Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 3783 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cerdd dant: dau osodiad cyferbyniol; emyn-dôn i eiriau'r Parchedig John Pinion Jones; amrywiadau ar unrhyw garol plygain allan o lyfr Geraint Vaughan Jones ar gyfer y delyn; ensemble offerynnol, addas i'w berfformio yn yr arholiad TGAU; trefniant modern o unrhyw gân werin ar gyfer llais ac unrhyw gyfuniad o offerynnau; cân ar gyfer unrhyw lais mewn arddull sioe gerdd; unawd wreiddiol yn defnyddio un o emynau Ann Griffiths; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer band pres; Tlws y Cerddor; a dau ddarn cyferbyniol i unrhyw gyfrwng (ieuenctid dan 19 oed).

Rhyddiaith,

Braslun nofel, pennod agoriadol nofel, tair stori fer neu dair ysgrif (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); stori fer ar y testun: 'Tair'; cyfansoddi darn o ryddiaith yn ymateb i unrhyw ddarn o gelfyddyd; erthygl goffa; casgliad o 10 stori ar ffurf llên meicro; dyddiadur dychmygol ysgafn i oedolion wedi'i selio ar fywyd mewn swydd neu waith arbennig; darn o ryddiaith ddychanol: 'Gweledigaeth uffern'; darn o ryddiaith greadigol: 'Y daith'; nofel i blant tua 7-9 oed (comisiynu); a dyddiadur dychmygol ysgafn i oedolion wedi'i selio ar fywyd o ddydd i ddydd mewn swydd neu waith arbennig (comisiynu).

Drama a ffilm,

Trosi drama benodol i'r Gymraeg; cyfansoddi 3 neu ragor o fonologau ... ar gyfer clyweliad neu ar gyfer cystadleuaeth Gwobr Richard Burton; adolygiad o unrhyw berfformiad gan gwmni theatr proffesiynol Cymraeg diweddar; trosi sioe gerdd benodol; a sgript drama deledu neu ffilm (Ysgoloriaeth Geraint Morris) .

Dysgwyr,

Cerdd: 'Wal' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Y sgerbwd yn y cwpwrdd'; darn o ryddiaith: 'Streic'; darn o ryddiaith: ' Fy hoff Gymro/Gymraes; cerdyn diolch; cyfres o negeseuon e-bost: 'Datrys problem; casgliad amrywiol o eitemau ar gyfer papur bro (gwaith grŵp); paratoi deunydd ar gyfer dysgwyr (stori fer ar gyfer dysgwyr); a gêm iaith ar gyfer dysgwyr.

Barddoniaeth,

Hyd at 30 o gerddi (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); cerdd neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn; 'Tir newydd'; casgliad o gerddi rhydd: 'Stryd pleser'; englyn: 'Sain Ffagan'; englyn ysgafn: 'Parcio'; telyneg: 'Gwlith'; cerdd ddefosiynol; cerdd heb fod yn fwy na 50 llinell: 'Senedd'; cerdd ddychan: 'Saga'; cerdd ar fesur Filanél; a throsi i'r Gymraeg gerdd gan un o bump awdur penodol.

Barddoniaeth,

Awdl: 'Ennill tir'; casgliad o gerddi: 'Newid' (y goron); englyn: 'Dysgwr'; pum englyn milwr: englyn yr un i bum rebel; pum englyn penfyr: 'Teulu'; cywydd i gyfarch pencampwr Cymreig; telyneg: 'Machlud'; soned: 'Llwybrau'; cerdd gaeth hyd at 50 llinell: 'Arwr'; cerdd rydd yn ymateb i lun; cerdd ddychan; 'Golff'; a chasgliad o 100 o englynion, penillion, cwpledi neu gerddi coffa oddi ar gerrig beddau.

Rhyddiaith,

Darn neu ddarnau rhyddiaith ar ffurf benodol (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); stori fer wedi'i lleoli ym myd diwydiant; blog dros gyfnod o fis; casgliad o 10 darn ar ffurf llên meicro: 'Ystafelloedd aros'; ysgrif bortread; erthygl newyddiadurol ... ar bwnc llosg; llythyr dychmygol at wleidydd; stori arswyd wedi'i hanelu at bobl ifanc; casgliad o hyd at 30 o anecdotau difyr o'r byd chwaraeon; a chystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Yr Ariannin: 'Byw yn y Wladfa heddiw'.

Canlyniadau 21 i 40 o 3783