Showing 583 results

Archival description
file
Advanced search options
Print preview View:

Meddyginiaeth a iechyd : Nodiadau,

  • NLW MS 16648A.
  • file
  • [19 gan., canol].

Llyfr nodiadau, [18 gan., canol], yn cynnwys meddyginiaethau a ryseitiau meddyginiaethol, ynghyd â detholiadau a nodiadau yn bennaf yn ymwneud â phynciau meddygol, iechyd a gwyddoniaeth. Ymddengys fel pe bai'r awdur wedi nodi darganfyddiadau meddygol a wnaed ganddo ef ei hun ar ff. 66 verso-7. = A notebook, [mid-19 cent.], containing remedies and medical recipes, together with notes and extracts mainly on medical topics, general health and science. It appears that the author has noted his own medical discoveries on ff. 66 verso-7.

Tystysgrif ordeiniad ac atgofion Capel y Dysteb a Chapel Coffa,

  • NLW MS 16712D.
  • file
  • [1903x1956] /

Tystysgrif ordeiniad, yn Saesneg, y Parchedig John Luther Thomas, dyddiedig 19 Awst 1903, ac atgofion teipysgrif gan John Luther Thomas, yng Nghymraeg, o Gapel Annibynwyr Seion (Capel y Dysteb), Conwy a'r Capel Coffa (Annibynwyr), Cyffordd Llandudno, 1903-1921, ynghyd â nodiadau bywgraffyddol yn ymwneud â'r Parchedigion R. Conwy Pritchard a Henry Richard Lloyd, Conwy. = The ordination certificate, in English, of the Reverend John Luther Thomas, dated 19 August 1903, and typescript memoirs by John Luther Thomas, in Welsh, of Seion Independent Chapel (Capel y Dysteb), Conway and of Capel Coffa (Independent) Chapel, Llandudno Junction, 1903-1921, together with biographical notes relating to the Reverends R. Conwy Pritchard and Henry Richard Lloyd, Conway.
Ceir cyfeiriadau at yr Athro R. Tudur Jones, Coleg Bala-Bangor (ff. 2, 11); y Parchedig John Roberts ('J.R.') (ff. 2, 5); y Parchedig W. E. Penllyn Jones, Hen Golwyn (ff. 7, 10); Richard Owen ('Myfyrian') (f. 10), ac eraill. = There are references to Dr R. Tudur Jones, Bala-Bangor College (ff. 2, 11); the Reverend John Roberts ('J.R.') (ff. 2, 5); the Reverend W. E. Penllyn Jones, Old Colwyn (ff. 7, 10); Richard Owen ('Myfyrian'), and others.

Thomas, J. Luther (John Luther), 1881-1970.

Gohebiaeth gyffredinol: 1987-1988

Mae'r ffeil hon yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol sy'n adlewyrchu gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan gadeiryddiaeth yr Athro Geraint Gruffydd, 1987-1988. Mae'n cynnwys cryn dipyn o ohebiaeth yn trafod y gwaith ar Eiriadur yr Academi, achos R. S. Thomas yn erbyn y Cyhoeddwr Christopher Davies, adroddiad manwl ar Gynllun Ymchwil yr Academi a gyhoeddwyd yn Ionawr 1988 a datganiadau bod J. Beverly Smith a Ray Evans wedi ennill Gwobr Goffa Griffith John Williams ar gyfer 1986 am eu cyfrolau Llywelyn ap Gruffydd Tywysog Cymru a Y Llyffant.

Gruffydd, R. Geraint

Gohebiaeth a chofnodion gweinyddol

Gohebiaeth rhwng swyddogion y Gymdeithas, aelodau a marchnatwyr ynglŷn ag: ethol aelodau newydd i Bwyllgor y Gymdeithas; materion ariannol yn cynnwys prynu gliniadur at ddefnydd y Trysorydd, taliadau blynyddol i'r Ysgrifennydd a'r Trysorydd, a thanysgrifiadau i'r Casglwr; rhestr aelodau'r Gymdeithas; trafod 'Cyfres y Casglwr' newydd Gwasg Carreg Gwalch; a materion eraill o ddiddordeb i'r Gymdeithas; ynghyd â chopiau o gyfansoddiad y Gymdeithas (1978), dibenion y Gymdeithas (1993) a chytundeb am ddefnydd a diogelwch y gliniadur.

