Showing 11 results

Archival description
Papurau Mudiad a Chwmni Adfer File
Print preview View:

Twristiaeth, gwaith a datblygu

Papurau, 1981-1988, gan gynnwys gohebiaeth, polisïau twristiaeth y mudiad a llythyr oddi wrth R. S. Thomas a phapurau'n ymwneud â phynciau fel Marina'r Penrhyn, Gwersyll Glyn Rhonwy a Chanolfan Wyliau yn Llanllechid.

Gohebiaethau

Gohebiaeth, [1971]-2002, yn cynnwys llythyrau o'r cyfnod cynnar, ymholiadau am hanes y mudiad a llythyrau oddi wrth aelodau o Gymdeithas yr Iaith.

Deunydd hyrwyddo

Papurau, [1975]-1985, gan gynnwys datganiadau i'r wasg ac enghreifftiau o daflenni a chardiau aelodaeth a gynhyrchwyd gan y mudiad, ynghyd â chyhoeddiad gan y mudiad, Marina - twristiaeth a'r fro Gymraeg.

Y gadeiryddiaeth

Papurau, 1975-2001, gan gynnwys cyfansoddiad y mudiad, cofnodion y Cyngor Cenedlaethol, datganiadau i'r wasg a gohebiaeth Howard Huws fel cadeirydd y mudiad.