Print preview Close

Showing 691 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau file
Print preview View:

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer côr SATB ... yn adlewyrchu dathliad yr Eisteddfod yn 150 mlwydd oed (Tlws y cerddor); emyn-dôn i eiriau Siôn Aled; darn ar gyfer côr SSA fyddai'n addas ar gyfer Nadolig gyda chyfeiliant piano neu organ; ffantasia i'r organ; trefniant o unrhyw alaw werin yn y llon ar gyfer côr TTBB; cyfansoddiad ar gyfer ensemble pres mewn arddull jazz (neu blues); a chasgliad o ddarnau mewn unrhyw gyfrwng na chymer fwy na 8 munud (i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol).

Rhyddiaith,

Darn neu ddarnau rhyddiaith ar ffurf benodol (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); stori fer wedi'i lleoli ym myd diwydiant; blog dros gyfnod o fis; casgliad o 10 darn ar ffurf llên meicro: 'Ystafelloedd aros'; ysgrif bortread; erthygl newyddiadurol ... ar bwnc llosg; llythyr dychmygol at wleidydd; stori arswyd wedi'i hanelu at bobl ifanc; casgliad o hyd at 30 o anecdotau difyr o'r byd chwaraeon; a chystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Yr Ariannin: 'Byw yn y Wladfa heddiw'.

Dysgwyr,

Cerdd: 'Croesi' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Eisteddfod ddoe a heddiw' (y tlws rhyddiaith); sgwrs rhwng dau berson ar faes yr Eisteddfod'; sgript cyfweliad hyd at 5 cwestiwn ac ateb gyda Chymro neu Gymraes enwog (byw neu farw); llythyr cwyno; adolygiad o lyfr neu CD Cymraeg; a gwaith grŵp neu unigol.

Results 681 to 691 of 691