Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 5 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Iorwerth C. Peate, Willans, J. B. (John Bancroft), 1881-1957 ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Clociau

Llythyrau yn bennaf, 1962-1981, ynglŷn â gwneuthurwyr clociau, nifer ohonynt yn cyfeirio at waith Iorwerth Peate, Clock and Watch Makers in Wales (Caerdydd, 1945). Yn eu plith ceir rhai lluniau o glociau; nodiadau teipysgrif megis 'The nomenclature of sundials', 'Llandovery town clock' a 'Llandovery clockmakers'; a chopi printiedig o'r penillion, 'Myfyrdod ar y cloc yn taro'. Yn ogystal, ceir llythyrau, 1943 (fwyaf) a 1945, yn ymwneud â John Tibbot yn bennaf a Samuel Roberts, yn cynnwys rhai oddi wrth W. Ambrose Bebb; Robert Evans (3); R. T. Jenkins; E. D. Jones (3); Bob Owen; a J. B. Willans.

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

The Welsh house

Papurau, 1911-1944, 1970 a 1975, yn ymwneud â'r gyfrol The Welsh House: A Study in Folk Culture (Lerpwl, 1944), yn cynnwys llythyrau gan D. Lleufer Thomas, J. L. C. Cecil-Williams (4); J. Lloyd-Jones (2); Evan D. Jones (2); Henry Lewis (2); D. J. Williams; Ifor Williams (3); Ifan ab Owen Edwards; Estyn Evans; W. J. Gruffydd; H. Harold Hughes; A. L. Leach; E. A. Lewis; Llew Morgan (2); J. F. Rees; E. G. Bowen; Sigurd Erixon; A. W. Wade-Evans; H. J. Fleure; a J. B. Willans; copïau o daflen yn hysbysebu'r llyfr; copi printiedig o erthygl gan Iorwerth Peate, 'Folk studies in Wales'; torion o'r wasg, sef adolygiadau o'r Welsh House yn bennaf; ynghyd â nifer o ffotograffau a brasluniau o adeiladau.

Thomas, D. Lleufer (Daniel Lleufer), 1863-1940

Gradd D.Sc.

Llythyrau, 1941, yn llongyfarch Iorwerth Peate ar dderbyn gradd D.Sc. gan Brifysgol Cymru. Yn eu plith ceir llythyrau gan Arthur ap Gwynn; W. Ambrose Bebb; E. G. Bowen; Alun Oldfield Davies; Aneirin Talfan Davies; D. Tegfan Davies; J. Kyrle Fletcher; H. J. Fleure; Cyril Fox; D. R. Hughes; R. T. Jenkins; E. K. Jones; Frank Price Jones; Gerallt Jones; Gwyn Jones; John Tysul Jones; John ac Elena Puw Morgan; T. E. Nicholas; Tom Parry; Prosser Rhys; Alf Sommerfelt; J. B. Willans; Ifor Williams; a J. L. C. Cecil-Williams.

Arthur ap Gwynn, 1902-1987

Llythyrau amrywiol: 1933-1953 a 1970

Llythyrau, 1933-1953 a 1970, a gyfeiriwyd at Iorwerth Peate yn yr Adran Ddiwylliant Gwerin, gan gynnwys rhai oddi wrth Alun Oldfield Davies; J. Glyn Davies; Nan Davies (3); D. Owen Evans; Gwynfor Evans (4); J. C. Wynne Finch; R. M. Fleming (2); Ll. Wyn Griffith; W. J. Gruffydd; D. R. Hughes (22); E. K. Jones; Gwilym R. Jones (3); Sam Jones (8); Ceri Lewis; R. Hopkin Morris (2); J. Dyfnallt Owen (3); Tom Parry (4); Ffransis G. Payne; T. K. Penniman; John Petts; Stewart Sanderson; J. Oliver Stephens; John Summerson; J. B. Willans; ac Ifor Williams. Yn eu plith ceir ymholiadau yn ymwneud â diwylliant gwerin a llythyrau ynghylch gweithiau Iorwerth Peate, megis Hen Gapel Llanbrynmair 1739-1939 (Llandysul, 1939), a Diwylliant gwerin Cymru (Lerpwl, 1942).

Oldfield-Davies, Alun, 1905-1988

Llythyrau U-Z

Llythyrau, 1924-1979, gan gynnwys rhai oddi wrth V. Sackville West; Wynn P. Wheldon; Eirene White; Robert Wildhaber (4); Dafydd Wyn Wiliam (2); Eurwyn Wiliam; J. B. Willans (4); D. E. Parry Williams; D. J. Williams (9); Evan Williams; Glanmor Williams (3); Griffith John Williams (7); Ifor Williams (5); Iolo A. Williams (2); J. E. Caerwyn Williams (2); J. Ellis Williams (2); J. Gwynn Williams; John Lasarus Williams (3, ynghyd ag eitemau yn ymwneud ag Undeb y Gymraeg Fyw); John Roberts Williams (8); J. Roose Williams (3); Kyffin Williams (5, ynghyd â braslun pensil); Morris T. Williams; Owen Williams (2); R. Bryn Williams; Stephen J. Williams (5); T. H. Parry-Williams (12); Tom Nefyn (2); Victor Erle Nash-Williams (2); Seamus Wilmot (3); a Virginia Woolf.

Sackville-West, V. (Victoria), 1892-1962