Dangos 2 canlyniad

Disgrifiad archifol
Lynch, Peredur I., 1963-
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 2006; amcangyfrifon ariannol, 2006-2007 i 2010-2011 (2006); agenda’r Pwyllgor Rheoli a’r Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Mai 2007; a chofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil (2007). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2007), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Vera Bowen; Jill Mustard; Ian Broadbridge; Lynn Williams; Ann Parry Owen; Brynley F. Roberts; Dafydd Johnston; Gareth A. Bevan; Aled Gruffydd Jones; Sara Lee Branch; Paul O’Leary; Robert Rhys; Alun Daniel; Ken Emond; Jenny Childs; a llythyr grŵp oddi wrth Jane Cartwright, Marged Haycock, Dafydd Johnston, Peredur Lynch, Patrick Sims-Williams, Gerwyn Wiliams, a Gruffydd Aled Williams.

Gohebiaeth at Dic Jones ac at/oddi wrth Siân Jones

Llythyrau a chardiau, 1976-2012, at Dic Jones a'i wraig Siân, sy'n cynnwys: llythyr yn hysbysu Dic ei fod wedi ennill Cadair Eisteddfod Llanbedr-Pont-Steffan 1997; cyfarchion penblwydd i Dic yn 70 (gan gynnwys un cerdyn oddi wrth Siân); llythyr oddi wrth y newyddiadurwr a'r llenor Dylan Iorwerth yn diolch i Dic am ei wasanaeth i'r cylchgrawn Golwg (yn cynnwys englyn); cyfarchion ar ethol Dic Jones yn Archdderwydd yn 2007; dymuniadau am wellhad buan yn ystod gwaeledd olaf Dic, 2009; a neges yn datgan siom na fyddai Dic, oherwydd gwaeledd, yn medru mynychu Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009. Ceir hefyd llythyr a cherdyn o gydymdeimlad at Mary, chwaer Dic, ar farwolaeth ei brawd, y llythyr oddi wrth y bardd a'r academydd Peredur Lynch (yn cynnwys hir-a-thoddeidiau). Ymysg y gohebwyr y mae'r Prifardd Idris ac Elsie Reynolds (yn cynnwys englynion), y Prifardd a'r llenor T. Llew Jones a'i fab Iolo Ceredig Jones (yn cynnwys englyn) a'r Prifardd Ceri Wyn Jones. Ynghyd â chylchlythyr oddi wrth Siân ar ran Ffederasiwn Prydain Fawr & Iwerddon o gymdeithas y Soroptomists Rhyngwladol a thoriad o'r Tivyside Advertiser, 11 Rhagfyr 2012, yn cynnwys llythyr oddi wrth Siân ynghylch y llygredd sŵn a gynhyrchwyd gan awyrennau drôn yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Aberporth.