Deunydd yn ymwneud ag Etholiad Cyffredinol 1979 a anfonwyd at Dilys Williams, gan gynnwys pamffledi ymgeiswyr Plaid Cymru, y Blaid Ecoleg (bellach y Blaid Werdd) a'r Ceidwadwyr a thocyn mynediad Dilys Williams i Neuadd y Farchnad Hwlffordd, lle cyfrifwyd y pleidleisiau; ynghyd â phamffledyn yn datgan cefnogaeth i'r ymgyrch etholiadol ar gyfer Cynulliad i Gymru, pan fwriwyd y pleisleisiau ar y cyntaf o Fawrth 1979.
Llungopïau o erthyglau gan John Edwal Williams a gyhoeddwyd yn y Narberth, Whitland & Clynderwen Weekly News yn ystod y 1920au, yn bennaf dan y ffugenw 'John Dewsland', ynghyd â llythyr i'r wasg yn ymateb i'r erthyglau.
Rhifyn 22 Mehefin 1979 o'r Faner, sy'n cynnwys llun o Waldo Williams ar y clawr ac erthygl gan Beatrice Davies, prifathrawes Ysgol Bro Eglwyswrw, am fro genedigol Waldo dan y teitl Dewch am dro - i ardal Waldo. Fel rhan o'r erthygl ceir englyn gan Waldo nas cyhoeddwyd o'r blaen yn cyfarch y bardd T. H. Parry-Williams ar gael ei urddo'n farchog. Erthygl am Waldo Williams gan Dylan Iorwerth yn ei golofn Gymraeg yn rhifyn 18 Mai 2011 o'r Western Mail.
Mae’r ffeil yn cynnwys ffurflenni enwebiadau’r Pwyllgor Rheoli, 2005; a gohebiaeth gysylltiedig (2005), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Vera Bowen; Geraint H. Jenkins; a Noel Lloyd.
Gohebiaeth a phapurau, 1987, yn ymwneud â pedwerydd Fforwm y Ganolfan, ‘Enwau Lleoedd’, yn cynnwys rhaglen; crynodebau; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Gwynedd Pierce; Oliver Padel; Margaret Gelling; G. G. Evans; Morfydd E. Owen; Bedwyr Lewis Jones; a Kenneth Cameron.
Englynion coffa a luniodd i'w briod Lilian Maud Jones a fu farw yn 1972, ei gyfaill Percy Ogwen Jones (1982) a Bedwyr Lewis Jones [1992], a cherddi eraill ganddo a gyhoeddwyd mewn papurau newydd, allbrintiau o wefan Cylchgronau Cymru yn cynnwys cerddi a gyhoeddwyd yn Cymru a'r Llenor, ynghyd â chyfrol C. Davies and E. K. Prosser (golygyddion), A Book of Aberystwyth (Y Drenewydd, 1926), yn cynnwys tair cerdd Gymraeg ganddo.
Englyn [gan David Williams] i'w wraig, Cecilia; dyfyniad o R. S. Thomas; a bendith Wyddelig. Ceir nodiadau yn llaw David Williams, gan gynnwys y nodyn 'Darllenwyd gan Teifryn fy mhrawd [sic]' ar frig y ddalen.
Emynau, 1967-1969, a anfonodd i gystadlaethau cyfansoddi emyn yn eisteddfodau Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan, gan gynnwys emyn ar gyfer gwasanaeth priodas, ynghyd â chopi o’r Drysorfa, Mehefin 1957, yn cynnwys ei erthygl ‘Crefftwr o emynydd’ (Thomas Jones o Ddinbych).
Trefniant Gilmor Griffiths o 'Emyn y Pasg' gan Pietro Mascagni (allan o'r opera Cavelleria Rusticana), geiriau gan J. Arnold Jones. Llawysgrif, llungopïau a brasluniau.
Dau sgôr llawysgrif 'Emyn Cynhaeaf', trefniant Gilmor Griffiths i gôr merched (S.S.A.A.) o'r alaw 'Dyfrdwy' gan John Jeffries. Geiriau Dafydd Owen. Allan o gasgliad John Roberts, Henllan.