Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 167 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau D. J. Williams, Abergwaun ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau oddi wrth ei brawd

Llythyrau, 1902-[1915], oddi wrth Eben Evans, ynghyd â llythyrau, [1916]-[1917], oddi wrth ei wraig Marie yn ymwneud â'u pryder am ddiogelwch Eben. Yr oedd Eben yn athro yn Llundain ond collodd ei fywyd yn Ffrainc.

Storïau byrion anghyflawn

Gwaith heb ei orffen gan gynnwys stori'n ymwneud â Merched Beca, 1934; ysgerbwd stori fer 'Y cymun', 1938; ysgerbwd stori 'Y Darn', 1938; 'Y modd yr aeth Dyn yn Epa. Ffantasi a sgrifennwyd yfory', 1940, a fwriadwyd ei chynnwys yn Storïau'r Tir Coch, [1941].

Ysgrifau

Yn eu plith mae erthygl 'Ich Dien' a fwriadwyd ei chyhoeddi yn Y Wawr; 'Y ffreshwr' gyda llythyr, 1921, oddi wrth Syr Ifan ab Owen Edwards yn amgaeedig yn dychwelyd y gwaith iddo; 'Oer yw'r rhew ac oer yw'r eira', [1954]; 'A Welsh nationalist looks in the mirror' (i'r Drych); erthyglau a wrthodwyd gan y wasg; a llythyr, 1946, a anfonodd at olygydd y Peace News.

Edwards, Ifan ab Owen, 1895-1970

Sgriptiau radio

Sgriptiau, [1935]-[1954], gan gynnwys 'Beni Bwlch y Mynydd', 1935 (teipysgrif a llawysgrif); 'Shemi wad', sgwrs gan Bili John a D. J. Williams, 1936, a cherdyn post o Shemi Wade, Wdig, o Sain Ffagan; 'Storiau'r Môr', 1936, gyda llythyr oddi wrth T. Rowland Hughes; 'Hen wag o Abergwaun', 1938; 'Pwll yr Heyrn', 1938 [cyhoeddwyd yn Storïau'r Tir Coch]; 'Dychangerddi Letys Heti', [cyhoeddwyd yn y County Echo yn 1939]; 'Crechy Dindon', 1939 [cyhoeddwyd yn Storïau'r Tir Coch], ynghyd â fersiwn llawysgrif, cyfieithiad Wil Ifan o'r stori i'r Saesneg ac amlinelliad, 1938, o'r stori gyda'r teitl 'Cydwybod crychydd'; 'Y capten a'r genhadaeth dramor', 1946 [cyhoeddwyd yn Storïau'r Tir Du]; 'Tegwch bro' (Rhydcymerau), 1946, gyda chyfraniad ganddo; 'Abergwaun', 1948, gyda sylwadau Elwyn Evans; 'Pan oeddwn fachgen', [1950]; 'Pum gŵr ... pum plwy', 1950; stori 'Melchidesec y môr' yn ei law a ddychwelwyd gan T. Rowland Hughes yn 1943 am ei bod yn rhy hir, ynghyd â 'D. J. Williams'. Gwerthfawrogiad gan Saunders Lewis, 1954, gyda llythyr, 1954, oddi wrth Aneirin Talfan Davies.

Wil Ifan, 1883-1968

Erthyglau

Ymhlith y torion ceir 'The Labour Candidature: an appeal to the Electorate of Pembrokeshire', 1922, a gyhoeddwyd yn nhri o bapurau lleol y sir, ynghyd â fersiwn llawysgrif; 'A Welsh state. The new Nationalism', South Wales News, 1924; 'Carmarthen Borough Education Committee and the Welsh language', llythyr at olygydd The Welshman, 1924; 'Nodion y Cymro a'r Blaid Genedlaethol', The Labour News, 1925; 'The new Welsh Nationalism', Manchester Guardian, 1926; a 'Sir Gaerfyrddin-ar ddiwrnod garw', Heddiw, Hydref-Tachwedd 1941.

