Showing 2492 results

Archival description
Papurau Kate Roberts Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth D[afydd] E[lis], [Penyfed, Corwen], CPGC Bangor,

Nid oes llawer o awydd gweithio arno. Bu'n darllen rhai o gywyddau yr hen feirdd. Mae un cwpled wedi aros ar ei gof:. "Ofer yw byw yn y byd. Un ni welo'i anwylyd". Bu wrth y pentan dros y Pasg heb fynychu unrhyw oedfa. Ond bu yn y dre yn gwrando ar gôr yn perfformio "The Creation". Mae R. J. Jones yn dod i aros atynt dros y Sul gan ei fod yn pregethu yn eu capel hwy. Bydd yn disgwyl bod KR wedi ysgrifennu "haid o straeon" ar gyfer ei ddifyrru yn ystod y tymor dilynol. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., tt 159-60.

Llythyr oddi wrth J. C. W[illiams], Plaistow, Llundain,

Diolch am lythyr. Cafodd lawer pwl o hiraeth. Mae wedi bod yn sefyll arholiad y Central Midwives Board ac wedi bod yn llwyddiannus. Mae rheolau'r ysbyty yn gaeth iawn. Mae'n mynychu capel Cymraeg Stratford bron bob Sul. Gwelodd un claf yn dioddef o'r gwahanglwyf. Sôn am gleifion o Rwsia a'r Is-Almaen hefyd. Mae trigolion y cartref nyrsus yn Dorïaidd ac Ucheleglwysig ac yn elynion i Lloyd George. Oddi allan i'r ysbyty y mae yna lawer o dlodi a diweithdra.

Llythyr oddi wrth Dafydd Elis, yng Nghorwen,

Yr oedd KR yn iawn i agor y parsel. Nid oes awydd gwaith arno. Bwriada fwynhau ei hunan tra ei fod adref o'r Coleg. Mae am anfon cerdyn ati pan fyddant yn barod. Achosodd y cardiau hwyl fawr tua'r Coleg. [Ceir hanes y cardiau Nadolig hyn mewn erthygl a gyhoeddwyd gyntaf gan KR yn Taliesin, cyf. 11 (1965), tt 15-27. Ailgyhoeddwyd yr erthygl yn David Jenkins (gol.), Erthyglau ac Ysgrifau Llenyddol Kate Roberts (Abertawe, 1978), tt 155-67 yn dwyn y teitl "David Ellis: Bardd a Gollwyd". Buasai KR a Dafydd Ellis yn gyfrifol am anfon hanesion Coleg y Gogledd i'r Brython ar gais Ifor Williams. "Penderfynasom ofyn am anrheg gan gwmni'r Brython ar ddiwedd y chwarter cyntaf, chwarter Nadolig 1912, sef ychydig o gardiau Nadolig preifat Cymraeg ... bu cwmni'r Brython yn ddigon caredig i roi inni ddwsin. Yr oedd yn beth mawr inni yn 1912 gael cardiau a'n henwau ni ein hunain wedi eu hargraffu arnynt. Anfonwyd samplau inni i'r Coleg, ond daeth y parsel wedi i David Ellis fyned adref ar y gwyliau, a minnau'n aros ymlaen i wneud ymarfer dysgu yn un o ysgolion Bangor. Agorais y parsel a gwneud fy newisiad fy hun, a'i anfon ymlaen iddo yntau wedyn." (David Jenkins, op.cit., tt 158-9).

Llythyr oddi wrth Enid [Stanley Jones][= Mrs D J Davies, Capel Als, Llanelli], ym Mhorth,

Cafodd bythefnos o wyliau yn Llanwrtyd. Bu'n chwarae llawer o denis a bu'n hwylio ar y llyn. Aethant oddi yno i Gil-y-cwm i arddwest yr etifedd yn dod i oed. Mae'n aros gydag ewyrth yn y Porth. Mae ganddi wyth o gefndryd yno. Trafod sut y mae hi'n gwisgo ei gwallt. Mae'n bwriadu cael tynnu ei llun yno. Mae ei hoff gefnder, Richie, wedi cyrraedd Cape Town yn ddiogel. Mae streiciau rheilffyrdd, dociau a phyllau glo yn Ne Cymru. Nid oes sicrwydd os bydd trên iddi ddychwelyd adref. Saesneg/English.

Results 2481 to 2492 of 2492