Showing 567 results

Archival description
series
Advanced search options
Print preview View:

Llyfrau Casgliad y Weinidogaeth

Mae'r gyfres yn cynnwys yn bennaf llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1944-1996, ynghyd â chyfrolau a bwndeli o bapurau rhydd yn cynnwys cyfrifon ar gyfer casgliadau y weinidogaeth yn ôl pob tebyg, a gopïwyd yn ddiweddarach i'r cofrestri ffurfiol, 1977-1996.

Llythyrau,

Llythyrau gan gynnwys llythyrau personol oddi wrth gyfeillion yn ymateb i gyhoeddiadau D. Tecwyn Lloyd fel Bore da, Lloyd (Caernarfon, 1980), Cofio rhai pethe a phethe eraill (Dinbych, 1988) a John Saunders Lewis. Cyfrol I (Dinbych, 1988); ceisiadau i adolygu llyfrau; gwahoddiadau i ddarlithio; llythyrau o gydymdeimlad wedi marwolaeth ei wraig Frances yn 1980; a llythyrau'n ymwneud â chyfraniadau ar gyfer y cylchgrawn Taliesin y bu'n ei olygu.

Llythyrau,

Ceir llythyrau personol oddi wrth gyfeillion yn ymateb i lyfrau D. Tecwyn Lloyd megis Safle'r Gerbydres ac ysgrifau eraill (Llandysul, 1970), Lady Gwladys a phobl eraill (Abertawe, 1972) a Hyd eithaf y ddaear: a storïau eraill (Llandysul, 1972) a gyhoeddwyd gan ddefnyddio'i ffugenw E. H. Francis Thomas; ymateb oddi wrth olygyddion cylchgronau eraill gan gynnwys Barn, Y Genhinen a Trivium a llythyrau'n ymwneud â chyfraniadau ar gyfer y cylchgrawn Taliesin y bu'n ei olygu.

Traethodau,

Traethawd 'Golwg ar hanes ardal Llawrybetws neu Nantffreuer: o Bethel i lawr i Gaefaes' a ysgrifennodd D. Tecwyn Lloyd ar hanes lleol bro ei febyd, 'o gof personol ac amryfal gofnodion', gan ganolbwyntio ar anheddau'r ardal.

Results 221 to 240 of 567