Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyrau 1935-2006

Ymhlith y llythyrau mae un oddi wrth T. E. Nicholas a soned 'Syrcas Caernarfon 1969' ganddo mewn teipysgrif gyda nodyn yn ei law: 'Fy soned olaf, ar ben fy mhlwydd yn 89 Hyd 6/68'

John (Tydu) Jones

Llythyrau a anfonodd John (Tydu) Jones at ei nai Tydfor a'r teulu o Ganada, ynghyd ag enghreifftiau o'i ddawn fel bardd ac ysgrif bortread [anfuddugol Tydfor] ar ei ewythr, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983.

Tŷ Ddewi

Llyfr nodiadau yn cynnwys copi teg o'r awdl Tŷ Ddewi gan ac yn llaw Waldo Williams. Cyfansoddwyd yr awdl ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936, ond bu'r cynnig yn aflwyddiannus.

Trafodaeth gan Jâms (James) Nicholas o'r awdl Tŷ Ddewi yn rhifyn 12 Hydref 1957 o bapur newydd Y Seren.

Torion

Torion o gylchgronau fel Y Winllan, Yr Eurgrawn, Y Genhinen a’r Traethodydd, 1937-1965, yn cynnwys ysgrifau ganddo neu amdano.

Llyfr nodiadau.

Llyfr nodiadau gyda dyfyniadau o lyfrau hanesyddol Saesneg yn bennaf. Tua chanol y gyfrol ceir cerdd: ‘Y gweithfeydd hyn’ [cyhoeddwyd yn Christine James (gol.), Cerddi Gwenallt: y casgliad cyflawn (Llandysul, 2001) fel ‘Y gweithfeydd segur’ ac yn wreiddiol yn Baner ac Amserau Cymru, 25 Awst 1943], a dau englyn: ‘Er cof am David Lewis, Dolanog’ [cyhoeddwyd fel ‘Er cof am Ddafydd Lewis, Gwasg Gomer’, yn Cerddi Gwenallt a chyn hynny yn Baner ac Amserau Cymru, 8 Medi 1943].

Cerddi

Cerddi, 1937-[1988], gan gynnwys 'Codasom gaer' mewn copi o Tir newydd, Tachwedd 1937; 'Siwrnai'r dewiniaid', trosiad o [Journey of the Magi] gan T. S. Eliot; ‘Cyfarchiad i’r Cymry ar wasgar’ a ‘Mynydd fy mynyddoedd’.

Llythyrau

Ceir llythyrau yn deillio o'i gyfnod yn rheolwr-gyfarwyddwr Llyfrau’r Dryw, Llandybïe, 1957-1965.

Y Tŵr a'r Graig

Copïau llawysgrif drafft a llungopïau o ran o gywydd Waldo Williams Y Tŵr a'r Graig (yma'n dwyn y teitl [?gwreiddiol] 'Rhwng y Ddwy Garn'), y copïau llawysgrif a chopïau gwreiddiol y llungopïau yn llaw Waldo Williams. Cyhoeddwyd y cywydd am y tro cyntaf yn rhifyn Tachwedd 1938 o'r cylchgrawn Heddiw.

Geirda personol,

Geirda gan T. E. Davies, Ysgol Acrefair i Fechgyn, 1939; Parch. J. Knighton Jones, Ficer y Rhyl, 1957; J. Idwal Jones, Tŷ Cyffredin (d.d.); Haydn H. Thomas, Ysgol Glan Clwyd, 1960.

Rhai tonau,

Dau lyfr cerddoriaeth yn ogystal â nifer o dudalennau rhydd, sy'n cynnwys trefniadau a gosodiadau o emynau yn yr hen nodiant a sol-ffa. Y rhan fwyaf o'r cyfnod 1939-1941. Nifer o frasluniau o drefniadau, Dave-'O! Dduw rho i'm dy hedd'; 'O! am ysbryd i weddïo'; Elwyn-'Mae carcharorion angau' a 'Angels from the realm of glory', 1951. (Teitl a threfniant ffeil gwreiddiol).

Tri chryfion byd

Tri chryfion byd gan Twm o'r Nant (wedi ei gwtogi ar gyfer cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 1939) yn cynnwys llythyr oddi wrth Kate Roberts a nodiadau ar Twm o’r Nant.

Abergwaun Group of the Peace Pledge Union

Llyfr nodiadau yn cynnwys cofnodion cangen Abergwaun o Undeb y Llw o Blaid Heddwch (Peace Pledge Union), 1939-1945, y rhan helaethaf o'r cofnodion yn llaw Dilys Williams, ysgrifennyddes yr Undeb, gydag un cofnod (dyddiedig 6 Rhagfyr 1939) wedi'i lofnodi ganddi, a chofnodion 24 Mawrth 1944 ymlaen yn llaw ei brawd, Waldo Williams. Hefyd yn y gyfrol ceir derbynebau am daliadau; rhestr o aelodau'r Undeb ym mis Gorffennaf 1939; llythyr printiedig at aelod(au)'r Undeb; a thoriad papur newydd yn cynnwys cerdd Alun J[eremiah] Jones (Alun Cilie) 'Diwedd Hydref'.

Seintiau Celtaidd

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys nodiadau ar seintiau Celtaidd, enghreifftiau o linellau cynghanedd a bras nodiadau eraill.

Amserlenni bws, barddoniaeth a hanes Cymru

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys yr hyn a ymddengys fel amserlenni bws, ynghyd â rhestrau o deitlau ac enwau yn ymwneud â barddoniaeth, llenyddiaeth a hanes Cymru, mesuriadau [?llenni] (gw. Llyfr nodiadau Linda a Waldo ), rhestr siopa, a bras nodiadau eraill.

Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif; Hywel Dda

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams sy'n cynnwys nodiadau a gymerwyd o Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif gan R. T. Jenkins (Gwasg Prifysgol Cymru, 1928); nodiadau ar Hywel Dda (c. 880-950); nodiadau ar hanes economaidd a gwleidyddol; a mân nodiadau eraill.

Results 181 to 200 of 1284