Mae'r ffeil yn cynnwys copi llawysgrif o adroddiad yn dwyn y teitl 'Yr Ysgol Sul a'r Beibl' a oedd, cyn hynny, yn 'Adroddiad Pwyllgor y Gogledd am yr Ysgol Sul'. Ysgrifennwyd hwn yn yr un cyfnod â'i lyfryn Yr Ysgol Sul, a gyhoeddwyd yn Llandybïe yn 1944, er ei fod yn gwbl wahanol.
Mae'r ffeil yn cynnwys copi llawysgrif o araith Saesneg gan Bebb, a oedd yn sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn sir Gaernarfon, ar hunanlywodraeth i Gymru a chopi o'i anerchiad etholiadol a yrrwyd at etholwyr sir Gaernarfon yn ystod yr ymgyrch.