Dangos 113 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Pennar Davies, ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau,

Llythyrau, gan gynnwys rhai oddi wrth Bobi [Jones] (3), S[imon] B. Jones, E. Tegla Davies, Iorwerth C. Peate, T. J. Morgan a Meredydd [Evans]. Mae rhai o'r llythyrau yn ymateb i'w gyfraniad 'Episodes in the History of Brecknockshire Dissent' yn y cyfnodolyn Brycheiniog, 1957.

Jones, Bobi, 1929-2017

Llythyrau,

Llythyrau, 1960-1965, gan gynnwys rhai oddi wrth Gareth Alban Davies ac Aneirin Talfan Davies.

Davies, Gareth Alban.

Llythyrau,

Llythyrau, [1960]-[1974], gan gynnwys llythyr oddi wrth Harri Webb.

Webb, Harri, 1920-

Llythyrau,

Llythyrau, 1976-1979, gan gynnwys rhai oddi wrth Dafydd Rowlands yn amgau copi llawysgrif o'i gerdd 'Yr un yw glaw a chragen', Owain [Owain], Gilbert [Ruddock] (5), John Rowlands (2), Sandra Anstey, Saunders Lewis, Merêd [Meredydd Evans], [D.] Myrddin [Lloyd], Urien [Wiliam] a Ffred Ffransis. Ceir llythyrau o gefnogaeth iddo yn dilyn ei weithred yn diffodd trosglwyddydd teledu ym Mhencarreg yn 1979 gyda Meredydd Evans a Ned Thomas mewn protest ar ran Cymdeithas yr Iaith .

Rowlands, Dafydd.

Llythyrau R. Tudur Jones,

Llythyrau, [1959]-[1988], yn trafod materion academaidd fel papurau arholiadau a'r maes llafur yn eu colegau.

Jones, R. Tudur (Robert Tudur).

Llythyrau Gwynfor Evans,

Llythyrau, [1940]-[1985], yn trafod gwleidyddiaeth, ei waith fel golygydd y Welsh Nation a'i gynnyrch llenyddol.

Evans, Gwynfor

Llythyrau Geoffrey Nuttall,

Llythyrau, 1966-1989, oddi wrth ei ffrind y gweinidog a'r hanesydd, o Lundain a Birmingham, yn trafod materion academaidd a'i gyhoeddiadau, ynghyd â throsiad Geoffrey Nuttall o gerdd Pennar Davies 'Moment'. Ceir hefyd ddyfyniadau o'r llythyrau hyn a rhai at Clem Linenberg wedi'u crynhoi gan [Densil Morgan].

Nuttall, Geoffrey F. (Geoffrey Fillingham), 1911-2007.

Llythyrau (Cyfnod Coleg Bala-Bangor),

Llythyrau gan gynnwys rhai oddi wrth Lewis Valentine, Aneirin Talfan Davies, Dom Hubert Dauphin, Euros [Bowen], ynghyd â llythyr oddi wrth Pennar Davies at J. E. Daniel, 1946. Ceir llungopïau [Densil Morgan] o [Blwyddiadur a Llawlyfr yr Annibynwyr, 1946-1950], yn rhestru'r myfyrwyr yn Athrofa Bala-Bangor.

Valentine, Lewis.

Llythyrau Clem C. Linnenberg,

Llythyrau, oddi wrth ei ffrind yn Washington. [Yr oeddent yn ffrindiau agos wedi iddynt gwrdd ym Mhrifysgol Iâl, 1936-1938, a bu'r Dr Linnenberg yn anfon rhoddion ariannol hael i'r teulu ar hyd y blynyddoedd].

Linnenberg, Clem C. (Clem Charles), 1912-

Llyfr cofnodion,

Llyfr cofnodion, 1960-1982, yn cynnwys cofnodion amrywiol pwyllgorau Coleg Coffa, Abertawe. ynghyd â llungopïau [gan Densil Morgan o Blwyddiadur a Llawlyfr yr Annibynwyr, 1961-1980 (gyda bylchau)] yn rhestru staff a myfyrwyr yn Abertawe].

Llyfr cofnodion,

Llyfr yn cofnodi cyfarfodydd Senedd Colegau Aberhonddu ac Abertawe yn ddiweddarach, 1950-1970.

Llais y durtur,

Drafftiau teipysgrif o'r storïau a gyhoeddwyd yn y gyfrol, rhai yn anghyflawn, ynghyd â chyfieithiadau i'r Saesneg o 'Y llwy serch', 'Gazeles' a 'Pencampwr' (er cof am Freddie Welsh, cefnder i'w Dad) a thorion o'r wasg am y bocsiwr, [1972]. Ceir dwy stori ychwanegol 'Crachlenor' a 'Nei a Dyddgu'.

Gwrthwynebydd cydwybodol,

Papurau, 1940, yn ymwneud â'i gais i gofrestru fel gwrthwynebydd cydwybodol yn erbyn gwasanaeth milwrol, ynghyd â deunydd a dderbyniodd oddi wrth CBCO (Central Board for Conscientious Objectors), 1942-1954.

'Gweddi a myfyrdod',

Dyddiadur a ddefnyddiwyd i gofnodi gweddïau a myfyrdodau, [1958]-[1959], gan gynnwys gweddïau a draddododd fel Prifathro [Coleg Coffa Aberhonddu] yn 1959 yn rhydd yn y gyfrol.

Canlyniadau 61 i 80 o 113