Dangos 2492 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Kate Roberts Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

20 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Diolch am anfon i ganmol sgwrs radio. Ni chlywodd ei sgwrs hi a'i rhagflaenodd ef. Rhydwen Williams oedd yn cyd-ddarllen gydag ef yn y rhaglen, "mae ganddo lais pêr ac y mae'n wr ifanc dymunol dros ben a naturiol a diymhongar". Anfonodd y sgwrs i'r Faner nesaf gan ei bod yn dilyn Jeremi Owen yn ddigon priodol. Cafodd lythyr oddi wrth D. J. Williams, Abergwaun, sydd yn gwella'n dda ac wedi ailddechrau ysgrifennu. Mae ganddo ddrama i'w hysgrifennu erbyn mis Mai ond ni chafodd amser i'w dechrau eto.

Llythyr oddi wrth O. G. Williams, yn Ystalyfera,

Diolch am lythyr a dderbyniodd ganddi. Cafodd bleser mawr o ddarllen Stryd y Glep. Gall hi a Saunders Lewis fel T. Gwynn Jones greu llenyddiaeth bob tro y gosoda bin ar bapur. Hoffai ysgrifennu hanes plwyf Llangïwg cyn marw. Ysgrifennodd bennod ar hanes blaen Cwmtawe ar gyfer Undeb yr Annibynwyr a gynhaliwyd yno fis Mehefin.

Llythyr oddi wrth W. Gilbert Williams, yn Rhostryfan,

Mae'n bwriadu ysgrifennu am helynt y Cilgwyn. Yr oedd y gweithwyr yno yn 1847-8 heb eu talu gan y cwmni ers wythnosau. Cafodd wyth eu gwysio am fynd i'r chwarel tra'r oedd y cwmni mewn trafferthion ariannol. Bu cynnwrf yn y carchar oherwydd iddynt leihau dogn bwyd yr wyth. Caiff gadw'r daflen achau sy'n ymwneud â theulu ei mam. Manylion am Jane Williams, Cae Morfudd (Bryn Coch wedyn).

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Awstria],

Maent yn disgwyl caniatâd i deithio i Brydain fel ffoaduriaid. Ceisio trefnu llety yn agos i Lundain gan nad yw iechyd ei gwr yn dda. Pwysleisio bod Daisy yn gwerthfawrogi cefnogaeth a chymorth KR iddi, er gwaethaf ei hymddygiad. Nid yw yn anniolchgar. Nid oes angen i KR boeni am iddi feirniadu Daisy. Mae'n gallu derbyn y feirniadaeth ohoni. Sôn am salwch ei gwr. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Diolch i KR am ei chyfraniad diweddaraf i'r Ddraig Goch ["Ysbryd Crefft Ymhlith Merched", Y Ddraig Goch, Hydref 1926, t 6] - y peth gorau o ddigon ers "Ysbryd Crefft" Gwynn Jones ["Ysbryd Crefft", Y Tyddynnwr, Chwefror 1923, tt 181-93]. Ni ddylai adael i'r Blaid gymryd ei holl hamdden, er bod hynny yn beth rhyfedd iddo ef ei ddweud fel Llywydd y Blaid. Rhaid iddi ysgrifennu nofelau, mae hynny'n llawn cystal gwaith yn y pen draw i'r Blaid ag yw sefydlu cangen. Mae arno ofn pwyllgor y Blaid yng Nghaernarfon - maent yn wyllt a diddoethineb. Da ganddo fod H. R. Jones yn mynd i Aberystwyth i fod dan ddylanwadau gwell. Dylai Undeb Athrawon Cymru fynnu gan awdurdod addysg y Rhondda gydnabod yr Undeb ar yr un tir â'r N.U.T. Byddai cylchgrawn yn beth da ond golygai lawer o waith i rywun. Rhybuddio KR i beidio â bod yn olygydd iddo. Mae'n gweld angen undeb awduron Cymraeg i fynnu telerau teg gan gyhoeddwyr.

Llythyr oddi wrth Winnie Parry, yn Croydon,

Diolch i KR am gywiro stori o'i heiddo. Mae'r iaith wedi newid tipyn ers i'r stori ymddangos gyntaf yng Nghymru'r Plant. Mae ei llyfr Cerrig y Rhyd yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgolion. Trafod rhagoriaeth ffurf seml y ferf ar y ffurfiau cryno. Canmol rhai o storïau KR ac awgrymu y dylai lunio drama Saesneg i roi darlun cywir o fywyd Cymru.

Canlyniadau 41 i 60 o 2492