Dangos 1729 canlyniad

Disgrifiad archifol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cyfansoddiadau cerddorol

Gosodiad dan 25 oed ar y geiriau 'Tymhorau' gan Dewi Jones; darn i fand pres yn seiliedig ar y thema seryddiaeth (Tlws y cerddor); emyn-dôn i eiriau Cen Williams; darn rhwng 4 a 6 munud i ensemble siambr o unrhyw offerynnau; darn i gôr plant/ieuenctid SSA/SAB; darn i gerddoriaeth i gyd-fynd â ffilm o'r archif Sgrin a Sain y Llyfrgell genedlaethol gyda'r ffilm ar y thema gofod a/neu sêr; a chân werinol ac acwstig ei naws (Tlws Sbardun).

Dysgwyr

Cerdd: 'Y Ffin (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: ‘Pontydd’ (tlws rhyddiaith); sgript rhwng dau berson ar drên; darn o ryddiaith: ‘Y gwyliau gorau erioed’; llythyr at eich cyngor lleol yn mynegi barn am ailgylchu; adolygiad o unrhyw lyfr neu ffilm; casgliad o ddeunydd i ddenu ymwelwyr i’ch ardal chi mewn unrhyw ffurf; a pharatoi deunydd ar gyfer dysgwyr.

Drama

Cyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd (y fedal ddrama); drama (cystadleuaeth arbennig i rai dan 25 oed); trosi drama benodol i’r Gymraeg; dwy fonolog gyferbyniol ar gyfer pobl ifanc; a sgript comedi sefyllfa.

Rhyddiaith

Stori fer: ‘Cyfrinach’; stori fer ar gyfer pobl ifanc yn ei harddegau: ‘Perthyn’; ysgrif i ddathlu bywyd unrhyw berson; colofn newyddiadurol yn trafod pwnc llosg; ysgrif naturiaethol addas ar gyfer ei chyhoeddi yn Y Naturiaethwr; sgript gomedi ar gyfer radio (agored); traethawd yn cofnodi enwau lleoedd cysylltiedig ag afon neu ran o afon; darn o ryddiaith: ‘Ffoi’; cystadleuaeth i rai sydd wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith): ‘Dathlu can mlynedd a hanner yn y Wladfa’ ar ffurf traethawd, cyfres o negeseuon e-bost neu flog.

Corws gan 'Oda Bog' ar eiriau 'Caerwyn'. [Ceir cyfrol 'Llawlyfr ar Amaethyddiaeth yng Nghymru' gan 'Amaethwr Ieuanc' a thrafodaeth gan ...,

Corws gan 'Oda Bog' ar eiriau 'Caerwyn'. [Ceir cyfrol 'Llawlyfr ar Amaethyddiaeth yng Nghymru' gan 'Amaethwr Ieuanc' a thrafodaeth gan 'Durendard' ar gyfieithu 'Ystorya de Carolo Magno' i'r Saesneg ymhlith Papurau'r Cymmrodorion yn LlGC].

Canlyniadau 21 i 40 o 1729