Showing 188 results

Archival description
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Print preview View:

Sefydlu'r Llyfrgell

Papurau a gohebiaeth, 1977-1979, a 1981, yn ymwneud â sefydlu Llyfrgell y Ganolfan, yn cynnwys copi o gyfansoddiad drafft y Ganolfan ([1977]); cofnodion cyfarfod yr Ymgyrch Apelio (1977); manylion rhaglen gwaith y ‘Manpower Services Commission’ ([1977]); amlinelliadau o reolau benthyg (1978); a llythyrau, 1978-1979; 1981; oddi wrth D. B. Lloyd; Glanville Price; T. A. Owen; J. E. Caerwyn Williams; W. W. Dieneman; Brian Howells; John Rhys; Jack Evans; ac R. Geraint Gruffydd.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod ac agendâu Corff Llywodraethol y Ganolfan, 1978-1979; Adroddiad y Llyfrgellydd 1978-1979 (1979); adroddiad ariannol (1979); Adroddiad Blynyddol y Ganolfan 1978-1979 (1979); memoranda; copi o gyfansoddiad drafft y ganolfan (1977); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1978-1979) oddi wrth J. E. Caerwyn Williams; Ieuan Gwynedd Jones; Glanville Price; Graham L. Rees; R. R. Davies; Dafydd Jenkins; Harold Carter; a W. W. Dieneman.

Adroddiadau ariannol

Papurau, 1978-1985, yn cynnwys adroddiadau ariannol Apêl Syr Thomas Parry Williams (1978-1983), a datganiad incwm (1984); memoranda (1980; 1982; 1985) yn trafod taliadau ac adroddiadau; datganiadau ariannol cyffredinol (1978-1980); a ffurflen ysgoloriaeth ‘Fulbright’ (1983) gyda llythyrau cysylltiedig (1984-1985) oddi wrth John Koch a J.O.A. Herrington.

Rhoddion cyffredinol

Gohebiaeth a phapurau, 1978-1979, yn ymwneud â rhoddion i Lyfrgell y Ganolfan, rhai fel rhan o Apêl Syr Thomas Parry-Williams; a sefydlu'r Llyfrgell; gyda’r papurau yn cynnwys datganiad i’r wasg, [1979]; cofnodion cyfarfod yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd, Aberystwyth (1978); rhestrau o roddion (1978) o gasgliadau Gwasg Gee, Syr Ben Bowen Thomas, a’r Foneddiges Amy Parry-Williams; a llythyrau (1978-1979), oddi wrth J. E. Caerwyn Williams; A. T. Griffiths; R. Geraint Gruffydd; Herbert Pilch; Rachel Bromwich; Ann Morgan; Gwyneth Vaughan Jones; Ieuan Gwynedd Jones; W. W. Dieneman; a Charles Charman.

Cofnodion cyfarfodydd

Agenda a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Gwaith y Ganolfan, (1979-1980), yn cynnwys adroddiad ariannol Apêl Syr Thomas Parry Williams (1980); agenda a chofnodion cyfarfod y Corff Llywodraethol, (1979-1980 a 1983-1984), yn cynnwys Adroddiadau’r Llyfrgellydd; cofnodion cyfarfod yr Uwch Gynrychiolwyr (1983); memoranda yn trafod y cais i’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion, (1984); cyfarwyddiadau i wneud cais am grant gan y Llyfrgell Brydeinig (1979); rhestr o gyhoeddiadau a phrisiau, [1979]; copi o’r catalog ‘Books in Print from Ireland’ (1980); adroddiad ariannol Apêl Syr Thomas Parry Williams, (1984); rhestr o gyhoeddiadau a phrisiau, ([1980x1984]); a llythyrau oddi wrth Brian Howells (1979); Gareth Owen (1983) ac Emrys Wynn Jones (1984).

Yr Arddangosfa yn yr Eisteddfod

Papurau a gohebiaeth, 1987, yn ymwneud â threfnu arddangosfa’r Ganolfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn cynnwys drafftiau ar gyfer y paneli gwybodaeth, gyda manylion am waith y Ganolfan a sefydliadau astudiaethau Celtaidd eraill; a llythyrau cysylltiedig (1987); oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Angela West; Rhian Andrews; Gareth Wyn Evans; J.P. Duggan; Oliver Padel; a Ceri Lewis. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys ffurflen rhodd ar gyfer Apêl Syr Thomas Parry-Williams [?1979].

Gruffydd, R. Geraint

Results 21 to 40 of 188