Showing 4 results

Archival description
Reynolds, Idris, 1942-
Print preview View:

Cerddi = Poetry

Llungopïau o gerddi Cymraeg sy'n cyfeirio at frwydr Llangyndeyrn, sef 'Sir Gaerfyrddin (Cân deyrnged i Lywydd Plaid Cymru [Gwynfor Evans] ar ei ethol yn Aelod Seneddol)' gan Gwenallt (o Y Coed (Gwasg Gomer, 1969)); 'Cwm Cymwynas' gan Mererid Hopwood; 'Dathlu 50 Mlynedd Achub Llangynderyn' gan Tudur Dylan; 'Llangyndeyrn' gan Arwel John; 'Y Frwydr' gan Idris Reynolds; 'Pentref (i bobol Llangyndeyrn)' gan Iolo Jones; 'Y Frwydr' gan Geraint Roberts (cyhoeddwyd yn Beirdd Bro Eisteddfod Sir Gâr (gol. Geraint Roberts) (Cyhoeddiadau Barddas, 2014)); 'Llangyndeyrn' gan y Parchedig W. M. Rees (gweler nodyn ym mhrif weithlen yr archif); 'Dŵr' gan Hannah Roberts; a 'Bro Fy Mebyd' gan W. T. Thomas. Cyhoeddwyd 'Cwm Cymwynas', 'Dathlu 50 Mlynedd Achub Llangyndeyrn' a 'Llangyndeyrn' (Arwel John) yn Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965 gan W. M. Rees (Y Lolfa, 2013) (gweler nodyn ym mhrif weithlen yr archif). 'Y Frwydr' oedd englyn buddugol y Prifardd Idris Reynolds ar gyfer Talwrn y Ddau Gwm (Tryweryn a Gwendraeth Fach) (meuryn: Tudur Dylan) adeg dathlu hannercanmlwyddiant y frwydr yn 2013. Arnodiad, yn ôl pob tebyg yn llaw Hywel Gealy Rees wrth yr englyn 'Pentref (i bobol Llangyndeyrn)' gan Iolo Jones: 'Iolo Jones Y Talwrn Radio Cymru'. Cyhoeddwyd 'Llangyndeyrn' gan y Parchedig W. M. Rees yn y gyfrol Cloi'r Clwydi a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Les Llangyndeyrn ym 1983 (gweler dan Dathlu'r ugain mlynedd). Arnodiad, yn ôl pob tebyg yn llaw Hywel Gealy Rees wrth y gerdd 'Dŵr' gan Hannah Roberts: 'Cerdd fuddugol gan Hannah Roberts' (ni enwir y gystadleuaeth).
= Photocopied Welsh poetry which relates to Llangyndeyrn's 'fight for victory', comprising: 'Sir Gaerfyrddin (Cân deyrnged i Lywydd Plaid Cymru ar ei ethol yn Aelod Seneddol)' ['Carmarthenshire (Song in tribute to the Leader of Plaid Cymru [Gwynfor Evans] on his election as Member of Parliament)'] by Gwenallt (from Y Coed (Gomer Press, 1969); 'Cwm Cymwynas' ['Favour Valley'] by Mererid Hopwood; 'Dathlu 50 Mlynedd Achub Llangyndeyrn' ['Celebrating 50 Years Since the Saving of Llangyndeyrn'] by Tudur Dylan; 'Llangyndeyrn' by Arwel John; 'Y Frwydr' ['The Battle'] by Idris Reynolds; 'Pentref (i bobol Llangyndeyrn)' ['Village (to the people of Llangyndeyrn)'] by Iolo Jones; 'Y Frwydr' ['The Battle'] by Geraint Roberts (published in Beirdd Bro Eisteddfod Sir Gâr (ed. Geraint Roberts) (Barddas Publications, 2014)); 'Llangyndeyrn' by the Reverend W. M. Rees (see note in main section of archive); 'Dŵr' ['Water'] by Hannah Roberts; and 'Bro Fy Mebyd' ['My Birthplace'] by W. T. Thomas. 'Cwm Cymwynas', 'Dathlu 50 Mlynedd Achub Llangyndeyrn' and 'Llangyndeyrn' (Arwel John) were published in Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965 by W. M. Rees (Y Lolfa, 2013) (see note in main section of archive). 'Y Frwydr' was the winning englyn (four-line strict-metre verse) in a competition between poets of the Gwendraeth and Tryweryn Valleys, chaired by the award-winning poet Tudur Dylan, to celebrate the half-centenary of Llangyndeyrn's 'fight for victory' in 2013. Annotation, probably in the hand of Hywel Gealy Rees, alongside the englyn 'Pentref (i bobol Llangyndeyrn)' by Iolo Jones (trans.): 'Iolo Jones Y Talwrn [poetic competition] Radio Cymru'. 'Llangyndeyrn' by the Reverend W. M. Rees was published in Cloi'r Clwydi (pub. Llangyndeyrn Welfare Society, 1983) (see under Twentieth anniversary celebrations). Annotation, probably in the hand of Hywel Gealy Rees, alongside 'Dŵr' by Hannah Roberts (trans.): 'Winning poem by Hannah Roberts' (competition not specified).

