Dangos 56 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers, cyfres
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cais Nobel Saunders Lewis

Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd yn ymwneud â chais yr Academi i ennill Gwobr Nobel am Lenyddiaeth i Saunders Lewis yn ystod y 1970au a'r 1980au, syniad a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Vernon Jones, athro yn Ysgol Y Berwyn Y Bala, ym 1966. Mae'n cynnwys gohebiaeth a deisebau yn erfyn cefnogaeth unigolion dylanwadol o gylchoedd gwleidyddol, crefyddol ac academaidd, yn ogystal â chopïau o'r cais gwreiddiol ar gyfer 1971 a chais diwygiedig ar gyfer 1977. Parhawyd i gyflwyno'r cais tan o leiaf 1981.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Cyhoeddiadau gwreiddiol: Dathlu

Yn ystod 1984 dathlodd yr Academi chwarter canrif o fodolaeth. Yn ystod y flwyddyn, ymysg pethau eraill, trefnwyd Gŵyl Gwenallt a chyfarfod i anrhydeddu Euros Bowen. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno penderfynwyd cyhoeddi cynhyrchion y cyfarfodydd hyn yn un gyfrol yn dwyn y teitl Dathlu, dan olygyddiaeth R. Gerallt Jones. Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau llawysgrif, teipysgrif a phroflen o'r erthyglau a'r cerddi ar gyfer y llyfr, ynghyd â llythyrau perthynol, 1984-1986.

Jones, R. Gerallt (Robert Gerallt), 1934-1999

Lansio cyfrolau

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth a pheth deunydd hysbysebu yn ymwneud â lansio cyfrolau a gyhoeddwyd gan yr Academi. Amheuir fod y gyfres hon yn anghyflawn iawn gan nad yw'n cynnwys dim ond deunydd yn ymwneud â dwy noson ar ddechrau'r 1990au.

Moseic y Cenhedloedd, 1987

Mae'r gyfres yn cynnwys gwybodaeth am nifer fawr o awduron enwog eu cenhedloedd a'u gwledydd, enghreifftiau o'u gwaith a chyfieithiadau ohonynt, wedi eu trefnu yn ffeiliau gweinyddol ac yn ffeiliau yn ymwneud â chenhedloedd unigol. Y gwledydd a'r diwylliannau a gynrychiolwyd yn y gynhadledd oedd: Gwlad y Basg, Catalunya, Denmarc, Estonia, Ffrisia, Galicia, Georgia, Groeg, Gwlad yr Iâ, Norwy, Romansch, Sorbia, Sri Lanka, Tsiecolofacia. Hefyd estynwyd gwahoddiadau i Hwngari, Yr Iseldiroedd, Iwgoslafia, Kenya, Nigeria a Romania.

Heb deitl

Cofnodion Cynnar

Mae'r gyfres yn cynnwys dwy gyfrol o gofnodion yr Academi Gymreig o'r cyfnod allweddol rhwng ei sefydlu ym 1960 a chyflogi ei Swyddog Gweinyddol cyntaf ym 1974 ac yn cynnwys cyfeiriadau at nifer o unigolion amlwg ym myd llenyddiaeth Gymraeg yn y cyfnod. Roedd y cyfarfodydd penwythnos yn cynnwys seiadau llenyddol ac un cyfarfod busnes. Cofnodion y cyfarfodydd hyn, a dau gyfarfod o rag-bwyllgor yr Academi a gynhaliwyd yn ystod 1959, a geir yma. Fe fu nifer o'r aelodau yn ysgrifenyddion yn ystod y cyfnod hwn yn eu plith Bobi Jones, yr ysgrifennydd cyntaf, 1959-1963, a Gwyn Thomas, Bangor, 1967-1971, a oedd yn paratoi cofnodion ffraeth a threiddgar.

Jones, Bobi, 1929-2017

Apêl Kate Roberts

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth ac adroddiadau yn ymwneud â'r gwaith gyflawnodd yr Academi ar ran Kate Roberts, 1983-1985. Mae'n cynnwys gohebiaeth â'r Royal Literary Fund yn bennaf, yn ogystal â manylion y Dysteb Genedlaethol a lwyddodd i godi yn agos at £7000 yn ystod 1983.

Roberts, Kate, 1891-1985

Gohebiaeth D. Tecwyn Lloyd,

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth gyda nifer fawr o lenorion Cymraeg amlwg, yn ogystal â chofnodion ac adroddiadau sy'n adlewyrchu gweithgaredd Tecwyn Lloyd fel aelod cyffredin o'r Academi ond yn bennaf fel golygydd a chyd-olygydd Taliesin rhwng 1965 a 1984.

Lloyd, D. Tecwyn (David Tecwyn)

Canlyniadau 21 i 40 o 56