Hanes plwyf Llandderfel

  • NLW MS 16666E.
  • file
  • [1830au, hwyr]-1916

Cyfrol, [1830au, hwyr]-1916 (dyfrnod 1827), sy'n cynnwys adysgrif o'r rhestr degwm ar gyfer Llandderfel, sir Feirionnydd (ond yn hepgor manylion tirfeddianwyr a thenantiaid), [1830au, hwyr] (ff. 2-13), yn ogystal â nodiadau, [20 gan., cynnar], yn llaw Charles Jones, Llandderfel, ar hanes y plwyf (ff. 13 verso-28, 78 verso-79), a cherddi, 1913-1916 (ff. 1, 78, 79-80, 81 recto-verso a thu mewn i'r clawr ôl). = A volume, [late 1830s]-1916 (watermark 1827), containing a transcript of the tithe apportionment for Llandderfel, Merioneth (but omitting details of landowners and tenants), [late 1830s] (ff. 2-13), along with notes, [early 20 cent.], in the hand of Charles Jones, Llandderfel, on the history of the parish (ff. 13 verso-28, 78 verso-79), and poetry, 1913-1916 (ff. 1, 13 verso, 77 verso-78, 79-80, 81 recto-verso and inside back cover).
Cynhwysa'r nodiadau restr o ffermydd a bythynnod Llandderfel a Llanfor (ff. 13 verso, 14 verso-20), ac ysgrifau ar deulu'r Llwydiaid, Pale (ff. 21 verso-22), teulu John Davies, Vronhaulog [Fronheulog] (ff. 22 verso-23 verso, 27-28 verso), Dafydd Edwards, Tyisa (ff. 24-26), a theulu Charles Jones (f. 26 verso). Rhoddwyd ychydig o eitemau rhydd mewn amlen archifol (ff. i, 82-86). = The notes include list of farms and cottages in the parishes of Llandderfel and Llanfor (ff. 13 verso, 14 verso-20), memoirs on the Llwyd family of Palé (ff. 21 verso-22), the family of John Davies, Vronhaulog [Fronheulog] (ff. 22 verso-23 verso, 27-28 verso), Dafydd Edwards, Tyisa (ff. 24-26), and Charles Jones's family (f. 26 verso). A few loose items have been placed in an archival envelope (ff. i, 82-86).

Jones, Charles, 1831-1917.

Papurau Aelwyd yr Urdd, Aberystwyth

  • Papurau Aelwyd yr Urdd, Aberystwyth
  • file

Papurau ychwanegol, 1960-80, Aelwyd yr Urdd, Aberystwyth, gan gynnwys gohebiaeth, cofnodion y Pwyllgor Cyffredinol a rhaglenni'r Aelwyd

Hanes Eglwys y Boro, Llundain

  • NLW Facs 988
  • file
  • 2004

Casgliad o lungopïau o ysgrifau ar Eglwys Annibynnol y Boro, Llundain a rhai o'i phobl, wedi eu dwyn ynghyd gan Mrs Morfudd Jenkins, South Harrow, Mai 2004.

Pregethau Cymraeg,

  • NLW ex 2373.
  • file
  • 1841, 1869-1877.

Chwe chyfrol o bregethau Cymraeg mewn llawysgrif, 1869-1877, gan Enoch Williams, Gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a phregethau angladdol gan D. R. Williams, 1841.

Williams, Enoch, Llansamlet.

Papurau Rhiannon Francis Roberts

  • Ychwanegwyd at Papurau Rhiannon Francis Roberts
  • file
  • 1944-1988

Papurau ychwanegol Rhiannon Francis Roberts (1923-1989) yn cynnwys llythyrau, 1944-1988, oddi wrth R. T. Jenkins, Thomas Parry, Griffith John Williams, Ifor Williams ac eraill.

Additional papers of Rhiannon Francis Roberts (1923-1989) including letters, 1944-1988, from R. T. Jenkins, Thomas Parry, Griffith John Williams, Ifor Williams and others.

Roberts, Rhiannon Francis, 1923-1989

Papurau'n ymwneud ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth

  • NLW ex 2044
  • file
  • 1939-1946

Papurau, 1939-46, yn ymdrin ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth a sefydlwyd yn 1939, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Syr Ifan ab Owen Edwards yn ymwneud yn bennaf â chynnal yr ysgol yn ariannol; cylchlythyrau a chofnodion cyfarfodydd llywodraethwyr yr ysgol, 1944-6; a llyfrynnau printiedig yn ymwneud â'r ysgol.

Edwards, Ifan ab Owen, 1895-1970

Is-Bwyllgor Llenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1988,

  • NLW ex 2141
  • file
  • 1986-1989.

