Showing 159 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn Ffeil / File English
Advanced search options
Print preview View:

Cerddi amrywiol

Cerddi gan Menna Elfyn a gynhwysir yn ei chyfrolau cyhoeddiedig ond nad oeddent wedi'u cyplysu o fewn y casgliad ag unrhyw gyfrol(au) penodol.

Cerddi cynnar

Cerddi gan Menna Elfyn a gyfansoddwyd cyn ymddangosiad ei chyfrol gyntaf gyhoeddiedig Mwyara ym 1976, rhai o'r cerddi heb eu cwblhau nac (yn ddiweddarach) eu cyhoeddi. Mae'r deunydd yn cynnwys cerddi a ddyddiwyd Medi a Hydref 1967; cerdd fuddugol a gynigiwyd gan Menna Elfyn i Eisteddfod Pantyfedwen 1968(?); cerdd yn dwyn y teitl Y Daith, sy'n disgrifio digwyddiad ym mis Mawrth 1969 ac a arnodir gan Menna Elfyn 'Fy ngherdd gyntaf ... darn ar goll' (er noder cerdd Eisteddfod Pantyfedwen, lle cynigir ganddi'r dyddiad cynharach 1968); cerddi a gyfranwyd gan Menna Elfyn i golofn Bord y Beirdd ym mhapur newydd Y Cymro, 1970; dau gopi o gerdd gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl Sylwadau ar fywyd colegol (dim dyddiad, ond cymerir eu bod yn tarddu oddi ar gyfnod Menna Elfyn yn y Brifysgol); a beirniadaethau gan D. Jacob Davies, W. J. Gruffydd a W. R. Evans ar gerddi buddugol gan Menna Elfyn a gynigiwyd (dan ffugenw) ar gyfer yr Eisteddfod Ryngolegol yn Aberystwyth, 1973.

Cynhwysir yn yr adran hon ond y cerddi hynny sydd â dyddiad wedi'i nodi arnynt. Cynhwysir y cerddi hynny a all ddyddio o'r cyfnod cynnar ond sydd heb ddyddiad amlwg dan Barddoniaeth amrywiol.

Cerddoriaeth Jack White

Gohebiaeth ebost rhwng Menna Elfyn a Jack White, myfyriwr ymchwil yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd a gyfansoddodd drefniant cerddorol ar gyfer rhai o gerddi Menna Elfyn.

Colofnau newyddiadurol gan Menna Elfyn

Torion papur newydd yn cynnwys yn bennaf golofnau Cymraeg a gyfrannwyd gan Menna Elfyn i'r Western Mail, ynghyd â drafftiau o'i gwaith a rhestr deipysgrif o benawdau ei cholofnau, 1996-2010.

Comin Greenham

Deunydd yn ymwneud ag ymgyrch merched Comin Greenham, gan gynnwys yn bennaf llyfrynnau a gyhoeddwyd gan ferched Yellow Gate, sef y gwersyll cyntaf i'w sefydlu o amgylch y safle milwrol, un o'r llyfrynnau hynny yn cofnodi marwolaeth anhymig Helen Thomas, ymgyrchydd heddwch o Gastell Newydd Emlyn; ynghyd â thoriad papur newydd yn ymwneud â Helen Thomas a llythyr at Menna Elfyn oddi wrth Janet Tavner, un o breswylwyr Yellow Gate.

Cusan Dyn Dall/Blind Man's Kiss

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd ddwyieithog Cusan Dyn Dall/Blind Man's Kiss (2001), gan gynnwys adolygiadau, datganiadau i'r wasg, drafft o ragair gan Nigel Jenkins, llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Tony Conran, un o gyfieithwyr y cerddi, a chyfieithiadau o rai o'r cerddi i Bortiwgaleg.

Cwsg

Copi proflen, gyda chywiriadau yn llaw Menna Elfyn, o'r gyfrol Cwsg, sy'n cynnwys rhyddiaith, barddoniaeth ac amrywiol sylwadau ar natur cwsg, ac a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2019. Ynghyd â deunydd ymchwil a nodiadau yn ymwneud â chwsg yn gyffredinol.

Cyfieithiadau gan Menna Elfyn

Deunydd yn ymwneud â chyfieithiadau gan Menna Elfyn o'i gwaith barddonol ei hun ac o waith beirdd eraill, gan gynnwys Gillian Clarke, John Barnie, y bardd Tsieineaidd Shi Tao a'r bardd Pwnjabaidd Mazhar Tirmazi.

