Showing 4 results

Archival description
Thomas, David, 1880-1967 file
Print preview View:

Godre'r Berwyn

Llawysgrif wreiddiol Godre'r Berwyn (Caerdydd, 1953), atgofion bore oes o'i ieuenctid yn Llandrillo, gyda chywiriadau; llythyrau yn ymwneud â'r cyhoeddi a'r gwerthiant oddi wrth Hughes a'i Fab, 1952-1961, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Kate Roberts a Hugh Evans, Lerpwl, yn gwrthod cyhoeddi'r gyfrol; adolygiadau, 1953-1954, o'r llyfr, gan gynnwys sgript adolygiad Gwyn Erfyl (Jones), 1954, a ddarlledwyd gan y BBC. Ceir hefyd lythyrau'n canmol y gyfrol, 1952-1955, gan gynnwys rhai oddi wrth Arthur [ap Gwynn], J. Gwyn Griffiths, T. H. Parry-Williams, Cassie Davies (4), David Thomas, Thomas Jones, Dora Herbert Jones, R[obert] Richards (2), John Cecil-Williams, E. Tegla Davies (2) a D. R. Hughes (2).

Roberts, Kate, 1891-1985

Llythyrau T-V

Llythyrau, 1914-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Syr Ben Bowen Thomas (53), D. Vaughan Thomas (1), Dan Thomas (7), David Thomas (3), Gwyn Thomas (3), J. M. Lloyd Thomas (2), Gwilym R. Tilsley (1) a Gwilym Tudur (1).

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977

Llythyrau T

Llythyrau, 1924-1980, gan gynnwys rhai oddi wrth Aneurin M. Thomas (2); Ben Bowen Thomas; Ceinwen H. Thomas; D. Lleufer Thomas (6); David Thomas (6, yn cynnwys llythyr ganddo at olygydd y Western Mail); Dewi-Prys Thomas (4); Eryl Thomas; George Thomas; J. Gareth Thomas (5); J. M. Lloyd Thomas (at Mr Jenkins); R. J. Thomas (2); Rowland Thomas (11, ynghyd â llythyr gan T. J. Morgan); Sarnicol ('Cyngor i Ferched rhag Bychogi'); W. Bryn Thomas (4); George B. Thompson (7); Gwilym R. Tilsley (8); Cennydd Traherne (3); Stephen O. Tudor; a Merfyn Turner (2).

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977

Eisteddfod Caerdydd

Gohebiaeth a thorion papur newydd, 1959, yn ymwneud â'r anghydfod yn dilyn y penderfyniad i wahodd y Frenhines i fynychu Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1960. Ymddiswyddodd Iorwerth Peate (Is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith a chynrychiolydd Llys yr Eisteddfod ar y Pwyllgor Gwaith) ac aelodau eraill o Gyngor yr Eisteddfod. Yn eu plith mae llythyrau gan Emrys Roberts; Griffith John Williams; Stephen J. Williams; Gareth Alban Davies; David Thomas (2); Raymond Garlick; Brinley Richards (2); Thomas Parry (3); Ernest Roberts (2); a Huw Ethall.

Roberts, Emrys