Dangos 2492 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Kate Roberts Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

20 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Mae'n addo mynd i Hirwaun ar gais KR. Mae wrthi fel lladd nadroedd yn gorffen ei lyfr ar Bantycelyn. "Y mae'n bur dda, os goddefwch imi fragio! O leiaf bydd yn dipyn o sioc i'r bobl na ddarllensant Williams drwyddo erioed". Mae Saunders Lewis yn ofni ei fod yn cytuno â KR ynglyn â nofel Morris Williams. Mae'n hyderu y caiff ei chyhoeddi er mwyn iddo fynd ymlaen i gyhoeddi un arall "lle na fydd ef ei hun yn brif fater ei waith. Nofel llanc, adolescent yw hon. Rhaid mynd heibio i lencyndod cyn y galler ei drin yn null Joyce neu neb arall o'r meistriaid". Hwyrach y bydd rhaid galw pwyllgor y Blaid tua'r Pasg yn Aberystwyth. Hydera y bydd hynny'n gyfleus iddi. Mae'n teimlo fel petai "trol wedi mynd drosof a'm gadael yn fflat a sych". Mae'n bwriadu rhoi copi o'i lyfr [ar Bantycelyn] i KR ac i Prosser Rhys a dau neu dri arall pan fydd yn ymddangos. Iddynt hwy yr ysgrifennwyd ef.

Llythyr oddi wrth D. Llewelyn Jones, yn Llanidloes,

Anfon deunydd i lenwi rhifyn o'r Eurgrawn. Addo adolygiadau i'r Faner cyn bo hir. Nodi ei brysurdeb yn cynnwys beirniadu yn eisteddfod flynyddol Ysgol Uwchradd Llanidloes. Cododd y safon y llynedd pan oedd Bobi Jones a Tecwyn Jones yn athrawon yno. Stopiodd Gwasg y Brifysgol ag anfon copïau adolygu am fod y cynolygydd wedi cadw amryw heb eu trafod. Y mae hefyd yn darllen proflenni Geiriadur Prifysgol Cymru. Iechyd ei wraig. Rhyfeddu bod Yr Ebol Glas yn cael ei gyhoeddi gan Gee am 3/6. Synnu ei fod mor rhad.

Canlyniadau 41 i 60 o 2492