Dangos 51 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Zonia M. Bowen (Merched y Wawr),
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau gweinyddol,

Papurau gweinyddol Merched y Wawr, 1965-1975, yn cynnwys papurau'n ymwneud â Sefydliad y Merched Y Parc a sefydlu Merched y Wawr, 1965-1967; cyfarwyddiadau ar sut i ddechrau cangen o'r Mudiad, 1967-1975; cofnodion y Cyngor Cenedlaethol, 1967-1975; cofnodion y Pwyllgor Gwaith, 1969-1975; copi o'r Cyfansoddiad, 1969; papurau'n ymwneud ag ethol swyddogion cenedlaethol, 1971-1973; a rhestri o ganghennau, 1975.

Papurau Zonia M. Bowen (Merched y Wawr),

  • GB 0210 ZONBOW
  • fonds
  • 1965-2007 /

Papurau Zonia M. Bowen yn ymwneud â sefydlu mudiad Merched y Wawr, 1965-2007, yn cynnwys llythyrau'n ymwneud â changhennau ledled Cymru, 1967-1975; gohebiaeth gyffredinol, 1967-1977; papurau gweinyddol, 1965-1975; papurau ariannol, 1967-1975; cylchlythyrau, 1968; torion o'r wasg, 1967-2007; a phapurau amrywiol, 1967-2007, gan gynnwys anerchiadau, papurau'n ymwneud ag ymddiswyddiad Zonia M. Bowen, a chrynodebau o hanes y Mudiad.

Bowen, Zonia

Sefydliad y Merched Y Parc a sefydlu Merched y Wawr,

Papurau'n ymwneud â Sefydliad y Merched Y Parc a sefydlu Merched y Wawr, 1965-1967, gan gynnwys llyfr dathliad Sefydliad y Merched rhwng 1915 ac 1965, 1965; adroddiad blynyddol Sefydliad y Merched, 1965; papurau'n ymwneud â chyfarfodydd Sefydliad y Merched Y Parc a Sir Feirionnydd, 1965-1966; a phapurau, yn bennaf gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen ac unigolion amrywiol, ynglŷn â'r anghydfod rhwng Sefydliad y Merched a changen Y Parc a arweiniodd at sefydlu Merched y Wawr, 1967. Ceir rhestr o gynnwys y ffeil o fewn y ffolder.

Teithiau tramor,

Papurau ariannol yn ymwneud â theithiau tramor Merched y Wawr, 1972-1975, gan gynnwys llyfr banc, cyfrifon a rhai llythyrau yn ymwneud â theithiau'r Mudiad i Lydaw, 1972 ac 1973; anfonebau taith Paris, Amsterdam a Brwsel, 1974; ac ambell lythyr yn sôn am y daith i'r Undeb Sofietaidd, 1975. Zonia M. Bowen oedd yn gyfrifol am drefnu'r teithiau yma ar ran y Mudiad.

Torion o'r wasg,

Llyfrau lloffion, wedi eu creu gan Zonia M. Bowen, yn cynnwys torion o'r wasg, 1967-2007, yn ymwneud â hanes Merched y Wawr o'r flwyddyn ei sefydlwyd yn 1967 hyd at ymddiswyddiad Zonia M. Bowen o'r Mudiad yn 1975. Hefyd, ceir rhai erthyglau yn sôn am ddathliadau penblwydd cangen y Parc yn 2007.

Ymddiswyddiad Zonia M. Bowen,

Papurau, 1965-2007, a gasglwyd ynghyd gan Zonia M. Bowen yn ymwneud â'r anghydfod ynghylch lle crefydd yng nghyfarfodydd swyddogol Merched y Wawr a arweiniodd at ymddiswyddiad Zonia M. Bowen fel Llywydd Anrhydeddus Cenedlaethol ac aelod o'r Mudiad yn 1975. Mae'r ffeil yn cynnwys crynodeb o'r hanes gan Zonia M. Bowen, 2007; teipysgrif sgwrs gyda Zonia M. Bowen yn trafod yr anghydfod ar gyfer prosiect hanes llafar, 2001; gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen a'r Cyngor Cenedlaethol yn trafod y mater; copi o'r llythyr ymddiswyddo, 1975; a llythyrau a datganiadau i'r wasg yn esbonio ochr Zonia M. Bowen o'r ddadl.

Canlyniadau 41 i 51 o 51