Dangos 3783 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Ysgrifau

Yn eu plith mae erthygl 'Ich Dien' a fwriadwyd ei chyhoeddi yn Y Wawr; 'Y ffreshwr' gyda llythyr, 1921, oddi wrth Syr Ifan ab Owen Edwards yn amgaeedig yn dychwelyd y gwaith iddo; 'Oer yw'r rhew ac oer yw'r eira', [1954]; 'A Welsh nationalist looks in the mirror' (i'r Drych); erthyglau a wrthodwyd gan y wasg; a llythyr, 1946, a anfonodd at olygydd y Peace News.

Edwards, Ifan ab Owen, 1895-1970

Ysgrif,

Ysgrif 'Rhwd' gan 'E.T.H., 'Llywarch', 'Merwydd', 'Hen hwsmon anesmwyth', 'Menai', 'Scamp', 'Hamlet' a 'Dwyfach'; 'Cadw cyfrinach' gan 'Goronwy', ''Wyn o Eifion', 'Nedw', 'Meifab', 'Ap Arfon', 'Hen sgotwr', 'Pump o'r gloch', ''Elia II' a 'Myfanwy'; 'Carreg filltir' gan 'Crwydryn', 'Gwydion', 'Rhaid mynd', 'Sioned', 'Ar grwydr', 'Emyr', 'Amos' a 'Myfanwy'; 'Briwsion' gan 'Aron', 'Petite' ac 'Edmwnd' [rhif 33 yn y Rhestr Testunau].

Ysgrif - 'Gurnos'

Tri chopi llawysgrif o'r ysgrif 'Gurnos', [1903x1943]; un a oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Treorci yn 1924, un a gyflwynwyd i Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1943, ynghyd â fersiwn arall o'r ysgrif ar dudalennau rhydd, heb ddyddiad arno.

'Ysgolion Cymraeg'

Papurau, [1943]-1963, yn ymwneud ag Ysgolion Cymraeg yn gyffredinol, gan gynnwys enghreifftiau o ymarferion iaith a gramadeg ac arholiad darllen a deall, 1943, papur iaith Cymraeg, Nadolig 1947, a barddoniaeth a gyflwynwyd i ddisgyblion yr Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth; rhifyn o Yr Aelwyd, Ionawr 1950, yn cynnwys erthygl 'Ffarwelio â Miss Norah Isaac'; papurau'n ymwneud ag Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg, 1952-1957, a'r cyfansoddiad a 'Memorandwm ar Gynllun Addysg Sir Aberteifi a lle arbennig yr "Ysgolion Cymraeg" yn y cynllun hwnnw', cyflwynedig i Awdurdod Addysg Sir Aberteifi gan Bwyllgor Gwaith Cwmni Urdd Gobaith Cymru, 1950; adroddiad Arolygwyr eu Mawrhydi, 1948, ar yr Ysgol Gymraeg, ac erthygl o'r Faner, 1949, yn cynnwys adroddiad 'Clod arolygwyr i Ysgol Gymraeg'.

Davies, Cassie, 1898-1988

Ysgolheictod Cymraeg

Darlithoedd ac erthyglau, yn cynnwys 'Rhai agweddau ar hanes Ysgolheictod Cymraeg a hanes Llenyddiaeth Gymraeg yn y ddeunawfed ganrif'; 'Dysg Gymraeg o'r Unfed Ganrif ar Bymtheg Ymlaen' (a 'Welsh Scholarship from the Sixteenth Century until today'); 'Hanes Ysgolheictod Cymraeg yng Nghyfnod y Dadeni, 1550-1700'; 'Hanes Ysgolheictod Cymraeg' (a 'History of Welsh Scholarship'); 'Y Ddysg Farddol a'r Dadeni Cymraeg yn yr 16 Ganrif' (a 'Bardic Learning and the Welsh Renaissance of the 16th Century').

Canlyniadau 21 i 40 o 3783