- B
- Series
- 1980-2003 (gyda bylchau)
Cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr a phwyllgorau'r Canolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn, a gohebiaeth gysylltiedig, 1980-1992 a 1994-2003.
Cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr a phwyllgorau'r Canolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn, a gohebiaeth gysylltiedig, 1980-1992 a 1994-2003.
Gweithgareddau staff; swyddi; amserlenni; hyforddiant staff; a pholisïau staff
Gohebiaeth a phapurau, 1986-2013, yn ymwneud â materion staff, yn cynnwys gweithgareddau staff (1993); ffurflenni oriau gwaith (1992-1993); disgrifiadau swydd (1991-1993); adroddiad y cyfarwyddwr (1987); hyfforddiant staff (1992); hysbysebu swyddi (2001-2007); a pholisïau staff (1997-2013). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys disg hyblyg wedi ei theitlo ‘Disgrifiadau Swydd’ (1993).
Gohebiaeth a phapurau, 1980-1992 a 1997-2003, yn ymwneud â marchnata a hysbysebu cyrsiau a gwasanaethau y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn.
Gweithgareddau'r Ymddiriedolwyr; digwyddiadau; nawdd; ac ymholiadau
Gohebiaeth a phapurau amrywiol, 1988-1991, yn ymwneud â gweinyddiaeth a gweithgareddau’r Nant, yn trafod materion fel strwythur rheoli, gweithgareddau ymddiriedolwyr, marchnata, adroddiadau, nawdd, ymholiadau, a darparu cyfleusterau. Yn ogystal, ceir gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â chynllun Newidiem (1998-2001).
Gohebiaeth a phapurau, 1978-1997 a 2002-2008, yn ymwneud â datblygu y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn a darparu gwasanaethau, yn cynnwys cynlluniau busnes; trefnu cyrsiau; datblygu’r safle; strategaethau; yr Ymddiriedolaeth; nawdd; rhaglen EWROSGOL, a gweithgareddau a digwyddiadau yn y Nant. Mae rhai o’r ffeiliau hefyd yn ymwneud â phrynu a datblygu Plas Pistyll.
Gohebiaeth yn ymwneud â rhoddion a grantiau 1985-1990; gohebiaeth amrywiol (1985-1987), yn ymwneud ag archebu cyrsiau; a gohebiaeth yn trafod datblygu’r Canolfan Ewropeaidd yr Ieithoedd Llai eu Defnydd (1988-1990).
Gohebiaeth, 1986-1994, parthed nifer o faterion gweinyddol yn ymwneud â datblygu safle Nant Gwrtheyrn, yn cynnwys cyfleusterau anabl; arwyddion; cerbydau; diwrnodau agored; Ymgyrch Marchnata Dwyfor; diogelwch tân, ail-adeiladu Trem-y-Môr; cyflenwad dŵr, hyfforddiant staff; y Pwyllgor Datblygu Addysg Cymraeg; ac ymweliadau dyddiol. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys nifer o dorion a chopïau o’r wasg (1988-1990).
Gwasanaethau cyfieithu; cynlluniau adeiladol Nant Gwrtheyrn
Gohebiaeth a phapurau, 1987-1990, y rhan fwyaf yn ymwneud â gwasanaethau cyfieithu; ymweliadau, a nawdd. Yn ogystal, ceir copïau o gynlluniau adeiladol Nant Gwrtheyrn (1989); a llungopi o ran o’r map Arolwg Ordnans 1918 ardal y Nant (1989).
Holiaduron; datganiadau i'r wasg; yswiriant; rhoddion; Plas Pistyll
Papurau amrywiol, 1988-1992, yn cynnwys holiaduron wedi ei chwblhau, datganiadau i’r wasg, ac anfonebau; a gohebiaeth a phapurau yn ymwneud ag yswiriant ceir, rhoddion, a nawdd. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â prynu a gwerthu Plas Pistyll (1989-1992), a chopi o Adroddiad y Bartneriaeth Addysg Busnes Gwynedd (1991).
Gohebiaeth a phapurau, 1990-97, yn ymwneud â materion gweinyddol amrywiol, yn cynnwys grantiau, llif arian a chyfrifon, cyflog a swyddi, digwyddiadau; marchnata; a gwaith cynnal a chadw. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys papurau a gohebiaeth yn ymwneud â Gŵyl ieithoedd Ewrosgol Cymru (1991); sêl Plas Pistyll (1995-1996); achos HTV yn erbyn cyfreithwyr Hugh James (1996-1997); copi o Adroddiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg (1995), a copi o Cynllun Strategol Nant Gwrtheyrn (1997).
