Showing 6 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn Dafydd, Fflur, b. 1978 Ffeil / File English
Advanced search options
Print preview View:

Achos Blaenplwyf: Gohebiaeth carchar Wynfford James

Deunydd yn ymwneud â dedfryd a charchariad Wynfford James, gŵr Menna Elfyn, a Rhodri Williams wedi achos ym 1978 lle difrodwyd mast ddarlledu Blaenplwyf gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith fel rhan o ymgyrch i sicrhau sianel deledu i Gymru, gan gynnwys yn bennaf llythyrau, cardiau Nadolig a chardiau post at Wynfford James a Rhodri Williams (y gohebwyr yn cynnwys Menna Elfyn, mam Wynfford James, cyfeillion a chefnogwyr megis Dafydd Iwan, Alun 'Sbardun' Huws ac aelodau Cymdeithas yr Iaith); ynghyd â llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth ei gŵr Wynfford James tra 'roedd yr olaf yn y carchar a llythyr at Menna Elfyn [?wedi rhyddhau Wynfford James], datganiad gan aelodau Cymdeithas yr Iaith i'w ddarllen yn Llys Ynadon Caerfyrddin ar gychwyn yr achos, a cherdd gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl Wedi'r achos (Blaen-plwyf, 1978), ynghyd â chyfieithiad o'r gerdd i'r Ffrangeg. Ymysg y gohebiaeth ceir ambell gyfeiriad at Fflur, merch Menna Elfyn a Wynfford James, a aned ym 1978.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol, y rhan helaethaf ohono yn adlewyrchu gwaith a diddordebau llenyddol a gwleidyddol Menna Elfyn, gan gynnwys erthyglau gan y beirdd Tony Conran a Nigel Jenkins, teyrngedau i Nigel Jenkins gan Menna Elfyn, Stevie Davies a Peter Finch a rhaglen ar gyfer digwyddiad i goffau Tony Conran; cyfeweliad rhwng Iwan Llwyd, Menna Elfyn a Nigel Jenkins; tri darn o'r nofel Martha, Jac a Sianco (2004) gan Caryl Lewis yn llawysgrif yr awdur; gwahoddiad i ddigwyddiad yng nghartref yr arlunydd Mary Lloyd Jones; deunydd PEN Cymru; datganiadau i'r wasg; torion a llungopïau o ddeunydd print; a thorion papur newydd, gan gynnwys rhaghysbyseb o berfformiad cerddorol gan Fflur Dafydd, merch Menna Elfyn, yn Eisteddfod yr Urdd, Caerfyrddin, 2007.

Erthyglau ac ysgrifau gan neu am Menna Elfyn

Erthyglau ac ysgrifau gan neu yn ymwneud â Menna Elfyn, gan gynnwys drafftiau o ragymadroddion, rhageiriau a phenodau ar gyfer deunydd cyhoeddedig; ynghyd â dwy erthygl am Fflur Dafydd, merch Menna Elfyn, a gohebiaeth berthnasol at Menna Elfyn oddi wrth yr Athro John Rowlands ac eraill.

Gohebiaeth deuluol

Gohebiaeth at neu oddi wrth aelodau o deulu Menna Elfyn, gan gynnwys llythyr at Menna Elfyn oddi wrth ei mam; llythyr at Wynfford James, gŵr Menna Elfyn, oddi wrth Plaid Cymru; llythyrau cyd-rwng Wynfford James a Chyngor Celfyddydau Cymru; ebost at Menna Elfyn oddi wrth Wynfford James sy'n blaenyrru ebyst oddi wrth amryw ohebwyr; ebost at Menna Elfyn oddi wrth ei merch Fflur Dafydd sy'n blaenyrru ebyst a anfonwyd cyd-rwng Fflur Dafydd a Nigel Jenkins; a nifer o gardiau post a anfonwyd gan Menna Elfyn o amryw lefydd ledled y byd at ei rhieni a'i chwaer.

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, ebyst, cardiau a chardiau Nadolig a anfonwyd at Menna Elfyn oddi wrth amryw ohebwyr, gan gynnwys Raymond Garlick, Michael Coady, Bobi Jones, Dic Jones, Ted Hughes, Meredydd Evans a Phyllis Kinney, Gerallt Lloyd Owen, Maura Dooley, Shani Rhys James, Seamus Heaney, Eigra Lewis Roberts ac Iwan Llwyd, gyda chanran helaeth o'r ohebiaeth yn ymdrin â gwaith llenyddol Menna Elfyn. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys cyfrol gyhoeddiedig o ohebiaeth (ym Masgeg, Cymraeg a Sbaeneg) rhwng Menna Elfyn a'r awdur a'r actores Fasgaidd Arantxa Urretabizkaia a cherdyn i longyfarch Menna Elfyn a'i gŵr Wynfford James ar enedigaeth eu merch Fflur Dafydd ym 1978.

Gŵyliau, darlleniadau, cynhadleddau, seminarau a theithiau

Deunydd yn ymwneud â'r mynych ŵyliau (gan gynnwys Gŵyl y Gelli, Gŵyl Gregynog a Gŵyl Tŷ Newydd), cynhadleddau, seminarau a theithiau barddonol y bu Menna Elfyn yn rhan ohonynt yng Nghymru, Prydain a thramor, gan gynnwys copïau o'r cerddi a ddatganwyd, llyfrynnau a phosteri, sgriptiau, amserlenni teithio/perfformio, gohebiaeth (gan gynnwys ymatebion i ddarlleniadau barddonol), torion papur newydd a nodiadau. Un o'r elfennau mwyaf diddorol o fewn y deunydd yw cyfres o frasluniau a dynnwyd o Menna Elfyn ac eraill oedd yn cymryd rhan yng Ngŵyl y Gelli 1997 gan Heather Spears. Ceir hefyd fanylion am ddarlleniad barddonol gan Menna Elfyn ar y cyd â pherfformiad cerddorol gan ei merch Fflur Dafydd.