Dangos 713219 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4582 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cofnodion cyfarfod ac agendâu

Cofnodion y Cyfarfodydd Penaethiaid Prosiectau, (rhai fel nodiadau), Mehefin, Gorffennaf, a Medi 2006; ac Ionawr, Ebrill, Mai, Mehefin, Medi, Hydref, a Thachwedd 2007; ac agendâu’r Cyfarfodydd Penaethiaid Prosiectau, Mai, Mehefin, Medi, Hydref, Tachwedd, a Rhagfyr 2007. Yn ogystal, ceir llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol oddi wrth Vera Bowen.

Coleg Bala-Bangor, 1951-1986

Papurau’n ymwneud â Choleg Bala-Bangor, 1951-1986, yn cynnwys: pum ‘Deeds of Trust’ yn ymwneud â chyflogaeth RTJ, 1951-1981; rhestrau enwau myfyrwyr noddedig y Coleg, 1973-1976 a 1985/6; a llyfr cyfrifon RTJ yn nodi gwariant, 1965-1967.

Colegau

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1988-1997, yn trafod polisïau iaith Gymraeg o fewn sefydliadau addysgol yng Nghaerdydd. Mae’n cynnwys gohebiaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith a'r Swyddfa Gymraeg; y Gymdeithas Myfyrwyr De-ddwyrain Cymru; Coleg Cerdd a Drama Cymru; Coleg Glan Hafren; Coleg Castell Nedd; a Phrifysgol Morgannwg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copi o’r Cynllun Iaith Gymraeg (1997) Cyngor Hyfforddi a Menter Morgannwg Canol; copi o adroddiad interim ‘Cwricwlwm Cenedlaethol Y Gweithgor Cymraeg’ (1988); datganiad i’r wasg (1989); a chopi o Gynllun Strategol y Coleg Cerdd a Drama Cymru (1990).

'Colofn Awen'

Cyfrol yn cynnwys torion, Tachwedd 1916-Rhagfyr 1918, o 'Colofn Awen', colofn Cybi yn Yr Udgorn, papur newydd ardal Pwllheli (ff. i, 1-77 (rectos a 64 verso yn unig), tu mewn i'r clawr cefn). Defnyddiwyd y gyfrol yn wreiddiol gan Cybi, [c. 1906], i ysgrifennu barddoniaeth, sydd nawr, gan fwyaf, wedi ei orchuddio gan y torion. = A volume containing pasted-in cuttings, November 1916-December 1918, of 'Colofn Awen', Cybi's column in the Pwllheli newspaper, Yr Udgorn (ff. i, 1-77 (rectos and 64 verso only), inside back cover). The volume was was originally used by Cybi, [c. 1906], to write autograph poetry in Welsh, now mostly obscured by the cuttings.

Cybi.

'Colofn Awen'

Cyfrol yn cynnwys torion, Rhagfyr 1918-Mehefin 1921, o 'Colofn Awen', colofn Cybi yn Yr Udgorn, papur newydd ardal Pwllheli (ff. 1-72 (rectos yn unig), 73-75, 76 recto-verso, tu mewn i'r clawr cefn). = A volume containing pasted-in cuttings, December 1918-June 1921, of 'Colofn Awen', Cybi's column in the Pwllheli newspaper, Yr Udgorn (ff. 1-72 (rectos only), 73-75, 76 recto-verso, inside back cover).
Defnyddiwyd y gyfrol yn wreiddiol fel llyfr ymarferion ysgol (Saesneg) gan Harry Hughes, Llangybi, 1911-1912. = The volume was originally used as a school exercise book (English) by Harry Hughes, Llangybi, 1911-1912.

Cybi.

Consêt Gwilym Bethel,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y mul a'r gwcw' gan E. T. Griffiths, i'r gainc 'Consêt Gwilym Bethel' gan Nansi Richards.

Consêt y Siri,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y Wiwer' gan T. Llew Jones i'r gainc 'Consêt y Siri' o drefniant Gaenor Hall.

Copïau o'r 'Gododdin'

Copïau teipysgrif o gerdd hynafol Aneirin 'Y Gododdin', gydag enwau Dilys ac aelodau eraill o'r teulu wedi'u hysgrifennu'n unigol ar frig pob copi.

Côr Athrawon Maseru

Llythyrau amrywiol yn ymwneud ag ymweliad Côr Athrawon Maseru â Chymru, Gorffennaf 1988, gan gynnwys cystadlu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Country Casuals; C & A; Union Burger; Clarks; Dixons; Fosters; BHS; Bodyshop; Boots; Benetton

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1984-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o siopau a busnesau lleol yng Nghaerdydd, yn trafod polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys posteri Cymdeithas yr Iaith; nifer o ddatganiadau i’r wasg (1992-1997); a chofnodion cyfarfod (1989-1993).

Craig y pistyll,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Glofa'r Parlwr Du' gan Einion Evans, i'r alaw 'Craig y Pistyll' gan Elisabeth Jones.

Croeso'r gwanwyn,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Croeso'r Gwanwyn' gan Gilmor Griffiths ar gyfer lleisiau merched (S.A.), geiriau gan Morien Phillips.

Cwm Berllan

Llungopi, a gymerwyd o ffynhonell brintiedig, o'r gerdd Cwm Berllan gan Waldo Williams. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn Hydref 1931 o'r Ford Gron.

Canlyniadau 261 i 280 o 713219