Dangos 2492 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Kate Roberts Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

20 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyr oddi wrth W[illiam] Davies, yn Bootle, Lerpwl,

Diolch i KR am lythyr a thaffi. Mae'n drist o glywed bod KR wedi gadael Bethania, [Aberdâr]. Ceisio dirnad ei rhesymau dros adael y capel. Mae'n ceisio esbonio'r gwahaniaeth rhwng crefydd gyfundrefnol a chrefydd yr ysbryd. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth W. J. Gruffydd, yng Nghaerdydd,

Mae'n diolch i KR am ei hadolygiad, nid am ei bod yn canmol ond am ei bod yn deall. Gofyn iddi anfon stori neu rywbeth arall i'r Llenor. Byddai cael cyfraniad ganddi yn help i hybu'r cylchgrawn yn ei ddyddiau cynnar.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Mae dda ganddo wybod bod KR wedi anfon stori i'r Llenor. Bydd yn lles iddi beidio â chadw cwmni drwg gan mai "pobl go ddrwg i fyw gyda hwy yw sgrifenwyr yr Efrydydd!" Mae'r Llenor yn lanach cwmni i bagan o fath KR. Mae'n ffiaidd ganddo siarad yn gyhoeddus. Ni fyddai'n siarad dros y Gymraeg a chenedlaetholdeb pe bai "modd cadw'n fyw rywsut arall gwmni bach aristocrataidd Cymreig a gadwai lên a chelf yn ddiogel heb falio botwm am y werin daeogion". Gan nad oes digon ohonynt rhaid iddynt fyw gan beryglu eu celfyddyd.

Llythyr oddi wrth William Davies, yn Bootle, Lerpwl,

Mae'n ddrwg ganddo iddo roi argraff o ddiffyg cydymdeimlad â KR yn ei lythyr diwethaf ati. Fe wyr ef lawer am gyfnodau o wae. Er hynny gwelodd mai da oedd Duw yn rhoi Crist drosto, rhaid felly fod popeth a wna yn dda. Y mae am fynd i Gaerdydd i weld 'Dyfed' cyn iddo farw. Y mae yn hoff iawn ohono ac nid oes ganddo lawer i fyw eto. Hoffai pe bai KR yn galw i'w weld wrth droi am adre neu wrth ddychwelyd.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Cafodd flas ar ddarllen gwaith KR [Deian a Loli]. Mae'n ei chymell i gyhoeddi'r gwaith. Neilltuolrwydd ei harddull sydd o fwyaf o ddiddordeb iddo, y mae'n llawn o eiriau byw sir Gaernarfon. Cyfres o straeon byrion yw'r gwaith yn hytrach nag un stori gyfan. Mae'n ei chynghori i beidio ag ysgrifennu mwy i blant. Nid dyna ei gwir elfen. Mae'n awgrymu y dylai ddarllen storïau Katherine Mansfield. Mae'n ei hannog i gasglu ei storïau'n gyfrol - bydd yn llyfr pwysig. Y perygl wrth ysgrifennu i blant yw bod dipyn yn anonest. I blant yn unig y dylai Tegla Davies ysgrifennu. Yr oedd Hunangofiant Tomi yn gwbl onest ond nid felly Gwr Pen y Bryn. Mae'n dda ganddo glywed bod ganddi stori yn rhifyn y gaeaf o'r Llenor. Bydd ganddo yntau act gyntaf drama mewn barddoniaeth yn yr un rhifyn. Blodeuwedd yw'r testun. Os caiff dderbyniad da yna fe aiff ymlaen i orffen y ddrama.

Llythyr oddi wrth 'Tryf[anwy]', [John Richard Williams], ym Mhorthmadog,

Disgrifio ei amgylchiadau. Mae'n brin o arian ac y mae ei lety'n oer a digysur. Hoffai ddychwelyd i Rostryfan ond nid yw hynny'n bosibl am nifer o resymau. Mae'n unig iawn. Drwg ganddo glywed bod John, brawd Kate Roberts, wedi colli dau o'i deulu bach. Trafod Y Llenor, Y Geninen a Faust [T.] Gwynn Jones. Teipiedig.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Mae'n dweud bod llythyr KR yn "llawn lol" wrth sôn nad oes ganddi gymhellion onest i ysgrifennu. Ei gymhelliad ef yw ennill arian a'r ail gymhelliad yw er mwyn ennill cydnabod, edmygedd a thipyn o hunanfoddhad. Nid yw'r cymhelliad cyntaf yn bosibl yn Gymraeg, ysywaeth. Y cynnyrch sy'n bwysig. Wrth ei waith y mae barnu artist, nid wrth ei gymhellion. Y ffordd i fod yn onest yw drwy ddefnyddio'r ymennydd a'r holl nerth. Mae'n gobeithio na fydd iddi roi heibio ysgrifennu am resymau mor ffôl. Mae iddi grwp o edmygwyr ac y mae Katherine Mansfield a Jane Barlow yn perthyn iddi yn yr ysbryd. Drwy'r meddwl yn unig y gellir dianc ar fychander amgylchedd.

