Showing 45762 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Torion o'r wasg

Torion o’r wasg yn ymwneud â llwyddiant T. Eirug Davies yn ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1932 am ei bryddest ‘A ddioddefws a orfu’ ac yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd 1936 am ei bryddest ‘Y gorwel’, ynghyd ag englyn gan E. J. Lloyd yn ei longyfarch, ac fel beirniad ar y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936.

Eisteddfod yr Urdd, Dyffryn Aman : llyfr cofnodion

  • NLW MS 21708C.
  • File
  • 1935-1937

Llyfr cofnodion, Mai 1935-Mawrth 1937, Pwyllgor Gweithredol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Gwauncaegurwen, Dyffryn Aman, 1937, gan gynnwys manylion y digwyddiadau hynny a arweiniodd at wahodd yr Eisteddfod i'r ardal (tt. 3-11). = Minute book, May 1935-March 1937, of the Executive Committee of the Urdd National Eisteddfod held at Gwauncaegurwen in the Aman Valley, 1937, including details of events leading to the inviting of the Eisteddfod to the area (pp. 3-11).

Cyfansoddiadau

Pryddest ‘Y gorwel’, Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd 1934; pryddest fuddugol ‘Ynys Enlli’, Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1935; awdl ‘Y ffin’, awdl anfuddugol Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937; a 'Rwy'n edrych dros y bryniau pell', awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1938.

Papurau amrywiol

Rhaglen seremoni graddio Prifysgol Cymru a gynhaliwyd yn Aberystwyth, 1931, pan dderbyniodd Tom Eirug Davies radd MA, a thaflen Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru yn nodi mai'r Parch. T. Eirug Davies oedd yr Ysgrifennydd.

Cerddi

Cerddi llawysgrif a theipysgrif gan T. Eirug Davies, [1927]-[1950], gan gynnwys 'Dyffryn Clydach', 'Chwerthin y meirw', '1941', 'Y dragonau', 'At yr ifanc ar wasgar' ac 'Aberystwyth'.

Llandecwyn and Llanfihangel-y-Traethau parish records

A notebook, [1931x1942], of Bob Owen, Croesor, containing transcripts from the parish registers of Llandecwyn, Merionethshire, 1674-1931 (ff. 1-12, 19-20 verso, 29-33 verso), and Llanfihangel-y-Traethau, Merionethshire, 1684-1836 (ff. 12 verso-18 verso, 34-40).
Also included are further miscellaneous genealogical memoranda (ff. 23-26, 28 verso and inside front cover), family trees (ff. 21, 34) and a note, in Welsh, on wells (inside back cover, inverted text).

Torion

Cyfrol o dorion, 1918-1943, yn dwyn enw Dyddgu Elwyn Jones, merch Tegla Davies.

Papurau J. E. Daniel

  • NLW MS 23870E.
  • File
  • 1905, 1939-1945

Papurau, 1905-1945, yng Nghymraeg a Saesneg, fu'n eiddo i'r Athro John Edward Daniel, yn ymwneud â'i weithgareddau gwleidyddol gyda Plaid Cymru. = Papers, 1905-1945, in Welsh and English, of Professor John Edward Daniel, relating mostly to his political activities with Plaid Cymru.
Maent yn cynnwys llythyrau oddi wrth Compton Mackenzie, 8 Hydref 1939 (f. 1), Gwynfor Evans, 25 Tachwedd 1945 (f. 14), a William George, 20 Mehefin 1945 (f. 5), ynghyd â nodiadau gan George ar gyfer araith yn cefnogi Daniel fel ymgeisydd dros Blaid Cymru ym Mwrdeisdrefi Caernarfon yn etholiad 1945 (ff. 6-13). Hefyd yn y casgliad ceir papur enwebu Saunders Lewis yn is-etholiad Prifysgol Cymru, 1943 (f. 4); teipysgrif 'Memorandwm i Bwyllgor Heddwch y Blaid Genedlaethol' gan D. Gwenallt Jones, [c. 1939] (ff. 15-32, diwedd ar goll); a dau eitem o ohebiaeth deuluol, 1905 a [d.d.] (ff. 33-34). = They include letters from Compton Mackenzie, 8 October 1939 (f. 1), Gwynfor Evans, 25 November 1945 (f. 14), and William George, 20 June 1945 (f. 5), together with autograph notes for a speech by the latter in support of Daniel's candidacy for Plaid Cymru in Carnarvon Boroughs in the 1945 General Election (ff. 6-13). Also in the collection are nomination paper of Saunders Lewis in the University of Wales by-election, 1943 (f. 4); a typescript 'Memorandwm i Bwyllgor Heddwch y Blaid Genedlaethol' by D. Gwenallt Jones, [c. 1939] (ff. 15-32, end lacking); and two items of family correspondence, 1905 and [n.d.] (ff. 33-34).

Daniel, John Edward, 1902-1962.

Effemera

Eitemau llawysgrif a phrintiedig , 1660-[1936], yn ymwneud â'i ddiddordeb mewn natur, amaethyddiaeth a hanes lleol.

Caneuon cynnar

Cyfrol o gerddi, 1945 -1949, yn ei law. Nodir lle cyfansoddwyd y cerddi, nifer ohonynt yn Valetta, Malta, a hefyd os cawsant eu cyhoeddi, yn Y Faner yn bennaf.

Pregethau

Nifer iawn o nodiadau pregethau, rhai ar gardiau post, ynghyd â chopi o J. D. Vernon Lewis, Llyfr y Salmau (Abertawe, 1967), yn cynnwys pregethau rhydd.

Results 61 to 80 of 45762