Papurau a gohebiaeth, 1981-1982, yn ymwneud â chais y Ganolfan am grant i Adran Ymchwil a Datblygiad y Llyfrgell Brydeinig am y prosiect ymchwil arfaethedig ‘The Information Needs of Celtic Scholars’, yn cynnwys copi o’r cais (1981); copi o Adroddiad Blynyddol y Ganolfan 1980-1981 (1981); nodiadau ([1981]); a llythyrau cysylltiedig yn trafod y cais, 1981-1982, oddi wrth J. E. Caerwyn Williams; R.C. Snelling; ac M. O’Hare.
Gohebiaeth a phapurau yn trafod y staffio, lleoliad, a chefnogaeth ariannol arfaethedig y Ganolfan, 1970, 1974, a 1984, yn cynnwys agenda a chofnodion cyfarfod y Corff Llywodraethol (1984); cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith (1983); memoranda (1984); copi o ddatganiad gan R. Geraint Gruffydd (1970); a llythyrau (1974; 1984) oddi wrth Peter Swinnerton-Dyer; Gareth Owen; Russell Davies; Charles Thomas; R. Geraint Gruffydd; T.A. Owen; Emrys Wynn Jones; Bobi Jones; Elwyn Davies; Olwen Daniel; a J. E. Caerwyn Williams.
Cardiau Nadolig a phen-blwydd, [1850]-[1945], a dderbyniwyd gan Mathonwy Hughes ac aelodau o’i deulu, gan gynnwys ei ewythr Silyn Roberts, a rhai cardiau coffa. Ceir cerdyn Nadolig hefyd oddi wrth 'Squadron-Leader & Mrs G. ap Silyn-Roberts, Henlow.
Torion yn ymwneud â theithiau Mathonwy Hughes i Sir Benfro, Yr Ynys Werdd, Yr Alban, Gwlad yr Haf, Cwm Rhondda, Cernyw a gyhoeddwyd yn Y Faner, 1963-1972.
Llythyron, cardiau a dogfennau eriall gan ynnwys torrion o'r wasg ynglyn a phenerfyniad Ieuan Wyn Jones i ymddiswyddo fel Aelod y Cynulliad dros Ynys Mon.
Deunydd amrywiol yn ymwneud ag ymgyrch dros bleidlais Ie yn refferendwm datganoli Cymru 1997, cynlluniau am etholiadau i'r Cynulliad, pasio'r deddf yn Senedd y DG a threfniadau mewnol Plaid Cymru am yr ymgyrch.
Papurau amrywiol ynglyn a Mesur yr Iaith Gymraeg gan gynnwys copiau o bapurau polisi Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, deddfwriaeth perthnasol, nodiadau a gohebiaeth.
Cardiau a llythyon yn llongyfarch Ieuan Wyn Jones ar ddod yn Ddirprwy Prif Weinidog o ganlyniad i drefniadau clymbleidio gyda'r Blaid Lafur yn dilyn Etholiad y Cynulliad 2007.
Papurau amrywiol ynglyn a Mesur yr Iaith Gymraeg gan gynnwys nodiadau, gohebiaeth, rhestrau cyrff o fewn cylch gorchwyl y deddf a drafftiau y Gorchymun Cymhwyso Deddfwriaeth.
Papurau, gan gynnwys llythyron. datganiadau ymgeisyddion, copiau o'r rheolau ac ati yn ymwneud ag etholiad Llywydd ac Arweinydd Grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad yn 2003.
Papurau yn ymwneud a chynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a throsglwyddo rhai swyddogaethau'e Bwrdd i adran o fewn y Llywodraeth, gan gynnwys gohebiaeth, adroddiadau ac ymatebion i'r ymgynghoriad.
Papurau ynglyn a sylwadau y Cynghorydd Seimon Glyn ar Radio Cymru yn 2001 am fewnfudo o Leogr i Gymru gan gynwys llythyron at Ieuan Wyn Jones am y sylwadau, papurau a gohebiaeth mewnol a thorrion y wasg.