Cyfieithiadau o farddoniaeth Menna Elfyn gan eraill

Deunydd yn ymwneud â chyfieithu gwaith barddonol Menna Elfyn i ystod eang o ieithoedd, gan gynnwys Tsieinëeg, Lithwaneg, Swedeg, Wcreineg, Groeg, Hindi a Slofeneg. Ymysg y cyfieithwyr i'r Saesneg mae Robert Minhinnick, R. S. Thomas, Gwyneth Lewis, Tony Conran, Nigel Jenkins, Joseph Clancy, Elin ap Hywel a Gillian Clarke. Ynghyd â gohebiaeth yn ymdrin â'r gwaith cyfieithu rhwng Menna Elfyn, Nigel Jenkins, Gillian Clarke, Tony Conran a Joseph Clancy.

Cyfieithiadau o libretti operâu

Deunydd yn ymwneud â chyfieithiadau i'r Gymraeg gan Menna Elfyn o libretti operâu, sef Otello, Don Carlo, Il Trovatore ac Aida gan Verdi ac I Capuleti e i Montecchi gan Bellini, gan gynnwys libretti, sgoriau cerddorol a gohebiaeth.

Cylch y Cyfaredd

Sgôr gerddorol a libretto dwyieithog Cylch y Cyfaredd, y geiriau gan Menna Elfyn a'r gerddoriaeth gan Richard Lind.

Cywaith gyda Howard Bowcott

Deunydd yn ymwneud â phrosiectau ar y cyd ar gyfer celf gyhoeddus rhwng Menna Elfyn (geiriau) a'r cerflunydd Howard Bowcott (gweithiau celf), gan gynnwys brasluniau, drafftiau a nodiadau a gohebiaeth rhwng Menna Elfyn a Howard Bowcott.

Dadlau Rhin

Deunydd yn ymwneud â Dadlau Rhin, drama a gomisiynwyd ar gyfer Cwmni Theatr Hwyl a Fflag, Mawrth 1993, gan gynnwys crynodeb o'r naratif a chopïau drafft a theg o'r sgript.

Darlithoedd ac anerchiadau

Deunydd yn ymwneud â darlithoedd ac anerchiadau a draddodwyd gan Menna Elfyn yng Nghymru, Prydain a thu hwnt mewn gŵyliau, prifysgoliaon, cymdeithasau ac achlysuron eraill ar destunau megis llenyddiaeth, menywod a Chymru a'r iaith Gymraeg, gan gynnwys copïau sgriptiau drafft a theg, nodiadau, gohebiaeth a thorion o'r wasg.

Darlithoedd, cyrsiau academaidd a gweithdai

Deunydd yn ymwneud â chyrsiau academaidd a gweithdai y bu Menna Elfyn yn darlithio iddynt, yn eu cyfarwyddo, neu fel arall yn ymwneud â hwynt, gan gynnwys: cwestiynau a bras nodiadau yn ymwneud â chwrs 'Merched o Feirdd yng Nghymru, Ddoe a Heddiw', a gynhaliwyd, yn ôl tystiolaeth pennawd y papur arholiad y defnyddiwyd ar gyfer y nodiadau, ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan; bras nodiadau (llaw a theipysgrif) a wnaed gan Menna Elfyn ar gyfer seminarau fel rhan o gwrs 'Barddoniaeth yr Wythdegau' y bu'n darlithio arno yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd yn ystod y 90au, ynghyd â nodiadau bywgraffyddol ar y "bardd dawnus" (yng ngeiriau Menna Elfyn) Ennis Evans, a fu farw ym 1982 yn 29 oed, gan y bardd a'r llenor Einion Evans, tad Ennis, ysgrif gan Ennis Evans yn dwyn y teitl 'Pe Meddwn Ddawn ...' a dau nodyn ar y deunydd bywgraffyddol ac ar ysgrif Ennis Evans yn llaw Einion Evans; manylion ynghylch amserlenni cwrs Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, 1999-2010, a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn a'r bardd a'r llenor Nigel Jenkins, ynghyd â datganiad o'r wasg yn ymwneud â'r cwrs ac amrywiol ddeunydd perthnasol, megis trosolygon y cwrs, gohebiaeth, cofnodion cyfarfodydd ac adroddiadau; gweithlen a baratowyd ar gyfer gweithdy llenyddol a gynhaliwyd yn Unol Daleithiau America yn 2005; cofnodion arsylwi ansawdd a dull dysgu a darlithio Menna Elfyn (arsylwyd gan y bardd, dramodydd a darlithydd Dr Dic Edwards, a sefydlodd y cwrs Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, lle bu'n ddarlithydd hyd at 2019; deunydd yn ymwneud â chwrs Ysgrifennu Ymchwil a gynhaliwyd yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth, 2014; a bras nodiadau darlith/trafodaeth yn llaw Menna Elfyn.
Gweler hefyd dan bennawd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant o fewn yr archif hon.
Mae Menna Elfyn yn Athro Emerita mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan.

