Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau, pregethau a nodiadau llawysgrif gan David Hopkin ar bynciau megis 'Pabyddiaeth', 'Dirwest' a 'Y Bedyddwyr a'r gwaith cenhadol'. Yr oedd David Hopkin a David Bowen yn gyd-olygyddion 'Cyfres cedyrn canrif' a 'Chyfres y Bedyddwyr Ieuanc'.
Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau llawysgrif a chopïau gorffenedig o gerddi gan T. G. Thomas, Treboeth, gan gynnwys 'Yr Afradlon, 'Y Fordaith' ac 'O Arwain Di'.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau ar Ioan Emlyn a John Jones (Mathetes) o'r enw 'I ddau John Jones o Lannau Teifi'; llythyrau, cardiau post a thoriadau papur newydd yn ymwneud â chofgolofn Ioan Emlyn, a gohebiaeth â ŵyr Ioan Emlyn, Aneurin Gomer Emlyn Jones Fudge.
Mae'r ffeil yn cynnwys cerdd llawysgrif gan Brynfab ar achlysur dadlennu cofgolofn Ben Bowen, llythyr oddi wrth E. Williams, mab Brynfab, nodiadau ar waith Brynfab o dan y teitl 'Oriel y Beirdd' a thoriadau papur newydd.
Mae'r ffeil yn cynnwys emyn-donau gan gyfansoddwyr amrywiol, yn cynnwys John Hughes, T. J. Morgan a Rhyddid Williams, a gasglwyd gan David Bowen er mwyn eu cyhoeddi yn Llawlyfr Urdd y Seren Fore.
Mae'r gyfres yn cynnwys emynau David Bowen a geiriau ac alawon a gasglwyd ganddo ar gyfer ei gyhoeddiadau. Cyhoeddwyd rhai o'r emynau yn Pictwr a Phennill, Emynau Pen y Mynydd, Salmau'r Plant ac yn Llawlyfr Urdd y Seren Fore.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr o gerddi David Bowen a gopïwyd ganddo ynghyd â rhestr o'r cerddi. Ceir hefyd restr o aelodau 'Cylch awen a chân' ardal Llanelli, 1952-1953.