Print preview Close

Showing 167 results

Archival description
Papurau D. J. Williams, Abergwaun file
Print preview View:

Llythyrau Williams (W-)

Llythyrau, 1918-1969. Ymhlith y gohebwyr mae [W.] Crwys [Williams] (3), W. D. [Williams] (3), W. Llewelyn Williams (1) a Waldo Williams (43), gan gynnwys cerdd a ysgrifennodd Waldo Williams ar ôl taith yn Iwerddon yn 1956 a chyfarchion ar gerdd ganddo wedi i D. J. Williams dderbyn gradd DLitt yn [1957]. Dyfynnwyd yn helaeth o'r llythyrau hyn yn Damian Walford Davies (golygydd), Waldo Williams: rhyddiaith (Caerdydd, 2001).

Crwys, 1875-1968

Llythyrau oddi wrth Flora Forster

Llythyrau, 1918-1925, 1930, 1937, oddi wrth Flora Macrae Forster at D. J. Williams yn ymwneud yn bennaf â'u perthynas bersonol, gan gynnwys copi o lythyr a ysgrifennwyd gan D. J. Williams yn 1924 o Landernou, Llydaw, a llythyr, 1923, oddi wrth Alice Forster ato.

Forster, Flora

Llythyrau oddi wrth Kate Roberts

Llythyrau, [1927]-1969, oddi wrth Kate Roberts at D. J. Williams, yn ymwneud â phynciau megis Plaid Cymru, ei gwaith creadigol hi, Gwasg Gee a'r Faner, ynghyd â thri llythyr, 1934, yn rhoi ei barn ar y sgetsys i'w cyhoeddi yn Hen Wynebau (Aberystwyth, 1934) ac ar ei weithiau eraill. Yn y ddau lythyr cyntaf defnyddia'r ffurf 'Catrin Robaits' wrth lofnodi. Yn fynych ceir sylwadau wedi'u hychwanegu gan Morris Williams (Morus Cyffin) arnynt.

Roberts, Kate, 1891-1985

Llythyrau oddi wrth Lewis Valentine

Llythyrau, [1925]-1969, oddi wrth Lewis Valentine at D. J. Williams, yn trafod ei drefniadau pregethu a'i waith gydag Undeb y Bedyddwyr, Plaid Cymru, ac yn ymateb i weithiau llenyddol y llenor. Yn llythyr 6 Chwefror 1962 ceir nodiadau bywgraffyddol ganddo ar gyfer ysgrif D. J. Williams yn [Seren Gomer] wedi iddo gael ei ethol yn Is-Lywydd Undeb y Bedyddwyr. Mae'r llythyr olaf oddi wrth Margaret Valentine.

Valentine, Lewis

'Dyddiadur Dyn Anonest'

Mae dechrau'r gyfrol yn cynnwys achres teulu Llywele, Llansawel, a nodiadau am hanes ei hynafiaid, a chofnodion yn ymwneud â chyfrifon Penrhiw ac Abernant, 1938-1953. Defnyddiwyd cefn y ledjer fel dyddiadur, 1941-1951, gyda'r teitl 'Dyddiadur Dyn Anonest', gan gynnwys cerdd 'Pen-yr-Yrfa' gan George M. Ll. Davies wedi'i gopïo gan Siân Williams yn 1943.

Results 21 to 40 of 167