Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 835017 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

8534 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Y Beibl, cyhoeddi a hawlfraint

Mae'r ffeil hon yn cynnwys nodiadau yn ymwneud yn bennaf â chyhoeddi, yn enwedig cyhoeddi'r Beibl. Ymhlith y nodiadau mae llungopi o'r 'Report of the priviledged Presses Committee' yn ymwneud â chyhoeddi'r Beibl; nodiadau ar hanes y Beibl Cymraeg o dan y pennawd '250 Years Ago: The Welsh Bible'; ynghyd â dau lythyr ac amgaeëdigion oddi wrth y Bible Society.

'Y Beibl yng Nghymru: Arddull Lenyddol y Beibl',

G19: Dau ddrafft inc, pensel a theipysgrif o'r ddarlith gyntaf, 16 tt. G20: Drafft inc o'r ail ddarlith, 9 tt. G21: Drafft inc o'r drydedd ddarlith, 16 tt. G22: Teipysgrif I. Dau gopi, gydag ychwanegiadau inc a phensel, 14 tt. G23: Teipysgrif II. Dau gopi, gydag ychwanegiadau inc,16 tt. G24: Teipysgrif III. Dau gopi, 26 tt. G25: Sgript I, 5 Mehefin [1938], 6 tt. G26: Sgript II, 12 Mehefin [1938], 6 tt. G27: Sgript III, 19 Mehefin [1938], 7 tt. Gweler hefyd FF43-58.

'Y Beibl Cymraeg',

Deunydd amrywiol yn ymwneud â darlithoedd ac anerchiadau THP-W. FF43: 'Meithrin chwaeth at ffurfiau llenyddol y Beibl'. Traddodwyd yn Undeb y Bala, Llandudno, 2 Gorffennaf 1934. Drafft inc, gyda chywiriadau inc a phensel, 12 tt. FF44: 'Dylanwad y Beibl ar ein llenyddiaeth'. Traddodwyd mewn cyfarfod i ddathlu Seithfed Jiwbili Cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg, Capel Jewin, Llundain, 1 Tachwedd 1938. Drafft inc, gyda chywiriadau pensel, 22 tt.; ynghyd â chopi o Rhaglen Cymdeithasfa Chwarterol Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Cymru a gynhelir yn Jewin, Llundain, Tachwedd 1, 2, 3, 1938. FF45-52: Ysgol Undydd dan nawdd y WEA a'r WETUC i'w chynnal yn Ysgol Gynradd Pengelli, 2 Ebrill 1955:. FF45: Llythyrau (8), Rhagfyr 1954 i Mawrth 1955, oddi wrth Mansel Grenfell, Trefnydd Gorllewin Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr. FF46: Cerdyn post, Tachwedd 1954, oddi wrth D. W[illiams], Aberystwyth. FF47: Llythyr, [d.d.], oddi wrth E. D. T. Jenkins. FF48: Nodiadau amrywiol, inc a phensel. FF49: Y Drysorfa, Mehefin 1938. D. Gwenallt Jones, 'Cymraeg Cyfieithiadau'r Beibl', tt. 216-20. FF50: Yr Haul, Ebrill 1952, yn cynnwys sylwadau ymyl y ddalen yn llaw THP-W. FF51: Ffotograff o faen coffa William Morgan ac Edmwnd Prys yng Nghapel Coleg Ieuan Sant, Caergrawnt; ynghyd â deunydd perthynol. FF52: Torion papur newydd, 1938, 1951-6. FF53-6. Darlith gyhoeddus yn Neuadd Bethel, Aberhonddu, 20 Mawrth 1957, dan nawdd Pwyllgor Addysg Brycheiniog:. FF53: Llythyr, 28 Ionawr 1957, oddi wrth H. Prosser Roberts, Pwyllgor Addysg Brycheiniog. FF54: Nodiadau, 6 tt. FF55: 'Y Beibl Cymraeg'. Drafft inc, gyda chywiriadau inc a phensel, 7 tt. FF56: Drafft inc a theipysgrif, gyda chywiriadau inc a phensel o 'Y Beibl (Cymraeg): Gwerthfawrogiad o'i Arddull ac o Rai o'i ddulliau neu Ffurfiau Llenyddol', 12 tt.

'Y Beibl'

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau diwygiedig a theipysgrifau terfynol o sgript radio ar y Beibl, 1948.

'Y Bedyddwyr ac Undeb yr Eglwysi Rhyddion. Sylwadau wrth gynnig penderfyniad yn Undeb Bedyddwyr Cymru (Caerbygi) Medi 22ain 1908. Gan ....

'Y Bedyddwyr ac Undeb yr Eglwysi Rhyddion. Sylwadau wrth gynnig penderfyniad yn Undeb Bedyddwyr Cymru (Caerbygi) Medi 22ain 1908. Gan Gwenith Gwyn, Penrhiwceibr.' Teipysgrif (8 tud.) wedi'i glynu mewn llyfr o dudalennau papur llwyd a bwythwyd ynghyd. Ar derfyn y llyfr ceir llythyr Saesneg, teipiedig, oddi wrth yr 'East Glamorgan Welsh Baptists and Free Church Councils' at Olygydd y South Wales Daily News, 27 Meh. 1908, yn cwyno oherwydd sylwadau beirniadol Edward Thomas, Caerdydd, ar eu Cynhadledd.

Y Barri a'r Fro,

Y Barri a'r Fro 1977. Cyngherddau, Gweithgareddau, Llên, Stiwardio a Thrafnidiaeth. Cyhoeddusrwydd. Cyllid. Gohebiaeth gyffredinol. Llety a Chroeso.

Y Barri a'r Fro,

Y Barri a'r Fro 1977. Adrodd a Siarad Cyhoeddus, Ambiwlans a Nyrsio. Arweinyddion Llwyfan a Meistri Defod, Artistiaid, Staff a Stiwardiaid, Gwahoddedigion, Llywyddion Anrhydeddus. Cae a Phabell. Canu Actol a Dawnsio Gwerin. Celf a Chrefft, Gwyddoniaeth. Cerddoriaeth.

Y Barri a'r Fro 1977,

Pwyllgor Gwaith. Rhestr Testunau. Seremonïau a Thlysau. Ymarfer Corff a Dawns. Llanelwedd, Powys 1978. Adrodd, Drama a Siarad Cyhoeddus. Apêl.

Canlyniadau 2321 i 2340 o 835017