Print preview Close

Showing 583 results

Archival description
file
Print preview View:

Moliant a difyrrwch: canu'r pencerdd a'r bardd teulu, Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, deunydd hysbysebu a chopi o'r rhaglen gogyfer â noson o ddarlleniadau o farddoniaeth y pencerdd a'r bardd teulu a drefnwyd ar y cyd rhwng yr Academi a'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd fel rhan o ddathliadau Celtica 91. Roedd y noson yn dwyn yr enw 'Moliant a difyrrwch: canu'r pencerdd a'r bardd teulu' ac fe'i cynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn ystod mis Mehefin 1991.

Meddyginiaeth a iechyd : Nodiadau,

  • NLW MS 16648A.
  • file
  • [19 gan., canol].

Llyfr nodiadau, [18 gan., canol], yn cynnwys meddyginiaethau a ryseitiau meddyginiaethol, ynghyd â detholiadau a nodiadau yn bennaf yn ymwneud â phynciau meddygol, iechyd a gwyddoniaeth. Ymddengys fel pe bai'r awdur wedi nodi darganfyddiadau meddygol a wnaed ganddo ef ei hun ar ff. 66 verso-7. = A notebook, [mid-19 cent.], containing remedies and medical recipes, together with notes and extracts mainly on medical topics, general health and science. It appears that the author has noted his own medical discoveries on ff. 66 verso-7.

Llythyrau John Roberts, Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol,

  • NLW ex 2842.
  • file
  • 1960-1989.

Grŵp o lythyrau a dderbyniwyd gan John Roberts fel trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y 1960au a'r 1970au. Ymhlith y gohebwyr mae Norah Isaac, Idris Foster, Kenneth Rowntree a Dewi-Prys Thomas. = A group of letters received by John Roberts, Caernarfon, as organiser of the National Eisteddfod during the 1960s and 1970s. The correspondents include Norah Isaac, Idris Foster, Kenneth Rowntree and Dewi-Prys Thomas.

Isaac, Norah.

Llythyrau at J. Owain Evans,

  • NLW MS 16797D.
  • file
  • [1886x1918] /

Tri llythyr, 1886, yn Saesneg, at Vincent Evans oddi wrth T. E. Ellis, O. M. Edwards a John Ceiriog Hughes ('Ceiriog'); tair llythyr ar ddeg (un yn Saesneg) ac un cerdyn post, 1903-1918, at J. Owain Evans oddi wrth Eliseus Williams ('Eifion Wyn'), ynghyd â thoriad o'r Darian a gohebiaeth, yn Saesneg a Chymraeg, [1917], oddi wrth y Comisiwn Yswiriant Iechyd Cenedlaethol parthed Thomas Evans, tad Robert Evans ('Cybi'); deuddeg llythyr, yng Nghymraeg a Saesneg, 1912-1914, at J. Owain Evans oddi wrth Robert Roberts ('Isallt'), ynghyd â thoriad o'r Rhedegydd, 15 Chwefror 1913, sy'n dwyn llythyr oddi wrth 'Isallt', toriad parthed 'Isallt' o'r News Chronicle, d.d., a barddoniaeth Cymraeg a Saesneg, 1911-1913, yn llaw 'Isallt' = Three letters, 1886, in English, to Vincent Evans from T. E. Ellis, O. M. Edwards and John Ceiriog Hughes ('Ceiriog'); thirteen letters (one in English), and one postcard, 1903-1918, to J. Owain Evans from Eliseus Williams ('Eifion Wyn'), together with a cutting from Y Darian and correspondence, in English and Welsh, [1917], from the National Health Insurance Commission in relation to Thomas Evans, father of Robert Evans ('Cybi'); twelve letters, in Welsh and English, 1912-1914, to J. Owain Evans from Robert Roberts ('Isallt'), together with a cutting from Y Rhedegydd, 15 February 1913, which contains a letter from 'Isallt', a cutting relating to 'Isallt' from the News Chronicle, n.d., and poetry in Welsh and English, 1911-1913, in 'Isallt's hand.

'Eifion Wyn' ac 'Isallt'.

Llyfr y Datguddiad : : Cyfieithiad/Llawysgrif,

  • NLW MS 17419E.
  • file
  • [1931x1933] /

Proflenni gali, [1931x1933], o gyfieithiad o Lyfr y Datguddiad gan ac yn llaw yr Athro Gwilym Arthur Edwards, rhoddwr y llawysgrif = Autograph galley proofs, [1931x1933], of a translation of the Book of Revelation by Dr Gwilym Arthur Edwards, donor of the manuscript.
Ceir nodiadau ar themäu diwinyddol a beiblaidd, yn Saesneg ac mewn sawl llaw wahanol, ar verso pob dalen (ff. 27verso-29 verso, testun â'i wyneb i waered); ymddengys fel pe bai'r deunydd hyn yn amherthnasol i'r prif gynnwys oherwydd fod daleniad y testun verso allan o ddilyniant ac ar chwâl = There are notes on theological and biblical themes, in English and in several different hands, on the verso of each folio (ff. 27verso-29 verso inverted text); this material is apparently unrelated to the main contents as the foliation of the verso text is out of sequence and haphazard.

Edwards, G. A. (Gwilym Arthur), 1881-1963

Llyfr cofnodion Capel Pendref, Caernarfon,

  • NLW MS 16791E.
  • file
  • 1899-1917 /

Llyfr cofnodion Capel Annibynnol Pendref, Caernarfon, 1899-1917, yn bennaf yn llaw Beriah Gwynfe Evans. Ymhlith y cofnodion ceir gohebiaeth, torion papur newydd a deunydd printiedig eraill, gan gynnwys torion o'r Tyst, 1912, yn hysbysu marwolaeth a chladdedigaeth y Parchedig Lloyd Bryniog Roberts, gweinidog Pendref (tt. 107-110); hysbysiad, 1915, yn datgan sefydlu y Parchedig J. Camwy Evans ym Mhendref , ynghyd â thoriad o'r Tyst, 1915, yn ymwneud â'r un achlysur (tt. 133-135); a llythyrau, 1917, i'r Wasg oddi wrth Beriah Gwynfe Evans a'r Parchedig J. Camwy Evans (t. 170) = A minute book of Pendref Independent Chapel, Caernarfon, 1899-1917, principally in the hand of Beriah Gwynfe Evans. Amongst the minutes are correspondence, newspaper cuttings and other printed material, including cuttings from Y Tyst, 1912, announcing the death and funeral of the Reverend Lloyd Bryniog Roberts, minister of Pendref (pp. 107-110); a notice, 1915, announcing the establishment of the Reverend J. Camwy Evans at Pendref, together with a cutting from Y Tyst, 1915, relating to the event (pp. 133-135); and letters, 1917, to the Press from Beriah Gwynfe Evans and the Reverend J. Camwy Evans (p. 170).
Ceir hefyd yn y gyfrol ddetholion o weithredoedd, 1788, stâd Madryn, sir Gaernarfon (tt. 7-8) a detholion o weithredoedd Capel Pendref, 1790-1901 (tt. 9-10, 345) = Also included in the volume are extracts from deeds, 1788, of the Madryn estate, Caernarfonshire (pp. 7-8) and extracts from Pendref Chapel deeds, 1790-1901 (pp. 9-10, 345).

Evans, Beriah Gwynfe, 1848-1927

Results 141 to 160 of 583