Darllediad teledu: Rhyw Ddydd

Cyfres o gerddi gan Menna Elfyn a berfformwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr-Pont-Steffan, 1984, ac yn ddiweddarach a ddarlledwyd ar gyfer S4C.

Darllediadau cyfryngol

Deunydd yn ymwneud â darllediadau cyfryngol gan neu'n ymwneud â Menna Elfyn, gan gynnwys drafft llawysgrif o anerchiad gan Menna Elfyn ar gyfer darllediad ar Radio [Cymru], Sul y Blodau 1985; llythyr, 1995, at Wasg Gomer ynghylch hawlfraint ar rai o gerddi Menna Elfyn a ddarlledwyd mewn cyfres o raglenni radio yn Nenmarc; copi teipysgrif o ysgrif gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl 'Under the Influence', a ddarlledwyd ar Radio 3, Tachwedd 2008; sgript ddrama radio o'r enw 'Dim Byd O Werth' a sgrifenwyd gan Menna Elfyn ac a ddarlledwyd gyntaf ar Radio Cymru ar 22ain Mawrth 2009; sgript ddrama radio o'r enw 'Colli Nabod' a sgrifenwyd gan Menna Elfyn ac a ddarlledwyd gyntaf ar Radio Cymru ar 22 Ebrill 2012; a dogfennau a gohebiaeth ynghylch darlledu rhai o gerddi Menna Elfyn mewn cyfres o raglenni radio a theledu yng Nghatalwnia [2014].

Am Ar Dir y Tirion (1993), drama deledu a ymddangosodd yn wreiddiol fel y ddrama lwyfan Trefn Teyrnas Wâr (1990), gweler dan Gweithiau llwyfan a dan y pennawd Drama deledu: Ar Dir y Tirion o fewn yr archif hon.

Dedfryd a charchar

Deunydd yn ymwneud â gweithredoedd ymgyrchol Menna Elfyn fel aelod o Gymdeithas yr Iaith, gan gynnwys adroddiad, 1969, gan Menna Elfyn o brotest gan Gymdeithas yr Iaith yn Llundain a'u harestiad wedi hynny; llythyr, 1971, oddi wrth Menna Elfyn at Ustus Talbot yn gwrthwynebu cynnal achosion llys yng Nghymru trwy gyfrwng y Saesneg, ynghyd ag agwedd y llys tuag at y diffinyddion; dyddiadur, 1971, a gadwyd gan Menna Elfyn tra'n garcharor yng Ngharchar Pucklechurch, dwy dudalen ohono wedi'u hysgrifennu ar gefn llythyr at Menna Elfyn gan ei thad yn ystod cyfnod ei charchariad; llythyr ymddiswyddiad, 1977, at Senedd Cymdeithas yr Iaith oddi wrth un o'u cyd-aelodau; llythyr, 1986, at Menna Elfyn oddi wrth Lys Ynadon Pebidiog, Hwlffordd; adroddiad, 1990, gan aelod o heddlu Dyfed-Powys ynglŷn â difrod troseddol gan aelodau Cymdeithas yr Iaith; llythyr, 1993, at Menna Elfyn oddi wrth Lys Ynadon Caerdydd ynghylch cyhuddiad o ddifrod troseddol gan aelodau Cymdeithas yr Iaith; toriad papur newydd ynghylch difrod troseddol gan aelodau Cymdeithas yr Iaith; datganiad, 1993, gan Menna Elfyn i Lys Ynadon Aberteifi wedi iddi wrthod talu dirwy yn dilyn gweithred o ddifrod troseddol; a chyfieithiad gan Gillian Clarke o gerdd gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl No. 257863 H.M.P.

Results 21 to 40 of 159