Showing 23 results

Archival description
Archif Brwydr Llangyndeyrn = Llangyndeyrn's Fight for Victory Archive
Print preview View:

Torion o'r wasg = Press cuttings

Torion o'r wasg o gyfnod brwydr Llangyndeyrn yn olrhain hanes llwyddiannus trigolion Cwm Gwendraeth yn eu hymdrechion yn erbyn Corfforaeth Abertawe yn ystod hanner cyntaf y 1960au; ynghyd â thorion mwy diweddar o'r wasg sydd hefyd yn cofnodi hanes y frwydr.
= Press cuttings from the period of Llangyndeyrn's 'fight for victory' which chronicle the Gwendraeth Valley inhabitants' successful battle against Swansea Corporation during the first half of the 1960s; together with more recent press cuttings which also record the history of the struggle.

Torion o'r wasg o gyfnod y frwydr = Press cuttings from the 'fight for victory' period

Dwy ffeil (a nodwyd '1' a '2') yn cynnwys torion o'r wasg yn olrhain brwydr trigolion Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth yn erbyn ymdrechion Corfforaeth Abertawe i foddi eu dyffryn yn ystod hanner cyntaf y 1960au. Yn yr ail ffeil (a nodwyd '2'), ceir amlen rydd sydd hefyd yn cynnwys torion. Arnodwyd y torion gyda dyddiad eu cyhoeddi yn llaw'r Parchedig W. M. Rees. Ar flaen y ddwy ffeil, gludwyd copi o ffotograff yn dangos safiad trigolion Llangyndeyrn yn erbyn swyddogion Corfforaeth Abertawe, ynghyd ag eglurhad cryno printiedig o gynnwys y ffeiliau.
= Two files (noted '1' and '2') containing press cuttings from the 1960s chronicling the battle waged by the residents of Llangyndeyrn and the Gwendraeth Valley against Swansea Corporation's bid to drown their land. A loose envelope, also containing press cuttings, has been inserted within the file marked '2'. The cuttings are annotated with their date of publication in the hand of W. M. Rees. A copy of a photograph showing the Llangyndeyrn residents' stand against Swansea Corporation officials, together with a printed summary of the files' contents, have been affixed to the front covers of both files.

Wythnos o weithgareddau = A week of events

Deunydd yn ymwneud ag wythnos o weithgareddau i ddathlu hannercanmlwyddiant llwyddiant brwydr Llangyndeyrn, 20-27 Hydref 2013, yr eitemau'n cynnwys: llythyr at Hywel Gealy Rees, mab y Parchedig W. M. Rees, oddi wrth Diana Thomas-Laidlaw, ysgrifenyddes y 'Pwyllgor Dathlu Achub Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach', yn ei wahôdd i agor arddangosfa ar ddiwrnod cyntaf y dathliadau, ynghyd ag ymateb Hywel Gealy Rees a theipysgrif o'i araith agoriadol; rhaglen o weithgareddau'r wythnos; tocyn mynediad i'r 'Cyngerdd Mawreddog' ar 26 Hydref; a thorion o'r wasg yn ymwneud a'r dathliadau. = Material relating to a week of events to mark the half-centenary of Llangyndeyrn's 'fight for victory', 20-27 October 2013, the items including: letter to Hywel Gealy Rees, son of the Reverend W. M. Rees, from Diana Thomas-Laidlaw, secretary of the 'Llangyndeyrn and Gwendraeth Valley Preservation Celebration Committee', inviting him to open an exhibition on the first day of the celebrations, together with Hywel Gealy Rees' response and a typescript of his opening speech; programme of the week's events; admission ticket to the 'Grand Concert' held 26 October; and press cuttings relating to the week's celebratory events.

Results 21 to 23 of 23