Showing 70 results

Archival description
Papurau Crwys,
Print preview View:

Pryniad 2002,

Llythyrau, cerddi, pregethau, llyfr lloffion a phapurau amrywiol, [1876]-1967, gan gynnwys taflen rhaglen deyrnged i Crwys, 1966.

Rhyddiaith

Llyfrau nodiadau'n cynnwys drafftiau o erthyglau a gyfrannodd i'r News Chronicle, 1949-1950; llyfr nodiadau wedi'i labelu 'Llangyfelach' [lluniodd Crwys sgript 'Llangyfelach' a ddarlledwyd yn y gyfres 'Brethyn Cartre' gan y BBC yn 1952, ac ymddengys mai nodiadau ar gyfer y sgript a geir yma], yng nghefn y llyfr ceir atgofion Crwys; nodiadau ar gyfer rhaglen ar Elfed yn 1963 (TWW), a chyfraniad Crwys i'r rhaglen 'Trem ar Gymru', Teledu Cymru, 1963, yn ymwneud â'i hanes. Llyfr nodiadau'n cynnwys ei atgofion, [1954], am Elfed, [cyfrannodd Crwys erthygl 'Elfed: Atgof a Theyrnged' i Y Genhinen, Haf 1954]. Hefyd, ceir llyfr nodiadau'n dwyn y teitl 'Ysgub arall gan Crwys', 1949 [fe'i cyhoeddwyd yn ddiweddarach fel Pedair Pennod yn 1950].

Llyfr lloffion

Llyfr lloffion, [1906]-[1912], gan gynnwys erthyglau 'Journey to Llanfaches' gan Crwys, 1912; llun o Crwys, bardd y Goron Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1910; a thorion rhydd gan gynnwys 'Growth of nonconformity in Wales', The Brynmawr Free Church Magazine, Mai 1910, ac adroddiad Crwys ar gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 1913.

Cerddi

Llyfr nodiadau gan gynnwys ei bryddest i 'Abraham Lincoln' [a enillodd goron iddo yn San Ffransisco yn 1913]; llyfr nodiadau, 1913, yn cynnwys cerdd i G[oronwy] O[wen]; amlen gyda drafftiau o'r cerddi 'Morgannwg (Gwlad y glo)' a 'Mynwent y cŵn (yn Nanteos)'; llyfr nodiadau'n cynnwys cerddi ar ffurf torion o'r wasg ar gyfer Trydydd Cerddi Crwys a gyhoeddwyd yn 1935 (ond rhoir 1936 ar ddiwedd rhagair y llawysgrif), ynghyd â thorion diweddarach megis 'Anathoth', Y Tyst, 1966 ac amlen wedi'i labelu 'Poems by Dad'; a chopi o Shakespeare, The Merchant of Venice (Rhydychen, 1891) gyda cherdd 'Casglu blodau' gan W. C. Williams, [18]95, wedi'i hysgrifennu yn y gyfrol.

Adysgrifau

Llyfr nodiadau yn cynnwys adysgrif o F. H. Bradley, Ethical Studies (Llundain, 1876) ac un arall yn cynnwys adysgrif o Wilhelm Bousser, What is religion? (Llundain, 1907) yn yr un llaw, [1876]-[1920]. Ymddengys nad Crwys sydd wedi gwneud y gwaith copïo.

Results 41 to 60 of 70