Mae'r ffeil yn cynnwys toriadau o gyfres o erthyglau, 'Gwaith Anghyhoeddedig Ben Bowen', a ymddangosodd yn Seren yr Ysgol Sul; a dau rifyn o Seren yr Ysgol Sul yn cynnwys erthyglau ar Ben Bowen gan ei frawd.
Mae'r ffeil yn cynnwys nodiadau manwl a luniwyd gan David Bowen am ei frawd, Ben Bowen, ei deulu a'i gyfoedion. Ysgrifennwyd hwy ar gyfer yr erthyglau a'r llyfrau a gyhoeddodd David Bowen ac fe gynhwysir copi teipysgrif o ragarweiniad Dr. Thomas Jones i'r llyfr Ben Bowen yn Neheudir Affrica, gol. Myfyr Hefin (Llanelli, 1928).
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau David Bowen yn rhestru enwau, cyfeiriadau a'r nifer o gopïau a ofynnwyd amdanynt gan danysgrifwyr i'r llyfrau Ben Bowen yn Neheudir Affrica a Ben Bowen i'r Ieuanc, 1928-47; llythyrau gan wahanol gyhoeddwyr ynglŷn â chost tebygol cyhoeddi'r cyfrolau, 1927; llythyrau gan danysgrifwyr yn gofyn am neu'n diolch am lyfrau, 1942-8, ac anfonebau a derbyniadau, 1901-54, yn cynnwys anfoneb at David Bowen am dwy fil o gopïau o bryddest Pantycelyn, Ebrill 1901.
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Iorwerth Peate, Ben Bowen Thomas, Thomas Williams (Brynfab), Lewis Valentine, Amy Parry-Williams, D. J. Williams, Eifion Wyn, Ifor Williams, Rhydwen Williams, Crwys a W. Nantlais Williams ac eraill heb gyfenwau yn cynnwys Cybi, Dyfed Hermas a Caerwyn.
Papurau personol, crefyddol a llenyddol a grewyd ac a gasglwyd gan David Bowen, a phapurau llenyddol, crefyddol a phersonol ei frawd Ben, a olygwyd gan David Bowen wedi ei farwolaeth, 1897-1903. = Personal, religious and literary papers created by, and accumulated by, David Bowen, together with the literary, religious and personal papers of his brother Ben, edited by David Bowen after his death, 1897-1903.
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau a chardiau post, y mwyafrif o Kimberley a Cape Town, De Affrica, ac eraill o Gymru, wedi eu hysgrifenu at ei frawd ac aelodau eraill o'r teulu yn bennaf, gan gynnwys llythyrau at E. K. Jones a William Morgan. Mae'r rhan helaethaf o'r llythyrau yn trafod barddoniaeth, diwinyddiaeth a chyflwr ei iechyd. Cyhoeddwyd ei lythyrau yn David Bowen (gol.), Ben Bowen yn Neheudir Affrica, Llanelli, 1928 a Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen, Treorci, 1904.
Dyddiadur, 1901, yn disgrifio taith Ben Bowen a'i gyfnod yn Ne Affrica, ynghyd â dyddiadur 25 Mai-9 Gorff. 1902, yn dwyn y teitl 'Homeward Bound' yn disgrifio ei daith yn ôl.
Mae'r ffeil yn cynnwys pregethau, cynlluniau pregethau a nodiadau gan Ben Bowen, gan gynnwys drafftiau o 'Y Lili', 'Duw yn Ateb' a 'Milwr Iesu Grist'; nodiadau o bregethau a glywodd Ben Bowen, 1896-1899, ynghyd â nodyn gan E. K. Jones yn rhestru enwau rhai o'r traddodwyr. Cyhoeddwyd 'Y Lili', 'Duw yn Ateb' a 'Milwr Iesu Grist' yn David Bowen (gol.), Rhyddiaith Ben Bowen, Caerdydd, 1909.
Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi megis 'Marwnad i Sarah Jane Davies, Greenfield Hotel' ar gyfer Eisteddfod Nebo, Ystrad; 'Marwnad i Edward Meredith (groser), Llwynypia' ar gyfer Eisteddfod Tonypandy; a cherdd yn dwyn y teitl 'Cleddyf yr Arglwydd a Gideon'.
Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi megis 'Ac arch Duw a ddaliwyd' ar gyfer Eisteddfod Penrhiwceiber; 'Y Gwanwyn' ar gyfer Eisteddfod Merthyr Tydfil a 'Hwyrddydd Haf' ar gyfer Eisteddfod y Betws, Rhydaman.
Mae'r gyfres yn cynnwys pregethau Cymraeg a Saesneg, ynghyd â rhestr o'i bregethau, pregethau i'r Chwiorydd, i'r plant ac ar gyfer angladdau, 1905-1954.
Mae'r ffeil yn cynnwys pregethau Cymraeg yn bennaf, [1910]-[1954], gyda rhai Saesneg, rhestrau o bregethau, a toriadau o bregethau a ymddangosodd yn ?Seren Cymru a Seren yr Ysgol Sul.
Mae'r ffeil yn cynnwys pregethau i'r plant, Yr Arglwydd Iesu a'r Plant',Yr Aelwyd a'r plant' ac `Y Bedyddwyr a'r plant'. Hefyd, ceir yn un o'r llyfrau nodiadau fanylion treuliau cwrdd chwarter rhan uchaf Sir Gaerfyrddin am 1934-1935.
Mae'r ffeil yn cynnwys cofnodion yr Undeb, 1919-1941, sef undeb o gymdeithasau Cymreig a sefydlwyd yn 1913, gyda thorion papur newydd ac adroddiadau. Mae'r deunydd yn perthyn i gyfnod David Bowen fel swyddog dros Bump-hewl, Llanelli.
Undeb y Cymdeithasau Cymreig. Adran Dwyreinbarth Caerfyrddin