Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 167 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau D. J. Williams, Abergwaun ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau 1936-1937

Llythyrau, 1936-1937, a dderbyniodd cyn ac yn ystod cyfnod D. J. Williams yng ngharchar Wormwood Scrubs, gan gynnwys rhai oddi wrth J. Dyfnallt Owen (1), Caradog Prichard (1), Prosser Rhys (1), Kate [Roberts] (2), Ben Bowen Thomas (10), ynghyd â thri llythyr oddi wrth lywodraethwr y carchar.

Dyfnallt, 1873-1956

Llythyrau 1936-1937

Llythyrau, 1936-1937, a dderbyniodd cyn ac yn ystod cyfnod D. J. Williams yng ngharchar Wormwood Scrubs, gan gynnwys rhai oddi wrth H. T. Jacob (2), Dafydd Jenkins (4), A. Gray Jones (12), ysgrifennydd cynorthwyol gyda undeb athrawon yn ymladd achos D. J. Williams gyda'r awdurdodau addysg, Dr Gwenan Jones (1), Gwilym R. Jones (1), Idwal [Jones] (2), J. E. Jones (13), a [D.] Myrddin Lloyd (2), ynghyd â'i adolygiad o Storïau'r Tir Glas a ymddangosodd yn y Western Telegraph and Times.

Jacob, H. T. (Henry Thomas), 1864-1957

Llythyrau 1936-1937

Llythyrau, 1936-1937, a dderbyniodd cyn ac yn ystod cyfnod D. J. Williams yng ngharchar Wormwood Scrubs, gan gynnwys rhai oddi wrth J. E. Daniel (1), Cassie [Davies] (5), George M. Ll. Davies (4), [William Evans], 'Wil Ifan' (5) a W. J. Gruffydd (1).

Daniel, John Edward, 1902-1962

Llythyrau oddi wrth Ezra Owen

Llythyrau, 1910-1916, oddi wrth ei chyfaill agos y Corporal Ezra Ewart Owen, ynghyd â thaflen brintiedig y gwasanaeth coffa a gynhaliwyd iddo yn Eglwys MC Grove Place, Port Talbot, Medi 1916. Collodd ei fywyd ar faes y gad yn Ffrainc

Llythyrau oddi wrth gyfeillion

Llythyrau, [1916]-1965, gan gynnwys rhai yn cydymdeimlo â hi adeg marwolaeth ei brawd Eben a hefyd llythyrau'n dymuno'n dda iddi ar ei phriodas yn 1925. Yn ogystal ceir llythyrau y tybir ei bod wedi'u hetifeddu, gan gynnwys tri llythyr, [1866x1895], a llythyr oddi wrth M[ichael] D. Jones o'r Bala, 1885, at gyfaill.

Jones, Michael D. (Michael Daniel), 1822-1898

Llythyrau teuluol eraill

Llythyrau, 1902-[1959], at Siân Williams, oddi wrth D. J. Williams, ei brodyr a'i chwiorydd Magi, Anna, Dai a Wil Ifan, yn ymwneud â materion teuluol, ynghyd â llythyr, 1904, oddi wrth y [Parch. Dan Evans] at ei briod a'i blant, o ysbyty yn Abertawe, yn ymwneud â salwch eu mab Evan.

Wil Ifan, 1883-1968

Llythyrau oddi wrth ei brawd

Llythyrau, 1902-[1915], oddi wrth Eben Evans, ynghyd â llythyrau, [1916]-[1917], oddi wrth ei wraig Marie yn ymwneud â'u pryder am ddiogelwch Eben. Yr oedd Eben yn athro yn Llundain ond collodd ei fywyd yn Ffrainc.

Cofrestr aelodau [Eglwys Bryngwenith]

Cofrestr aelodau [Eglwys Annibynnol Bryngwenith, Llanfair Trelygen], 1859-1860, yn dangos eu cyfraniadau tuag at y weinidogaeth. Ceir nodyn tu mewn i'r clawr gan y [Parch. Dan Evans, tad Siân Williams, gweinidog ar yr eglwys am wyth ar hugain o flynyddoedd]: 'Derbyniwyd y llyfryn hwn 13 Medi '32 trwy law Mr David Jones Crynant oddiwrth Miss Adams Tynewydd'.

Eglwys Bryngwenith (Llanfair Trelygen, Wales)

Papurau teuluol

Llyfr nodiadau, 1909, yn cynnwys telynegion 'Tymhorau bywyd' yn llaw Wil Ifan [fe'u hargraffwyd yn Dros y nyth: caniadau William Evans, Penybont ar Ogwr (Y Fenni, 1913)]. Ceir englynion eu tad y Parch D[an] E[vans] ar ben-blwydd eu mam, [1918]-[1924] ac adroddiad o'r wasg ar achlysur dathlu eu priodas aur yn 1923; cerdd 'Clymu' gan J. T. Job ar achlysur priodas Siân a D. J. Williams yn 1925; ynghyd â chofnod o'r marciau a gafodd mewn cwrs coginio gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1902; a manylion a gopïwyd ganddi o Feibl ei thad am y teulu, 1798-1903.

Wil Ifan, 1883-1968

Llyfrau nodiadau

Llyfr nodiadau, 1903, yn cynnwys adysgrifau o gerddi Cymraeg a Saesneg poblogaidd. Llyfr nodiadau, 1905-[1951], yn cynnwys eitemau rhydd gan mwyaf gan gynnwys adroddiad am dysteb i'w thad y Parch. Dan Evans, Hawen, 1928, a theyrngedau iddo ar ei farwolaeth yn [1934]; 'Penillion i Miss Evans, ysgolfeistres ar achlysur ei phriodas', [1925] a 'Llinellau priodasol' iddynt gan 'Briallydd'; torion o gerddi gan Wil Ifan; ac adysgrifau o gerddi.

Tystysgrifau

Copi, 1907, o dystysgrif geni Siân Williams, 4 Awst 1884, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin; tystysgrif Band of Hope, 1892; tystysgrif ysgoloriaeth, 1896, i Ysgol Sir Port Talbot a thystysgrifau addysgol eraill, 1899-1900.

Canlyniadau 21 i 40 o 167