Ysgrifau ar thema cenedlaethol

Ceir llythyr, 1944, oddi wrth D. J. Williams at Prosser Rhys yn amgau yr ysgrifau y bwriadwyd eu cyhoeddi yn un gyfrol, a llythyr, 1946, oddi wrth J. D. Lewis a'i Feibion yn eu dychwelyd ato wedi iddynt brynu Gwasg Aberystwyth yn dilyn marwolaeth Prosser Rhys. Yn eu plith ceir 'Teyrnas Dduw' a 'Y Mawr a'r Bach yn y Greadigaeth', Yr Efrydydd, 1924; 'De Valera', Y Darian, Ebrill 1924; 'Ffantasi ar Oronwy Owen' [yn wreiddiol sgript radio 'Beth petasai Goronwy Owen wedi ei wneud yn Esgob?', 1938, a gyhoeddwyd yn Heddiw, Rhagfyr 1938]; 'Beth sy'n bod ar yr Hen Gorff?', Y Faner, Ionawr 1941; 'Sir Gaerfyrddin-ar ddiwrnod garw', Heddiw, Hydref-Tachwedd 1941; a 'Y ddau genedlaetholdeb yng Nghymru', [Y Llenor, 1944].

Ysgrifau wedi'u cyhoeddi

Yn eu plith ceir 'The secondary school in Wales', The Welsh Outlook, 1923 (llawysgrif a theipysgrif); 'Compulsory Welsh for matriculation', The Welsh Outlook, 1925 (drafftiau); 'Marw arwr ifanc (Gair o goffa am Mr H. R. Jones, Trefnydd cyntaf y Blaid Genedlaethol a fu farw'n ddiweddar yn 36 oed)' yn [1930], [Y Ddraig Goch, Awst 1930]; 'Dau ddehonglydd Cymru' [cyhoeddwyd dan y teitl 'Y ddau ddewis' yn W. T. Pennar Davies, Saunders Lewis: ei feddwl a'i waith (Dinbych, 1950)]; ynghyd â theipysgrifau erthyglau a gyhoeddwyd mewn papurau newydd a 'Neges D. J. Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli', [Y Ddraig Goch, Medi 1962].

Storïau byrion

'Y Gaseg ddu' a gyhoeddwyd yn Cymru, 1916; 'Cadw'r mis', Cymru, 1918, gyda dwy erthygl 'John Jones', The Welsh Outlook, 1921, a 'Wales-its politics and no politics, The Welsh Outlook, 1922 wedi'u rhwymo mewn un gyfrol; 'Bedd [ei] Mamgu', [Baner ac Amserau Cymru, Rhagfyr 1925] (llawysgrif a theipysgrif); 'Blwyddyn lwyddiannus' a 'Dros y Bryniau Tywyll Niwlog', [Storïau'r Tir Glas, 1936]; 'Cysgod Troedigaeth' [Storïau'r Tir Coch, 1941]; 'Y Capten a'r Genhadaeth Dramor' a Pumed Llyfr Anrheg Haf 1945 yn ei chynnwys; 'The court cupboard', cyfieithiad Dafydd Jenkins o 'Y cwpwrdd tridarn' mewn proflenni, a chopi o Wales, Rhagfyr 1945, yn ei chynnwys; a llyfr nodiadau yn cynnwys drafftiau o 'Y Mitsiwr' [a gyhoeddwyd fel 'Ochor draw'r "mini"' yn Y Ford Gron, 1934, a gyda'r teitl 'Un o wŷr ochr draw'r mini' fel stori fer fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd 1934 a hefyd yn Storïau'r Tir Glas yn 1936] a theipysgrif yr ail stori; 'Y gagendor' [Yr Efrydydd, 1924]; a 'Dychymyg Cymru' ?nas cyhoeddwyd. Ceir hefyd feirniadaeth D. J. Williams ar y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais 1954.

