Showing 19 results

Archival description
Papurau Waldo Williams Sub-sub-series
Print preview View:

Barddoniaeth Waldo Williams

Barddoniaeth gan, neu ddeunydd sy'n ymdrin â barddoniaeth gan, Waldo Williams, gyda nifer o'r cerddi yn ei law ei hun. Mae'r eitemau'n cynnwys ei gerddi adnabyddus Eirlysiau a Mewn Dau Gae, ei awdl Tŷ Ddewi, ei gywydd Y Tŵr a'r Graig a'i gywydd coffa i'w wraig Linda, ynghyd â cherddi cynnar megis Hiraeth a Y Duw Unig.

Rhyddiaith Waldo Williams

Darnau rhyddiaith gan, neu eitemau'n ymdrin â darnau rhyddiaith gan, Waldo Williams, gan gynnwys ei 'Ddatganiad' ('Statement') yn erbyn gorfodaeth milwrol; pamffledyn yn seiliedig ar y sgwrs radio wreiddiol Paham yr wyf yn Grynwr; adolygiadau llenyddol o'r wasg; ac ysgrifau drafft ar y bardd a'r llenor D. J. Williams, ar y gynghanedd ac ar emynwyr y ddeunawfed ganrif.

Nodiadau eraill Waldo Williams

Llyfrau nodiadau, llyfr banc a nodiadau rhydd, yn bennaf yn llaw Waldo Williams, gydag un llyfr nodiadau yn rhannol yn llaw ei wraig Linda (née Llewellyn).

Gohebiaeth at Dilys Williams

Gohebiaeth wedi'i gyfeirio at Dilys Williams, yn bennaf oddi wrth aelodau teuluol a chyfeillion, yn ogystal â chan sefydliadau megis aelodau pwyllgor Gŵyl y Sir, Abergwaun (1957), a'r Academi Gymreig yn eu paratoadau ar gyfer Gŵyl Waldo (1986).

Deunydd amrywiol gan neu ym meddiant Dilys Williams

Deunydd ym meddiant Dilys Williams, yn bennaf o ddiddordeb llenyddol neu leol, gan gynnwys Llyfr trysorydd Urdd Gobaith Cymru cylch Abergwaun, llyfr cofnodion cangen Abergwaun o Undeb y Llw o Blaid Heddwch (Peace Pledge Union), 1939-1945, a llyfrau nodiadau yn llaw Dilys Williams yn cynnwys yn bennaf gwybodaeth o natur lenyddol.

David Williams

Deunydd yn bennaf yn llaw David Williams, nai Waldo Williams, sef mab Roger Williams, brawd Waldo, a'i wraig Edith (gweler Roger Williams dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams). David Williams yw rhoddwr y casgliad hwn o bapurau Waldo.

Gwladys Llewellyn

Deunydd yn cynnwys gohebiaeth wedi'i gyfeirio at Gwladys Llewellyn ac ysgrif goffa iddi.

Mary Llewellyn (née Williams)

Deunydd gan neu yn ymwneud â Mary Llewellyn (née Williams), chwaer John Edwal Williams, tad Waldo Williams, gan gynnwys llythyr oddi wrth Mary Llewellyn at ei rhieni, Dafydd (Dafi) a Martha Williams a cherdyn coffa Mary Llewellyn.

Ffotograffau teuluol

Llungopïau o ffotograffau o Waldo Williams gyda'i frodyr a'i chwiorydd a llungopi o doriad o'r wasg yn dangos ffotograff o blant ac athrawon Ysgol Mynachlog-ddu, 1915.

Cyfrifiad

Allbrint o gyfrifiad 1911 yn dangos manylion teulu Waldo Williams, a oedd ar y pryd yn byw yn Nhŷ Ysgol Prendergast, Hwlffordd.