Dangos 23 canlyniad

Disgrifiad archifol
Jones, Bobi, 1929-2017 Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol, 1976-[2001], yn cynnwys drafftiau o lythyrau gan John Stoddart, yn ymwneud yn bennaf â'i weithiau llenyddol, cyfraniadau i gylchgronau a'i gyfieithiadau o ganeuon. Yn eu plith mae llythyrau gan Ruaraidh MacThómais (Derick Thomson) (32); Emrys Roberts (8); D. Myrddin Lloyd (7); Jennie Eirian Davies (9); John Rowlands (3); Gareth Alban Davies (9); Somhairle MacGill-Eain (Sorley MacLean) (2); Dómhnall MacAmhlaigh (Donald Macaulay); Iain Mac a'Ghobhainn (Iain Crichton Smith) (2); Rhydwen Williams (3); Alan Llwyd (37); George Guest; Iain MacDhòmhnaill (Iain MacDonald) (3); Fearghas MacFhionnlaigh; Marged Haycock (2); Robin Gwyndaf; Bryan Martin Davies; Bobi Jones; Dyfnallt Morgan (2); Meredydd Evans a Phyllis Kinney; John MacInnes (Iain MacAonghuis) (2); Gareth Glyn; Eigra Lewis Roberts; a J. E. Caerwyn Williams (5).

Thomson, Derick S.

Dyddiadur,

Llyfr nodiadau, 1957-1976, yn eiddo i T. Llew Jones, a ddefnyddiwyd yn achlysurol fel dyddiadur rhwng Tachwedd 1957 a Mawrth 1963 (ff. 1-61), gyda chofnodion unigol ar gyfer 16 Mehefin 1971 a 16 Hydref 1976 (ff. 61 verso-66). Ceir adroddiad, Chwefror-Mawrth 1963, o restiad ac erlyniad Emyr Llewelyn, a gyhuddwyd o danio ffrwydryn yng Nghwm Tryweryn, Bala (ff. 50 verso-61, 63). = Notebook, 1957-1976, of T. Llew Jones, used sporadically as a diary between November 1957 and March 1963 (ff. 1-61), with single entries for 16 June 1971 and 16 October 1976 (ff. 61 verso-66). Included is an account, February-March 1963, of the arrest and prosecution of Emyr Llewelyn, accused of causing an explosion at Cwm Tryweryn, Bala (ff. 50 verso-61, 63).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Waldo Williams (ff. 2-45 verso passim), a'i gystudd olaf a'i farwolaeth (ff. 61 verso-64), Gwenallt (ff. 6, 52 verso), Proinsias Mac Cana (f. 6 recto-verso), Saunders Lewis (ff. 7 recto-verso), Alun Cilie (ff. 15, 20 verso, 38 verso, 64 verso-65), Cassie Davies (f. 17), Dic Jones (ff. 20 verso, 22), John Alun Jones (ff. 22, 52 verso, 54), W. Rhys Nicholas (ff. 22, 60 verso), Euros Bowen (ff. 29 verso-30 verso), Bobi Jones (ff. 31, 52 verso), Dilwen M. Evans (f. 32 recto-verso), Dewi Emrys (f. 41 verso), W. R. P. George (ff. 51, 58), Gwilym Tudur (f. 56 verso-57), ac Elwyn Jones (ff. 59 verso-60 verso); ceir cyfeiriadau hefyd at gystadlaethau'r Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol Glyn Ebwy, 1958 (ff. 3 verso-4, 9, 31 verso, 33 verso-36), a Chaernarfon, 1959 (ff. 39 verso-40 verso), sinema symudol yn Nhregroes (ff. 4 verso-5), Cymdeithas Lyfrau Ceredigion (f. 13 recto-verso), cyfarfod Plaid Cymru yn Aberaeron (f. 16 recto-verso), cyfarfod yr Urdd yn Llandysul (f. 17 verso), a barddoniaeth Gymraeg (ff. 29 verso-31).

Beirniadaethau eisteddfod,

Beirniadaethau ar y fedal ryddiaith, [Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1952], y soned yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint, 1969, ynghyd â llythyr oddi wrth ei gyd-feirniad J. Tysul Jones, y soned arbrofol yn [Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman, 1970] a'r bryddest yn Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd, 1972, gan gynnwys llythyrau oddi wrth ei gyd-feirniaid Haydn Lewis a Bobi Jones. Ceir hefyd ei feirniadaeth ar y cyfieithu o'r Lladin i'r Gymraeg, Eisteddfod Ryngolegol Abertawe, 1984.

Jones, J. Tysul (John Tysul), 1902-1986.

Canlyniadau 21 i 23 o 23