Mae'r ffeil hon yn cynnwys nodiadau ac esboniadau beiblaidd yn bennaf, gan gynnwys rhai ar Lyfr y Datguddiad, Marc, Luc, Ioan, Llyfr y Pregethwr a Llyfr Jôb. Yn y ffeil hefyd mae copïau llaw o emynau o ffynhonnell lawysgrif ynghyd â llungopïau o 'Y Garreg Wen' gan Timothy Evans.
Mae'r ffeil hon yn cynnwys nodiadau ar Gwallter Mechain, Thomas Price (Carnhuanawc), William Owen Pughe, Iolo Morganwg, John Jones, Glan-y-gors, Dafydd Ddu Eryri, Robert Jones, Rhos-lan, a William Ellis Jones 'Y Bardd neu y meudwy Cymreig'. Yma hefyd mae nodiadau ar draethawd M.A. Richard Griffith Owen 'Brwydr y ddau gyfansoddiad' ac adolygiad o 'Barn ar Egwyddorion Llywodraeth', Emyr Wyn Jones, yn ogystal â dalennau llyfryddiaethol.
Mae'r ffeil hon yn cynnwys drafft o'r llyfr Gemau Hwngaria a baratowyd ar y cyd rhwng Glyn M. Ashton a Tamâs Kabdebo. Ceir drafft o'r rhagymadrodd i'r llyfr a chyfieithiadau i'r Gymraeg o straeon gwerin Hwngari.
Mae'r ffeil hon yn cynnwys llyfr nodiadau a nodiadau eraill mewn Cymraeg, Almaeneg, a Saesneg yn ymdrin â dehongli breuddwydion, ynghyd â chopïau o destunau llawysgrif a rhestrau o fotifau breuddwydion. Yn rhan o'r ffeil ceir llyfr Almaeneg Sonderabruck aus dem..., 1910. Darlledodd Glyn M. Ashton sgwrs radio o'r enw 'Dehongli Breuddwydion', Rhagfyr 1954.
Mae'r ffeil hon yn cynnwys llythyrau oddi wrth D. J. Williams (Abergwaun) (7), G. J. Williams (8), John Roberts Williams (1), T. H. Parry-Williams (2), T. Hudson-Williams (4) a William Nantlais Williams (1) ymysg eraill.
Mae'r ffeil hon yn cynnwys llythyrau oddi wrth Abbe M. Klerg (4), Roparz Le Mason (6), Saunders Lewis (6), O. M. Lloyd (1), Per Loisel (1), Joseph-Marie Loth (1), Per Mocaer (4), Olivier Mordrel (2), Owain Llew Owain (1), John Dyfnallt Owen (1), Y Barnwr Dewi Watkin Powell (1), Caradog Prichard (1), Y Barnwr Alun Pugh (1) yn ogystal ag un llythyr Ffrangeg gan J. Nemo, mam Roparz Hemon.
Mae'r ffeil hon yn cynnwys llythyrau oddi wrth: D. Lloyd Jenkins (1), R. T. Jenkins (2), Cynan (1), Yr Athro D. James Jones (1), E. D. Jones (1), Dr Gwenan Jones (1), John Charles Jones, Archesgob Bangor (1), John Gwilym Jones (1), John Morris-Jones (1), Mary Vaughan Jones (1) a T. Gwynn Jones (1). Ceir hefyd saith llythyr gan Annie M. Jones, Machynlleth, yn trafod hanes yr achos Methodistaidd ym Melinbyrhedyn, Darowen.
Mae'r ffeil hon yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ifan ab Owen Edwards (3), Mari Ellis (npounde Headley) (1), T. I. Ellis (1), A. W. Wade-Evans (2), Idris Foster (1), William Gibson (Arglwydd Ashbourne) (1), W. J. Gruffydd (2), Roparz Hemon (1), Loeiz Herrieu (1), a T. Rowland Hughes (2).
Mae'r dyddiadur yn cofnodi agweddau rhai Llydawyr cenedlaetholgar tuag at Ffrainc a'r Almaen yn y dyddiau olaf cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd. Fe gyhoeddodd Bebb y dyddiadur yn 1939 dan y teitl Dyddlyfr Pythefnos neu y Ddawns Angau.
Mae'r dyddiadur yn cynnwys nodiadau bras a luniwyd yn ddiweddarach ynglŷn â'r cyfarfod cyntaf i drafod y brotest yn erbyn yr ysgol fomio ym Mhenyberth.