Jenkins, Dafydd

Adolygiadau o'i weithiau eraill

Torion o'r wasg yn cynnwys adolygiadau o'i gyfrolau A. E. a Chymru (Aberystwyth, 1929); Hen Wynebau (Aberystwyth, 1934); Storïau'r Tir Glas (Aberystwyth, 1936); Storïau'r Tir Coch (Aberystwyth, 1941); Storïau'r Tir (Aberystwyth, 1966); gwerthfawrogiad Dafydd Jenkins o'r Gyfrol Deyrnged i D. J. Williams a gyhoeddwyd yn 1965 o'r rhaglen radio 'Byd Llyfrau'; ynghyd ag adolygiadau o Straeon ac Ysgrifau Buddugol yn Eisteddfod Castell Nedd a gyhoeddwyd yn 1934 sy'n cynnwys ei dair stori fer a beirniadaeth Kate Roberts ar gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1935. -- Nodwyd ffynhonnell a dyddiad yr adolygiadau gan D. J. Williams ar yr amlenni.

Y Bod Cenhedlig

Llawysgrif a phroflenni Y Bod Cenhedlig a gyhoeddwyd yn 1963, sef cyfieithiad o A. E. [G. W. Russell], The National Being a gyhoeddwyd yn 1916 gyda rhagymadrodd gan D. J. Williams; llythyrau, 1962, yn ymwneud â'r hawl i drosi'r gwaith i Gymraeg, gan gynnwys llythyr oddi wrth Diarmuid Russell [mab A. E. ]; a nodiadau, 1925, o A. E., Co-operation and Nationality (Dulyn, 1912), a, 1960, o John Eglinton, A Memoir of A. E..

Russell, Diarmuid, d. 1973

Mazzini: cenedlaetholwr, gweledydd, gwleidydd

Llawysgrif Mazzini: cenedlaetholwr, gweledydd, gwleidydd a gyhoeddwyd yn 1954 a phroflenni wedi'u cywiro, ynghyd â nodiadau ymchwil o waith Gwilym Oswald Griffith, Mazzini: prophet of modern Europe (Llundain, 1932) a hefyd o Essays: selected from the writings, literary, political, and religious, of Joseph Mazzini.

Yn Chwech ar Hugain Oed

Drafft llawysgrif, 1958, Yn Chwech ar Hugain Oed a gyhoeddwyd yn 1959; proflenni o benodau 1-2, ynghyd â phroflen o'r atodiad 'Ar hyd a lled y Cantref Mawr' nas cyhoeddwyd; proflenni tudalen a hirion wedi'u cywiro gan D. J. Bowen ac adolygiadau, 1959-1960, gan gynnwys un Dafydd Jenkins a ddarlledwyd ar 'Newydd o'r wasg' ar y BBC, 1959.

Bowen, D. J. (David James), 1925-

Hen Dŷ Ffarm

Drafft llawysgrif o Hen Dŷ Ffarm a gyhoeddwyd yn 1953, ynghyd â llyfr nodiadau sy'n cynnwys crynodebau, 1952, fesul tudalen, o'r cynnwys, ac adolygiadau o'r gyfrol, 1953-1955. Rhestrwyd yr adolygwyr a'r manylion perthnasol ar yr amlen ganddo. Ceir nodyn ar ddiwedd y testun: 'Gorffennwyd ddydd Gwener Hydref 3 1952. Ail orffen ddydd Gwener Chwefror 13 1953'.

Storïau'r Tir Du

Drafftiau llawysgrif o'r storïau a gyhoeddwyd yn Storïau'r Tir Du yn 1949: 'Y gorlan glyd', 1948; 'Colbo Jones yn ymuno â'r fyddin', 1941, gyda llythyr oddi wrth Tom Parry, 1941, yn ei gwrthod am ei bod yn rhy hir, a llythyr oddi wrth T. Rowland Hughes, 1941, yn ei gwrthod am yr un rheswm; 'Y Capten a'r Genhadaeth Dramor' (teipysgrif), 1943; a 'Ceinwen', 1949. Ceir 'Meca'r Genedl' mewn rhifyn o'r Fflam, Nadolig 1946, wedi'i diwygio; ynghyd ag adolygiadau o'r gyfrol, 1950.

Hughes, Thomas Rowland

Canlyniadau 61 i 80 o 167