Papurau, 1986-1989, a grynhowyd gan Arwyn Thomas fel Is-Gadeirydd Is-Bwyllgor Llenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 1988, gan gynnwys gohebiaeth; cofnodion cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor; dadansoddiad o gystadleuaeth 'y nofel', 1951-1984, a'r cefndir i benderfyniad y Pwyllgor Llên ynglŷn â'r Nofel a Gwobr Goffa Daniel Owen, a llythyr oddi wrth Islwyn Ffowc Elis yn ymateb i hwn; rhaglen y Babell Lên; ynghyd â thorion o'r wasg.

CMA: Cofysgrifau Capel y Cricor

  • NLW Minor Deposit 1612/x
  • file
  • 1944-1971

Cofysgrifau Eglwys y Cricor, Llanfair Dyffryn Clwyd, gan gynnwys cofrestr bedyddiadau, 1944-1971, a tystysgrifau i gynnal priodasau yn y capel, 1959 a 1961.

Capel y Cricor (Llanfair Dyffryn Clwyd, Wales)

CMA: Cofnodion Eglwys Peel Road, Lerpwl

  • NLW Minor Deposit 1612/vi
  • file
  • 1941-1949

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyron, 1941-1949, yn ymwneud ag Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, Peel Road, Bootle, Lerpwl.

Ysgrifau a cherddi amrywiol

  • NLW Facs 983
  • file
  • 1928-1966

Llungopi o ddau draethawd mewn llawysgrif ar bynciau cerddorol o bosibl ar gyfer Cerddoriaeth Cymru, y naill yn dwyn y teitl 'Yr ymdaith gerddorol' gan Ben Bowen Thomas a'r llall yn dwyn y teitl 'Ceisio dysgu' gan Kate Roberts.Yn ogystal, mae copi o gerdd mewn llawysgrif gan Nansi Richards, a gyflwynwyd i'r Faner o bosibl, ynghyd â mân bethau yn ymwneud yn bennaf â Chymry Llundain megis bwydlen cinio Cymdeithas Ceredigion Llundain 1928.

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977

Papurau yn ymwneud â chanmlwyddiant y Wladfa

  • NLW ex 2331
  • file
  • 1965

Papurau a gasglwyd ynghyd gan y diweddar Miss Catherine (Katie) Richards ar ôl ymweliad â'r Ariannin i ddathlu canmlwyddiant y Wladfa ym 1965. Mae'r papurau yn cynnwys rhaglenni gweithgareddau dathlu, torion o'r wasg, rhestr o aelodau Undeb Cymry Ariannin, yn ogystal â rhai cardiau post a ffotograffau yn ymwneud â'r achlysur.

'Randibŵ' a 'Gwifrau'r Gyfraith'

  • NLW ex 2342
  • file
  • 1935-1947

Copi teipysgrif o ddrama i blant gan Eic Davies, c.1947, a chopi teipysgrif o ddrama mewn un act gan Ronald Gow, wedi ei throsi i'r Gymraeg gan Selwyn Jones, 1935.

Davies, Eic, 1910-1993

Dylanwad y Meddwl ar Weithrediadau y Corph,

  • NLW MS 16345D.
  • file
  • 1883 /

Llawysgrif yn dwyn y teitl 'Traethawd ar Ddylanwad y Meddwl ar Weithrediadau y Corph' a gyflwynwyd dan y ffugenw 'Myfyr' yn Eisteddfod Annibynwyr Ffestiniog Nadolig 1883. = A manuscript essay entitled 'Traethawd ar Ddylanwad y Meddwl ar Weithrediadau y Corph' submitted under the pseudonym 'Myfyr' for competition at the Congregational Eisteddfod at Ffestiniog, Christmas 1883.
Rhennir y traethawd yn un bennod ar ddeg (ff. 2-65) a cheir ynddi gyfeiriadau at ffigurau nodedig, gan gynnwys athronwyr o'r oes Glasurol hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg; mae yna restr cynnwys ar f. 1. Gwyddys i dri ymgeisydd roi cynnig ar y gystadleuaeth ac i John Jones, Meirion House, Tanygrisiau, ennill y wobr (gw. Y Dydd, 4 Ionawr 1884, t. 7), ond methwyd darganfod ai ef oedd 'Myfyr'. = The essay consists of eleven chapters (ff. 2-65) and contains references to notable figures including philosophers from the Classical period to the nineteenth century; a list of contents is on f. 1. It is known that three entrants attempted the essay and that the prize was won by John Jones, Meirion House, Tanygrisiau (see Y Dydd, 4 January 1884, p. 7), but it has not been possible to ascertain if he was 'Myfyr'.

'Myfyr'.

Results 21 to 40 of 583