Llythyr oddi wrth William Davies, yn Bootle, Lerpwl,

Mae'n siwr bod KR yn edrych ymlaen at ymddangosiad ei llyfr [O Gors y Bryniau]. Y mae ar lwybr newydd yn llenyddiaeth Cymru. Os bydd pawb mor ddwl ag athrawon Ysgol Sir y Bechgyn, Aberdâr, yna bydd yn rhaid llunio esboniad iddo. Pwyso arni i alw heibio wrth ddychwelyd i Aberdâr. Mae'n ddrwg ganddo glywed bod y [Parchedig Robert] Richards yn cael amser anodd tua Bethania [Aberdâr]. Gofyn os bu iddi ddarllen llyfrau David Grayson a Yr Haf a cherddi eraill R Williams Parry.

Llythyr oddi wrth 'Roparz Hemon', L. P. Nemo, ym Mharis,

Gofyn am ganiatâd i gyfieithu'r stori "Y Wraig Weddw" i'r Llydaweg ar gyfer Gwalarn, sef yr atodiad llenyddol i Breiz Atao. Bydd yn gyfle i'r Llydawiaid ddod i gysylltiad â llên Cymru. Mae'n ysgrifennu at W. J. Gruffydd hefyd am ganiatâd gan i'r stori ymddangos yn Y Llenor, cyfrol III (1924), tt 73-81.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Canmol [O Gors y Bryniau] - y mae'n llyfr hardd ymhob ystyr. Bu'n ailddarllen y pedair stori gyntaf y prynhawn hwnnw. Roedd yn falch o weld y cyflwyniad i 'Dic Tryfan', [Richard Hughes Williams]. Diolch iddi am dorri ei henw ar y llyfr ac ychwanegu geiriau mor garedig. Mae'n falch iddo adnabod ei hathrylith yn gynnar a galw sylw eraill at hynny. Petai'n olygydd Y Llenor fe ofalai y byddai ganddi ddigon o ddeunydd ar gyfer ail gyfrol ymhen tair blynedd.

Llythyr oddi wrth R. W. Jones, yng Nghaergybi,

Diolch iddi am [O Gors y Bryniau] a dderbyniasai y bore hwnnw. Darllenodd y ddwy stori gyntaf cyn gollwng y gyfrol o'i law. Nid yw'n syn fod y chwarel yn chwarae cymaint o ran yn ei storïau o gofio ei chefndir yng Nghae'r Gors. Atgofion am Gaernarfon lle bu'n darllen Hanes a Chân ac Ystên Sioned iddi hi a'i chyfoedion. Ychydig a feddyliodd fod llenores mor enwog yn eistedd wrth ei draed. Maent newydd symud i dy newydd a godwyd gan yr eglwys [Hyfrydle, (M.C.), Caergybi] ar gost o ddwy fil o bunnau.

Llythyr oddi wrth T. Gwynn Jones, yn Aberystwyth,

Diolch am gopi o O Gors y Bryniau ac am y cyflwyniad iddo. Dychmygu beth a ddywedai 'Dic Tryfan' pe byddai fyw i ddarllen y gyfrol. Pan fydd yn darllen gwaith KR bydd yn caru ei gydwladwyr yn fawr iawn er iddo ddigio wrthynt yn aml. Y mae Tegla Davies yn cytuno â'i farn. Cafodd hi ddawn ardderchog a dysgodd grefft ardderchog hefyd. Mae'n ei chymell i ysgrifennu rhyw ddeg neu ddwsin o straeon heb eu cyhoeddi o'r blaen yn unman fel y profai'n brofiad a brisiai pob Cymro gwerth yr enw.

Llythyr oddi wrth Ellis Davies, A. S., yng Nghaernarfon,

Ysgrifennu i ddiolch am O Gors y Bryniau roedd eisoes wedi darllen rhai o'r straeon yn Y Llenor. Mae'n deall y chwarelwr i'r dim er hwyrach ei bod yn darlunio ei agwedd at fywyd yn rhy brudd. Mae gan y chwarelwr lawer o hiwmor er bod gwylnos yn apelio ato a'i fod yn cael pleser wrth ganu "Ar lan Iorddonen ddofn".

Llythyr oddi wrth Dorothy [Rees], yn Moffat,

Mae ar wyliau yn yr Alban heb fod ymhell o gartref y brifathrawes. Bu'n ymweld â siop y gof yn Gretna Green a gobeithia gyrraedd Caeredin y diwrnod canlynol. Cawsant dywydd da yn Nyfnaint a Chernyw. Cerdyn post. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth L. P. Nemo ['Roparz Hemon'], ym Mrest, Llydaw,

Ymddiheuro am fod cyhyd cyn cyhoeddi'r cyfieithiad Llydaweg o stori KR "Y Wraig Weddw". Hydera ei bod wedi derbyn y copïau o Gwalarn a anfonodd ati. Mae awch mawr am ddarllen pethau Cymraeg yno. Bu cryn ddiddordeb yn ei gwaith. Cyfieithodd ddrama hefyd o waith A. O. Roberts sy'n debyg o deithio o gwmpas. Pa ddramâu eraill a fyddai'n addas i'w cyfieithu o'r Gymraeg i'r Llydaweg. Ymddiheuro am beidio ag ysgrifennu yn Gymraeg. Nid yw wahaniaeth ganddo ysgrifennu Saesneg gwael ond nid yw'n fodlon ysgrifennu Cymraeg gwael. Saesneg/English.

Canlyniadau 61 i 80 o 2492