Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

'Cymro' gwaed Coch cyfan!,

Mae'n iawn i gredu nad oes gan Archesgob Cymru [Alfred George Edwards] unrhyw gydymdeimlad â'r iaith Gymraeg. Penododd Ll. Wynne Jones, Cymro di-Gymraeg yn archddiacon ac yn Ddeon Llanelwy a chafwyd protestio mawr. A phan ymddiswyddodd y Deon yn ddiweddar fe benododd Sais yn ei le. Penododd offeiriaid Saesneg yn y Rhyl, Bae Colwyn, etc. Mae hyn i gyd yn dangos ei fod yn anwybyddu'r iaith yn llwyr. Mae hefyd wedi penodi ei fab yn Ganghellor yr Esgobaeth ac yn Gofrestrydd y Llys Prawf, er i hwnnw fethu fel bargyfreithiwr. Rhestrir nifer o enghreifftiau eraill o ffafrio perthnasau. Nid oedd un o'i blant yn medru'r Gymraeg. Mae hyn i gyd yn profi ei fod yn haeddu'r feirniadaeth a fu arno yn Y Llenor.

[W. J. Gruffydd at Gofrestrydd Coleg Caerdydd, D. J. A. Brown],

Adroddiad ar staffio Adran y Gymraeg. Pwysleisio pwysigrwydd dysgu Cymraeg yn y pedwar coleg oherwydd na wneir hynny yn unman arall. Mae dyletswydd ar ddarlithwyr Cymraeg i gynhyrchu testunau ar gyfer eu dosbarthiadau. Mae'n amlinellu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu'r Wyddeleg ac astudiaethau Gwyddelig yn Iwerddon. Mae'n cynnwys siart yn dangos y staffio yn adrannau'r colegau eraill a'r nifer cyfatebol o fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau Cymraeg. Maent i gyd yn tanlinellu mai adran Caerdydd sy'n dioddef fwyaf. Copi teipysgrif.

[W.] Nantlais [Williams], Rhydaman,

Diolch i W. J. Gruffydd am ei gyfeiriadau caredig ato yn Y Llenor. Mae pawb sy'n ceisio gweithio'n gydwybodol yn hoffi cael clap ar ei gefn yn y byd hwn. Mae'n edmygu W. J. Gruffydd yn fawr fel bardd, llenor, gweledydd a meddyliwr gafaelgar. Bu yn y Wladfa a theimla y dylai Cymru ddeffro i borthi'r miloedd sydd yno yn well, eu porthi'n llenyddol. Dylai rhyw lenor mawr fynd allan yno a rhyw gerddor gwych, heb sôn am efengylwr. Rhaid achub miloedd Cymry Ariannin oherwydd trwy eu hachub hwy ceir allwedd i efengyleiddio Argentina a De America i gyd. Dylid anfon mwy o negesau iddynt yn Gymraeg dros y radio.

[W.] Nantlais [Williams], Rhydaman,

Mae'n anfon cyfrol o gerddi i blant - 'ychydig o felysion ar adeg prinder melysion!' Efallai y bydd y gyfrol yn gymorth i gadw'r Gymraeg yn fyw. Bechgyn Talfan sy'n gyfrifol am ei chyhoeddi. Teimlodd chwant anfon copi i W. J. Gruffydd yn rhodd fel un sy'n caru Cymru. [Darlun a Chân].

[W.] Nantlais [Williams], Rhydaman,

Diolch am groeso mor garedig i aelwyd anrhydeddus Y Llenor. ['Ar y Ffordd i Dal-y-llychau', Y Llenor cyf. XIX (1940), t. 68]. Cafodd ias a lawenydd hefyd pan ddarllenodd nodiadau eirias, gwrol a gonest W. J. Gruffydd. Nid oes agwedd arall yn bosibl heddiw. Mwynhaodd 'Bethesda'r Fro' gan W. J. Gruffydd hefyd yn yr un rhifyn [tt. 72-7].

'Bill' [William J. Williams], Caerdydd,

Awgrymwyd enw W. J. Gruffydd ar gyfer bod yn gynrychiolydd Cymru ar Bwyllgor yr Ysgolion Bonedd. Byddai'n well ganddo weld W. J. Gruffydd yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Ail-lunio and nid yw ei enw wedi ei gynnwys ar gyfer hwnnw. Cyhoeddwyd yr enwau yn Nhy'r Cyffredin y noson cynt. Y mae William J. Williams ei hunan ar y pwyllgor hefyd. Mae'n trefnu iddynt fynd i Aberteifi ddydd Mawrth Gwyl y Banc a daw Wheldon i lawr gyda William Thomas. Mae Tom Owen yn holi os oes modd iddynt aros yn Abergwaun. Y syniad yw mynd i Aberteifi ddydd Mawrth neu ddydd Mercher a dychwelyd ddydd Iau neu ddydd Gwener.

