Showing 3701 results

Archival description
Papurau Thomas Gwynn Jones Welsh
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Copi o Y Bibl Cyssegr-lan, ... argraphiad cyfargraph (Rhydychen: .... gan Samuel Collingwood ac eraill, ... 1821) a roddwyd yn ...,

Copi o Y Bibl Cyssegr-lan, ... argraphiad cyfargraph (Rhydychen: .... gan Samuel Collingwood ac eraill, ... 1821) a roddwyd yn wobr i John Roberts, brawd i Robert Roberts, taid T. Gwynn Jones a Mrs Sarah Ellen Jones o ochr eu mam, gan y Parchedig Thomas Alban, ficer Llandrillo-yn-Rhos, sir Ddinbych, 'am ei ymddygiad da yn Ysgol Llandrillo; ac am ddysgu darllen Iaith ei Enedigaeth, Mai 7fed 1822'. Ar gefn wyneb-ddalen y Testament Newydd ceir cofnodin yn rhoi dyddiad geni plant Robert a Sarah Roberts, Bryncar (Betws-yn-Rhos], dyddiad geni a bedyddio Sarah [sic] (Roberts), 1822, a dyddiad geni Robert Roberts, 1818. Y mae'r tudalennau o flaen sig. A3 yn eisiau, hefyd tt. 31-2 o [Llyfr Gweddi Cyffredin] a tt. 65-6 o Llyfr y Psalmau, .. trwy waith Edmwnd Prys.

Copi o Y Bibl Cysegr-lan .... gyda nodiadau eglurhaol, gan y Parch. Peter Williams, a'r Parch. Matthew Henry; a sylwadau ...,

Copi o Y Bibl Cysegr-lan .... gyda nodiadau eglurhaol, gan y Parch. Peter Williams, a'r Parch. Matthew Henry; a sylwadau arweiniol i bob llyfr gan y Parch. R. T. Howell, Abertawe (Caeredin, [1876]). Beibl teuluol mawr gydag ymylon â chlasbiau pres a nifer helaeth o ddarluniau lliw. Ar y tudalennau 'Cofrestr y Teulu', rhwng yr Hen Destament a'r Testament Newydd, ysgrifennwyd manylion ynghylch Isaac a Jane Jones (rhieni T. Gwynn Jones a Mrs Sarah Ellen Jones) a'u disgynyddion. Cafwyd manylion ychwanegol gan y rhoddwr ynghyd â dwy daflen a argraffwyd ar gyfer gwasanaethau angladdol Owen Jones (marw 1957) a Mrs Sarah Ellen Jones (marw 1973).

Results 61 to 80 of 3701