Gohebiaeth at Dic Jones ac at/oddi wrth Siân Jones

Llythyrau a chardiau, 1976-2012, at Dic Jones a'i wraig Siân, sy'n cynnwys: llythyr yn hysbysu Dic ei fod wedi ennill Cadair Eisteddfod Llanbedr-Pont-Steffan 1997; cyfarchion penblwydd i Dic yn 70 (gan gynnwys un cerdyn oddi wrth Siân); llythyr oddi wrth y newyddiadurwr a'r llenor Dylan Iorwerth yn diolch i Dic am ei wasanaeth i'r cylchgrawn Golwg (yn cynnwys englyn); cyfarchion ar ethol Dic Jones yn Archdderwydd yn 2007; dymuniadau am wellhad buan yn ystod gwaeledd olaf Dic, 2009; a neges yn datgan siom na fyddai Dic, oherwydd gwaeledd, yn medru mynychu Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009. Ceir hefyd llythyr a cherdyn o gydymdeimlad at Mary, chwaer Dic, ar farwolaeth ei brawd, y llythyr oddi wrth y bardd a'r academydd Peredur Lynch (yn cynnwys hir-a-thoddeidiau). Ymysg y gohebwyr y mae'r Prifardd Idris ac Elsie Reynolds (yn cynnwys englynion), y Prifardd a'r llenor T. Llew Jones a'i fab Iolo Ceredig Jones (yn cynnwys englyn) a'r Prifardd Ceri Wyn Jones. Ynghyd â chylchlythyr oddi wrth Siân ar ran Ffederasiwn Prydain Fawr & Iwerddon o gymdeithas y Soroptomists Rhyngwladol a thoriad o'r Tivyside Advertiser, 11 Rhagfyr 2012, yn cynnwys llythyr oddi wrth Siân ynghylch y llygredd sŵn a gynhyrchwyd gan awyrennau drôn yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Aberporth.

Cerddi i Dic Jones

Cerddi a ysgrifenwyd i Dic Jones gan, ymysg eraill, y Prifeirdd Idris Reynolds, Gerallt Lloyd Owen a Ceri Wyn Jones. Yn gynwysedig ceir addasiad o un o gerddi Ceri Wyn Jones, 'Deryn Du yr Hendre', a gomisiynwyd ar gyfer Côr Unebol Ar Ôl Tri (y gerddoraeth gan Gareth Glyn), ac englynion gan Pat (Neill) ar achlysur Dic Jones yn ennill gradd MA er anrhydedd oddi wrth Prifysgol Cymru. Arysgrifir tudalen flaen y copi cerddoriaeth i Siân, gweddw Dic Jones, gan Ceri Wyn Jones.

Papurau Idris Reynolds (Dic Jones)

Papurau'r Prifardd Idris Reynolds, sy'n cynnwys deunydd gan neu'n ymwneud â Dic Jones, gan gynnwys: deunydd yn ymwneud â'r cyfrolau Yr Un Hwyl a'r Un Wylo: Cerddi Gwlad Dic Jones (Gwasg Y Lolfa, 2011), a olygwyd gan Elsie Reynolds, gwraig Idris, a Cofio Dic: Darn o'r haul draw yn rhywle ... (Gwasg Gomer, 2016) gan Idris Reynolds; cyfres o erthyglau gan Dic Jones; deunydd yn ymwneud â rhaglenni teledu a radio y bu Dic Jones yn rhan ohonynt; ysgrifau coffa a rhai o'r llu teyrngedau i Dic Jones a gyhoeddwyd yn dilyn ei farwolaeth; a deunydd amrywiol yn ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â Dic Jones.