Showing 45762 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Llyfr nodiadau 5

Llyfr nodiadau Ieuan Wyn Jones yn cynnwys nodiadau o gyfarfodydd a syniadau yn seiliedig ar ei waith fel Aelod Seneddol, Aelod y Cynulliad a gwaith mewnol Plaid Cymru.

Llyfr nodiadau 3

Llyfr yn cynnwys nodiadau Ieuan Wyn Jones o gyfarfodydd fel rhan o'i swydd fel Aelod Seneddol a materion mewnol Plaid Cymru.

Cerddi

Englynion Mathonwy Hughes, gan gynnwys ‘Y Parch. Lewis Valentine yn 90 oed’, ‘Criw Y Faner’, ‘Y Babell Lên’, ynghyd â chopi o’i gerdd ‘Cwm Silyn (Hwyr Awst) [a gyhoeddwyd yn ei gyfrol Corlannau a cherddi eraill (Llyfrau'r Faner, 1971), ac englyn Derwyn Jones i Mathonwy Hughes (ar ôl darllen ei gyfrol Corlannau). Ceir hefyd gopi o drefn gwasanaeth angladd Mathonwy Hughes, 8 Mai 1999, a gynhaliwyd yn y Capel Mawr, Dinbych.

Nodiadau llenyddol

Llyfr nodiadau [yn llaw Dilys Williams] yn cynnwys bras nodiadau yn ymwneud yn bennaf â llenyddiaeth Gymraeg.

Panel asesu

Papurau, 1997-1998, yn ymwneud â rôl Elinor Bennett ar y Panel Asesu a fyddai’n dewis cynllun i adeilad newydd y Cynulliad yn 1998. Ceir cofnodion cyfarfodydd a llythyrau oddi wrth James Callaghan, y cadeirydd.

Pregethau

Pregethau a draddodwyd ganddo, [1964]-[1997]. Cofnodir enw'r eglwys ar y bregeth, yn arbennig Eglwys Shiloh, Llanbedr Pont Steffan.

Day that I have loved

Sgôr Malcolm Williamson, Day that I have loved, 1992, symffoni mewn pedwar symudiad ar gyfer telyn unigol, geiriau gan Rupert Brooke. Ceir ffotograff o’r achlysur, nodiadau gan y cyfansoddwr a deunydd marchnata.

Results 181 to 200 of 45762