffasgydd. Gofynnir i W. J. Gruffydd gydnabod geirwiredd y stori. Yr unig ffordd o roi taw ar y stori yw ei hateb neu ei chydnabod.

J. Talwrn Jones, Bodorgan,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ei ddarlith 'Dydd o brysur bwyso'. Y mae wedi ceisio helpu Cymru i gadw ei henaid ar hyd ei oes ac yn awr y mae'n mynd yn hen. Mae'n crybwyll y rhai sy'n debygol o dderbyn Medalau Gee y flwyddyn honno. Y mae'r pump hynaf dros 90 oed, yr hynaf yn 93 ac yn parhau'n ffyddlon i'r Ysgol Sul. Hwy yw cadfridogion Duw - Maginot-line diwylliant Cymru.

J. W. Jones, Wigan,

Gofyn am wybodaeth am y gair 'gwig'. Holodd rhywun ef am y gair gan awgrymu iddo olygu fort. Nid yw'r gair yn hyddysg yn y Gymraeg a cheisiwyd ei ddarbwyllo i beidio â chyhoeddi'r esboniad. Yr unig le y llwyddodd i ddarganfod yr ystyr fort i'r gair 'gwig' oedd yng ngwaith William Owen-[Pughe], ond ni roddir enghraifft o'r gair yn cael ei ddefnyddio yn unman. A oes sail i osodiad Pughe? Ceisiwyd esbonio Wigan yn yr un modd.

J. Walter Jones, Llangatwg, Castell-nedd,

Nodi ei siom o ddeall nad yw W. J. Gruffydd yn aelod o Lys [Coleg Caerdydd], sefydliad sydd mor Seisnigaidd â phe bai'n goleg yng nghanolbarth Lloegr. Nodi beirniadaeth ar W. J. Gruffydd a glywodd gan un o aelodau'r Llys. Trafod rhan Henry Lewis yn helyntion Saunders Lewis.

J[ohn] M[orris] J[ones], [Llanfair Pwllgwyngyll],

Cwyno na all gadw i fyny â'r Wasg. Fe gysodwyd 400 tt. a dim ond 272 tt. a gywirwyd ganddo. Nid yw'r mynegai wedi ei ddechrau ychwaith. Blin ganddo golli W. J. Gruffydd pan fu yn y Gogledd. Y mae'n cael trafferth i gael y rhifyn nesaf o'r Beirniad yn barod. Anfon rhai llyfrau gan ofyn i W. J. Gruffydd eu hadolygu. Y mae'n disgwyl erthygl gan [Thomas] Shankland, Robert Richards, a'r Athro Fleure ond er llawer addewid ni ddaethant.

Llythyr y South Wales News at Syr John Morris-jones,

Dywedir bod Timothy Lewis yn cyhoeddi cyfres o erthyglau ar yr Orsedd i gyd-fynd ag Eisteddfod Treorci. Yn ei erthyglau y mae Timothy Lewis yn ymosod ar syniadau John Morris-Jones yngl?n â hanes sefydlu'r Orsedd. Gwahoddir Syr John i ymateb i haeriadau Timothy Lewis yn y papur.

[W. J. Gruffydd] at Syr John Morris-jones,

Anodd gwybod beth ddylai ymateb John Morris-Jones fod. Dylai ateb y llythyr ond peidio sôn am vendetta. Awgrymu drafft o lythyr yn amlinellu beirniadaeth Timothy Lewis o athrawon Prifysgol Cymru i gyd. Bwriada anfon llythyr at y Prifathro Stuart Jones. Copi teipysgrif.

Y Canon Maurice Jones, Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan,

Newydd ddychwelyd o'r Cyfandir a chlywed am farwolaeth John Morris-Jones a bod W. J. Gruffydd wedi cael ei wrthod fel Prifathro Coleg Caerdydd. Trychinebau cenedlaethol yn ôl Maurice Jones. Y mae'n dramgwydd anfaddeuol yn y Brifysgol a'r Eglwys i ddyn fod yn Gymro sy'n caru ei wlad a'i iaith. Cafodd yntau ei gosbi am y rheswm hwnnw hefyd. Bydd awgrym W. J. Gruffydd yngl?n â'r Orsedd yn cael ei drafod yn y Pwyllgor Gweinyddol adeg cyhoeddi Eisteddfod Llanelli.

[T.] Gwynn [Jones], Caernarfon,

Diolch am lythyr ac arian at dysteb Eames. Nid yw am fynd i ymgomfa Cymdeithas Gymreig y dref am ei fod yn brin o arian ac yn brysur iawn a'i fod i annerch yno rywbryd ar ôl y Nadolig. Nid oes ganddo arian eto i anfon prospectws ei lyfr allan ond cafodd rai archebion eisoes gan gynnwys un gan Muriel Price. [Mae'n dyfynnu ei harcheb a anfonwyd ato mewn Cymraeg Canol ac yn parhau ei lythyr mewn Cymraeg Canol]. Ni roddwyd Arthur ap Gwynn 'yng nghlos' eto.

[T.] Gwynn [Jones], Bow Street,

Gwasg Prifysgol Caergrawnt newydd gyhoeddi'r gyfrol gyntaf o ddwy ar Literary Criticism in Antiquity gan Atkins. Hoffai'r awdur gael gweld adolygiad yn Y Llenor. T. Gwynn Jones yn canmol y gwaith ac yn cynnig llunio nodyn ar gyfer Y Llenor, ond byddai cael sylw gan W. J. Gruffydd i'r gyfrol yn llawer amgenach. Petai W. J. Gruffydd yn cael copi o'r Gainc Olaf fe fyddai T. Gwynn Jones yn hoffi cael adolygiad ar honno hefyd gan W. J. Gruffydd ei hunan.

Results 61 to 80 of 950