Dangos 556 canlyniad

Disgrifiad archifol
cyfres Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau Lili Williams

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau, dyddiaduron (yn cofnodi apwyntiadau yn bennaf), a phapurau amrywiol Lili Williams, [?1940]-1981, sef merch i Evan Roberts, hanner brawd Ellen Hughes, mam Mathonwy Hughes.

Williams, Lili 1900?-1981?

Papurau Mair Hughes

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau Mair Hughes, Davies gynt, [?1901]-[?1986],sef gwraig Mathonwy Hughes. Ymysg ei phapurau personol ceir deunydd yn ymwneud â'i theulu.

Hughes, Mair [?1906]-1997

Cofnodion

Mae'r ffeil yn cynnwys agendau a chofnodion Pwyllgor Rheoli Cronfa Apêl J. Saunders Lewis o'r cyfarfod cyntaf ar 3 Fehefin 1989 hyd 30 Ebrill 1994, a chopi o gofnodion yr unfed gyfarfod ar bymtheg ar 17 Tachwedd 2001; ynghyd â chyfrol o gofnodion Pwyllgor Sir Gaernarfon o'r Gronfa, o'r cyfarfod cyntaf ar 10 Mai 1992 hyd at y pedwerydd cyfarfod ar ddeg ar 2 Gorffennaf 1995.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth y Gymdeithas gydag aelodau, masnachwyr a chyrff a mudiadau eraill, ynglŷn â phob agwedd o weithgareddau'r Gymdeithas.

Cofnodion ariannol,

Cofnodion ariannol y Gymdeithas, yn cynnwys anfonebau, derbynebion, treuliau swyddogion y Gymdeithas, manylion am gyfrifon banc, yswiriant a nwyddau marchnata.

Cyfrifon amrywiol,

Llyfrau'r eisteddleoedd, 1864-1902, 1873-1934; 'Llyfr had yr Eglwys', 1902-1913; llyfrau casgliad y goleuni (pennau teuluoedd), 1907-1931; a llyfr casgliad y goleuni (ieuenctid), 1940-1978.

Papurau personol

Papurau personol, ynghyd â rhai wedi'u crynhoi gan Iorwerth Peate, 1826, [?1843] a [1899]-1982, yn cynnwys erthyglau amdano, llyfr cofnodion Cangen Caerdydd a'r Cylch o Blaid Genedlaethol Cymru, 1930-1934, a phrosbectysau a phapurau printiedig eraill a gynhyrchwyd gan weisg preifat, 1928-1962.

Canlyniadau 541 i 556 o 556