[William Edward Williams] 'Gwilym Rhug', Bae Colwyn,

Diolch am ei ymateb i'r llythyr blaenorol [894 uchod] ac am ei awgrym amserol. Amgaeir rhestr o'r personau o'r tu allan i'r Orsedd. Gan fod 17 Ionawr yn anhwylus i rai, a fyddai 10 Ionawr yn hwylusach? Trefnir y cyfarfod am 2.30 p.m. Rhestr o bedwar enw ar ddeg a wahoddwyd i'r gynhadledd yn Amwythig. Cylchlythyr teipiedig.

[William Edward Williams] 'Gwilym Rhug', Bae Colwyn,

Mae'r Orsedd yn ymgynghori â gwyr amlwg ym mywyd Cymru sydd y tu allan i'r Orsedd i weld y modd gorau i sicrhau eu cydweithrediad er mwyn ehangu gwasanaeth a dylanwad yr Orsedd fel gallu cenedlaethol. Penderfynodd yr Orsedd godi Pwyllgor Arbennig a chael nifer cyfatebol o Gymry amlwg i'w cyfarfod mewn cynhadledd. Cynhelir hon ar 17 Ionawr 1930 yn Amwythig a gwahoddir W. J. Gruffydd i fod yno. Rhestrir swyddogion yr Orsedd. Ni thrafodir cyfansoddiad yr Orsedd, ei phasiant na'r defodau cysylltiol. Cylchlythyr teipiedig.

W. Williams, Llandudno,

Arferai fod yn Arolygydd Ysgolion o dan Syr Owen Edwards. Y mae wedi ymddeol o'r gwaith hwnnw ers dros ddeng mlynedd. Darllenodd Y Tro Olaf gan W. J. Gruffydd gyda blas. Mae'r hyn a ddywed am 'Hedd Wyn' wedi ei annog i ysgrifennu ato. Cymerodd ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth a'r cynganeddion ond methodd erioed â chael blas ar ddarllen gwaith 'Hedd Wyn'. Ni chafodd 'afael' ar awdl y 'Gadair Ddu' ychwaith. Wedi darllen ysgrif W. J. Gruffydd y mae wedi codi ei galon. Mwynhaodd hefyd yr ysgrif 'Y diweddar Pontius Pilat' a'r sôn am Fair o Fagdala. Dywed H. P. Latham yn ei lyfr The Risen Master nad oes sicrwydd mai yr un oedd hi i'r 'bechadures' y ceir sôn amdani yn Luc vii, 37-50, na bod lle i amau ei diweirdeb. Mae'r dehongliad o'r modd yr atgyfododd yr Iesu yn cydfynd â dehongliad Pwyllgor Caerdydd o Ioan xx, 7. Cafodd bleser mawr o ddarllen cofiant O. M. Edwards. Mae'n darllen fel rhamant.

Tom Williams, Aberystwyth,

Gellir trefnu bod rhywun arall yn darllen Rheol Buchedd Sanctaidd [ar gyfer Geiriadur Prifysgol Cymru]. Gwell ganddo pe bai W. J. Gruffydd neu Mr Jenkin James yn ymgymryd â'r sgwrs radio, byddai ef yn fodlon danfon unrhyw wybodaeth angenrheidiol. Mae'n amgau ei ysgrif ar oedran geiriau ['Oedran Geiriau Cymraeg', Y Llenor cyf. XV (1936), tt. 44-7]. Y mae hefyd yn amgau copïau o slipiau'r Geiriadur am y gair 'egwyd'.

T. Lloyd Williams, Llundain, S.E.25,

Ymddiheuro am ei boeni ac am y ffaith na fedr ysgrifennu yn Gymraeg. Ei dad oedd y darlithydd Hebraeg cyntaf yng Ngholeg Caerdydd. Bu'n ceisio dadlau fod yna reswm tra phwysig dros ddiogelu'r iaith Gymraeg. Ni chydnabyddir Cymru fel undod gwleidyddol. Yn wahanol iawn i'r Alban a'r ddwy Iwerddon, nid oes gan Gymru ei systemau cyfreithiol a chyllidol ar wahân. Nid yw cenedligrwydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ddibynnol ar yr iaith. Yr iaith yw'r unig arf sydd gan y Cymry i gadw eu hunain rhag troi'n Saeson. Mae'n rhaid bod y ddadl hon yn iawn gan fod y Western Mail yn gwrthod ei hargraffu er gwaetha'r ffaith eu bod yn cyhoeddi sothach 'Listener-in' a Huw Menai dros y Saesneg. Ni fydd ef yn dathlu dydd y Coroniad.