Prynu Plas Pistyll; achos llys HTV, yn cynnwys datganiadau tyst a'r manylion achos
Gohebiaeth a phapurau, 1978-1995, yn ymwneud â phrynu Plas Pistyll a’r achos enllib yn erbyn HTV, yn cynnwys copïau o ddatganiadau cyfrif (1989-1992); copi o drawsgludiad Plas Pistyll (1989); datganiadau tyst (1995); manylion achos (1989-1995); manylion achos a’r canlyniad (1992-1995); a dogfennaeth yn ymwneud â phrynu Plas Pistyll, y trawsgludiad, a’r Cynllun Busnes (1978-1992).
Pryniant Plas Pistyll a'r datblygiad arfaethedig; achos llys HTV, a phapurau Kynric Lewis
Papurau a gohebiaeth, yn ymwneud â phrynu a datblygu Plas Pistyll, a’r ymgyfreitha cysylltiedig (1980-1992); ac achos lys HTV a phapurau Kynric Lewis (1992-1995).
Gohebiaeth, papurau ac adroddiadau, yn ymwneud â phrynu a gwerthu Plas Pistyll (1985-1995); ac achos llys HTV (1995). Yn ogystal, ceir taflenni yn hysbysebu sefydliad y Canolfan Ewropeaidd (1989), a Gŵyl Gwrtheyrn (1988); a phrint lliw o’r Nant ([?1989]).
Gwaith celf 'Ymweliad â Nant Gwrtheyrn'
Gwaith celf plant Ysgol Parc y Bont, Llanedwen, 'Ymweliad â Nant Gwrtheyrn' (1987).
Nant Gwrtheyrn Welsh Language and Heritage Centre
Cynllun safle pensaernïol Nant Gwrtheyrn
Cynllun pensaernïol bras o'r safle pentref Nant Gwrtheyrn, [?1985]x[?1995].
Nant Gwrtheyrn Welsh Language and Heritage Centre
Cofnodion yn ymwneud â materion ariannol, 1979-1992, yn cynnwys manylion adroddiadau archwilwyr, (1981-1992); manylion incwm (1979-1981, 1986-1988); ffurflenni a phapurau treth a TAW (1986-1990); costau rhedeg a hyfforddiant y rhaglen cymuned MSC (Manpower Service Commission) (1986-1987); costau a llif arian (1986-1987; 1989-1990); ac adroddiadau ariannol y trysorydd (1986-1987).
Anfonebau; cofnodion cyfarfodydd; derbyniadau; a nawdd
Gohebiaeth a phapurau, 1987-1993, yn ymwneud â materion ariannol, gyda rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys anfonebau (1987-1990); hefyd yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr (1988-1993), adroddiadau (1989), ariannu prosiect a nawdd (1989-1990), llyfr derbyniadau (1989), a chofnodion oriau gweithio staff (1990).
Rhaglen Cymuned y Ganolfan Gwaith; ac amserlenni gwaith
Gohebiaeth, 1984, yn ymwneud â’r Rhaglen Cymuned Canolfan Gwaith; ac amserlenni gwaith, 1984-1987. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â marchnata (1980-1984).
Rhaglen Cymuned y Ganolfan Gwaith; swyddi; a trefni cyrsiau
Mae rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a phapurau, 1985-1987, yn ymwneud â rhaglen gwaith cymunedol y Canolfan Gwaith yn Nant Gwrtheyrn; a gohebiaeth a phapurau, 1987-1990, yn trafod trefnu cyrsiau amrywiol yn y Nant. Yn ogystal, ceir gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â cheisiadau swydd (1989-1990); rhoddion a thaliadau (1982-1988); a chopïau o Gylchlythyr Trawsfynydd (1988).
Hysbysebion papurau newydd, cylchgronau, taflenni, a teledu
Gohebiaeth a phapurau, yn ymwneud â hysbysu a marchnata, 1980-1992, yn trafod trefnu ddigwyddiadau a hysbysebu fewn papurau newydd a chylchgronau, hysbysebion teledu, a thaflenni twristiaid.