Showing 5 results

Archival description
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru Jones, Bedwyr Lewis
Print preview View:

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agenda a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Medi 1989; chofnodion cyfarfod Medi 1988 a Medi 1989; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1988-1989 (1989); adroddiad ariannol y Ganolfan, 1988-1989 (1989); nodiadau’r Cadeirydd, Medi 1987; cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol Prifysgol Cymru (1989), a chofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Staffio Prifysgol Cymru (1989). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1987-1989), yn cynnwys llythyrau oddi wrth M. A. R. Kemp; N. T. Hardyman; Gareth Wyn Evans; R. Geraint Gruffydd; a Bedwyr Lewis Jones.

Llythyrau at ac oddi wrth y Cofrestrydd

Gohebiaeth, 1985-1990, y rhan fwyaf yn cynnwys llythyrau at ac oddi wrth y Cofrestrydd, Prifysgol Cymru, yn trafod anrhydeddau staff, cyflog, materion staffio, a gweithgareddau’r Ganolfan, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; M.A.R. Kemp; Emrys Wynn Jones; Delyth Prys; Sheila Seekings-Foster; yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos; Bedwyr Lewis Jones; Ronnell B. Townsend; I. Moelwyn Hughes; Peter Swinnerton-Dyer; ac N.T. Hardyman. Yn ogystal, ceir papurau cysylltiedig, yn cynnwys copi o’r adroddiad ‘Planning for the Late 1980s: University of Wales Registry’ (1985); a memoranda (1985-1990).

'Enwau Lleoedd'

Gohebiaeth a phapurau, 1987, yn ymwneud â pedwerydd Fforwm y Ganolfan, ‘Enwau Lleoedd’, yn cynnwys rhaglen; crynodebau; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Gwynedd Pierce; Oliver Padel; Margaret Gelling; G. G. Evans; Morfydd E. Owen; Bedwyr Lewis Jones; a Kenneth Cameron.

'Y Fforwm Gernywaidd'

Papurau a gohebiaeth, 1988, yn ymwneud â seithfed Fforwm y Ganolfan, ‘Y Fforwm Cernywaidd’, yn cynnwys y rhaglen; rhestr o fynychwyr; crynodebau; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Brian Murdoch; Oliver Padel; Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Jack Arnell; Gwenan Creunant; Terence McCaughey; E. Evans; Tim Saunders; Bedwyr Lewis Jones; Lauran Toorians; Myrna Harris; a Charles Thomas.

'Fforwm Teyrnged i Goleg y Drindod, Dulyn ar ei Bedwarcanmlwyddiant'

Gohebiaeth a phapurau, 1992, yn ymwneud â pedwaredd Fforwm ar ddeg y Ganolfan i ddathlu pedwarcanmlwyddiant Coleg y Drindod, Dulyn, yn cynnwys rhaglen; anfonebau; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth R. Geraint Gruffydd; D. Gruffydd Jones; T.D. Spearman; J.R. Henson; Morfydd E. Owen; D.A. Webb; R.B. McDowell; Bedwyr Lewis Jones; B.L. Clarkson; Eric Sunderland; Terence Michael; William Griffiths; Mary Muldowney; T.N. Mitchell; J.G.T.Sheringham; W.A. Watts; Máirtín Ó Murchú; R.B. McDowell; ac M.A.R. Kemp.