T. H. Parry-williams, Aberystwyth,

Anfon dwy soned i'r Llenor. Hoffai weld eu cynnwys yn y rhifyn nesaf. Cas ganddo adael i bethau fel hyn sefyll - maent yn suro mor fuan. Buasai wedi eu hanfon ynghynt ond ei bod yn adeg gwyliau. ['Dwy Soned', Y Llenor, cyf. XVIII (1939), t. 5].

T. H. Parry-williams, Aberystwyth,

Mae'n cytuno eu bod yn bur ddrwg am destunau cywyddau. Maent yn teipio copïau o gywyddau yna, rhai o lyfrau a rhai o lawysgrifau a'u rhannu i'r myfyrwyr yn y dosbarth. Fe gymer y gwaith y gofynnwyd iddo ei wneud gryn dipyn o amser os yw i fod o unrhyw werth parhaol. Mae nifer o ymchwilwyr ar ganol llunio testun o waith nifer o'r cywyddwyr. Annoeth fyddai gwneud dim cyn i'r rheiny orffen. Mae Bangor yn defnyddio Gwyneddon 3 yn helaeth iawn at y diben hwn. Y mae casgliad Y Ford Gron a rhai T. G[wynn] J[ones] yn ei Llên Cymru ar gael wrth gwrs.

T.H. Parry-williams, Aberystwyth,

Awgrymodd W. J. Gruffydd yr hoffai gael cyfraniad arall i'r Llenor. Mae'n amgau ysgrif fer. Os yw'n ddigon buan ar gyfer rhifyn Ebrill yna caiff ei chyhoeddi, os nad yw yna hoffai ei chael yn ôl gan ei fod wedi addo cyfraniad i'r Drysorfa. Mae'n addo ysgrifennu rhywbeth arall i'r Llenor. Hoffai dderbyn proflen.

T. H. Parry-williams, Aberystwyth,

Mae arno gywilydd braidd ar ôl darllen y rhigymau, ond y mae yn eu hanfon er hynny. Mae arno ofn eu gweld mewn print ond os yw W. J. Gruffydd yn fodlon mentro y mae croeso iddo wrthynt, os yw'n credu bod 'rhyw lygedyn o rywbeth ym mhlaendra diaddurn y rhan fwyaf ohonynt.'.

T. H. Parry-williams, Aberystwyth,

Mae ganddo ddeg neu ddeuddeg o rigymau taith tebyg i'r rhai a gyhoeddwyd yn Y Llenor rai blynyddoedd ynghynt. Y mae yn eu cynnig ar gyfer Y Llenor. ['Rhigymau Taith' (Awst-Medi, 1935)', Y Llenor, cyf. XIV (1935), tt. 193-7].

T. H. Williams, Llundain, N.l,

Cydymdeimlo â W. J. Gruffydd ar golli ei dad ac am beidio â chael ei benodi yn brifathro [Caerdydd]. Collodd yntau ei dad. Nid oes gwell amgylchedd na chartref Cymraeg er iddo fod yn ddigon cyfyng a helbulus. Er mai 'gwyr y llwybrau blin' yw gweithwyr Arfon, eto disgyblir y goreuon i fywyd dwfn a thyfant yn gymeriadau gwastad. Ni fyddai unrhyw ystyr i fywyd ym meddwl T. H. Williams onibai iddo gredu fod yna rywbeth parhaol mewn dynion fel eu tadau hwy. Yn wyneb colli'r cyfle i fod yn brifathro Caerdydd ni ellir ond ategu sylw Puleston, 'W. J. Gruffydd, wedi chwyrn[u] gormod ar gorgwn'. Hen ystryw yw clwyfo'r cymwynaswyr - O. M. Edwards, J. M. J. a H[enry] Jones. Fe wyr ei hunan am y pris sydd raid ei dalu am geisio cadw ei enaid. Holi os bu iddo weld araith P[eter] H[ughes] G[riffiths] yn Y Cymro. Dywedodd T. H. Williams air yn y Cyfarfod Misol am felltith enwadaeth gan sôn am J.M.J. wedi sefyll dros ei argyhoeddiadau yn ystod y rhyfel, tra eraill yn plygu fel brwyn.

Results 21 to 40 of 982