Dangos 1284 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyrau'r Preifat Dan Evans (Rhyfel Byd Cyntaf) = Private Dan Evans (WW1) letters

  • NLW ex 2905.
  • Ffeil
  • [1915]-1916

Tua un llythyr ar hugain oddi wrth y Preifat Dan Evans, Ffisilwyr Brenhinol Cymreig, a anfonwyd ganddo at ei rieni Daniel a Mary Evans yn fferm Maesglas yng Nghaeo, Sir Gaerfyrddin, o Wersyll Milwrol Cinmel ym Modelwyddan ac o faes y gad yn Ffrainc. Yn eu plith mae llythyr oddi wrth ei gyfnither Mary yn Saesneg a llythyr oddi wrth Preifat J. G. Davey at rieni’r milwr yn nodi i'w mab gael ei daro yn ei dalcen gan ddarn bach o shrapnel. Collodd ei fywyd ar 19 Awst 1916 yn ddwy ar hugain mlwydd oed. Yn amgaeedig mae copi o erthygl 'The secrets of the little tin box, the WW1 letters of Caio-born Private Dan Evans, RWF' gan y rhoddwr a baratodd yn 1996 a llungopi o restr a ddarparwyd gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn nodi'r rhai a enwir ar Gofeb Thiepval. = Approximately twenty one letters from Private Dan Evans, Royal Welsh Fusiliers, to his parents Daniel and Mary Evans at Maesglas Farm in Caeo, Carmarthenshire, written from Kinmel Military Training Camp in Bodelwyddan and on active service in France. Included is a letter from a cousin Mary and from Private J. G. Davey to the soldier’s parents informing them that their son had been ‘hit in the forehead by a small piece of shrapnel’. He died in France on 19 August 1916 aged twenty two. Enclosed is an article by the donor entitled 'The secrets of the little tin box, the WW1 letters of Caio-born Private Dan Evans, RWF', together with a copy of a printed list issued by the Commonwealth War Graves Commission which identifies Private Daniel Evans as missing.

Evans, Daniel.

Llyfr nodiadau.

Llyfr nodiadau gyda dyfyniadau o lyfrau hanesyddol Saesneg yn bennaf. Tua chanol y gyfrol ceir cerdd: ‘Y gweithfeydd hyn’ [cyhoeddwyd yn Christine James (gol.), Cerddi Gwenallt: y casgliad cyflawn (Llandysul, 2001) fel ‘Y gweithfeydd segur’ ac yn wreiddiol yn Baner ac Amserau Cymru, 25 Awst 1943], a dau englyn: ‘Er cof am David Lewis, Dolanog’ [cyhoeddwyd fel ‘Er cof am Ddafydd Lewis, Gwasg Gomer’, yn Cerddi Gwenallt a chyn hynny yn Baner ac Amserau Cymru, 8 Medi 1943].

Llawlyfr cyfarwyddiadol i ganu Penillion

  • NLW MS 16595C
  • Ffeil
  • [?1890au]

Adysgrif, [?1890au], gan John Williams (Wyr yr Eos), o'r traethawd 'Llawlyfr Cyfarwyddiadau i ganu Penillion ac Awdlau gyda'r Tannau' a ysgrifennwyd yn y 1870au gan ei daid John Williams (Eos Môn). = A transcript, [?1890s], by John Williams (Wyr yr Eos), of an essay on penillion singing, 'Llawlyfr Cyfarwyddiadau i ganu Penillion ac Awdlau gyda'r Tannau', written in the 1870s by his grandfather John Williams (Eos Môn).
Cynhwysir hefyd lythyr, 22 Medi 1955, gan y rhoddwr, yn disgrifio hanes y llawysgrif (f. i). = Also included is a covering letter, 22 September 1955, from the donor, describing the history of the manuscript (f. i).

Wyr yr Eos, 1870-1929

Twristiaeth, gwaith a datblygu

Papurau, 1981-1988, gan gynnwys gohebiaeth, polisïau twristiaeth y mudiad a llythyr oddi wrth R. S. Thomas a phapurau'n ymwneud â phynciau fel Marina'r Penrhyn, Gwersyll Glyn Rhonwy a Chanolfan Wyliau yn Llanllechid.

Y gadeiryddiaeth

Papurau, 1975-2001, gan gynnwys cyfansoddiad y mudiad, cofnodion y Cyngor Cenedlaethol, datganiadau i'r wasg a gohebiaeth Howard Huws fel cadeirydd y mudiad.

Deunydd hyrwyddo

Papurau, [1975]-1985, gan gynnwys datganiadau i'r wasg ac enghreifftiau o daflenni a chardiau aelodaeth a gynhyrchwyd gan y mudiad, ynghyd â chyhoeddiad gan y mudiad, Marina - twristiaeth a'r fro Gymraeg.

Gohebiaethau

Gohebiaeth, [1971]-2002, yn cynnwys llythyrau o'r cyfnod cynnar, ymholiadau am hanes y mudiad a llythyrau oddi wrth aelodau o Gymdeithas yr Iaith.

Canlyniadau 1 i 20 o 1284