Llyfrau casgliad y Weinidogaeth
- 3
- cyfres
- 1903-1953
Llyfrau casgliad yn cynnwys enwau, cyfeiriadau a chyfraniadau aelodau o'r eglwys.
Llyfrau casgliad y Weinidogaeth
Llyfrau casgliad yn cynnwys enwau, cyfeiriadau a chyfraniadau aelodau o'r eglwys.
Mae'r gyfres yn cynnwys taliadau a derbyniadau ariannol yr eglwys.
Mae'r gyfres yn cynnwys papurau'r Pwyllgor Coffáu; agenda, cofnodion, adroddiadau a pheth gohebiaeth berthynol.
Heb deitl
Mae'r gyfres hon yn cynnwys papurau'r Uned Dramor; agenda, cofnodion, adroddiadau a pheth gohebiaeth berthynol.
Heb deitl
Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd yn ymwneud â chais yr Academi i ennill Gwobr Nobel am Lenyddiaeth i Saunders Lewis yn ystod y 1970au a'r 1980au, syniad a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Vernon Jones, athro yn Ysgol Y Berwyn Y Bala, ym 1966. Mae'n cynnwys gohebiaeth a deisebau yn erfyn cefnogaeth unigolion dylanwadol o gylchoedd gwleidyddol, crefyddol ac academaidd, yn ogystal â chopïau o'r cais gwreiddiol ar gyfer 1971 a chais diwygiedig ar gyfer 1977. Parhawyd i gyflwyno'r cais tan o leiaf 1981.
Lewis, Saunders, 1893-1985
Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth rhwng yr Academi, Cyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth, ynglŷn â lleoliad rhai o greiriau Gwenallt, 1989.
Heb deitl
Erthyglau na chynhwyswyd yn Taliesin,
Mae'r gyfres yn cynnwys erthyglau, gan nifer fawr o awduron amlwg, mewn llawysgrif a theipysgrif, a gynigiwyd ar gyfer eu cyhoeddi yn Nhaliesin ond a wrthodwyd gan y golygydd, 1964-1984.
Geiriadur yr Academi: adroddiadau ar y gwaith
Mae'r gyfres yn cynnwys adroddiadau ar y gwaith a wnaed ar y geiriadur, ei gynnwys a'i ffurf ac ar faterion cyllidebol, 1977-1993.
Heb deitl
Cyhoeddiadau gwreiddiol: Dathlu
Yn ystod 1984 dathlodd yr Academi chwarter canrif o fodolaeth. Yn ystod y flwyddyn, ymysg pethau eraill, trefnwyd Gŵyl Gwenallt a chyfarfod i anrhydeddu Euros Bowen. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno penderfynwyd cyhoeddi cynhyrchion y cyfarfodydd hyn yn un gyfrol yn dwyn y teitl Dathlu, dan olygyddiaeth R. Gerallt Jones. Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau llawysgrif, teipysgrif a phroflen o'r erthyglau a'r cerddi ar gyfer y llyfr, ynghyd â llythyrau perthynol, 1984-1986.
Jones, R. Gerallt (Robert Gerallt), 1934-1999
Mae'r gyfres yn adlewyrchu gweithgaredd cyhoeddi cyfres calsuron yr Academi. Mae'r ohebiaeth yn ymwneud â pherthynas yr Academi â'r golygyddion, y swyddog cyflogedig a chyrff eraill a oedd yn ymwneud â'r cynllun, 1977-1984.
Cyfres y cyfieithiadau: cofnodion a phapurau cyffredinol
Mae'r gyfres hon yn cynnyws adroddiadau, cofnodion a gohebiaeth yn ymwneud â chyhoeddi'r cyfieithiadau barddoniaeth a'r cyfieithiadau rhyddiaith, 1974-1986.
Cyfres cyfieithiadau barddoniaeth
Mae'r gyfres yn cynnwys ffeiliau o ohebiaeth, teipysgrifau a chytundebau yn ymwneud â chyhoeddi rhai o'r cyfrolau yng nghyfres cyfieithiadau barddoniaeth yr Academi, 1978-1985.
Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth, adroddiadau a chofnodion yn ymwneud â threfniadau'r gynhadledd, 1973-1992.
Heb deitl
Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth yn ymwneud â threfniadau'r cynadleddau, manylion y myfyrwyr a'u mynychodd a pheth deunydd perthynol ynglŷn a chefnogaeth ariannol y Swyddfa Gymreig, 1982-1984.
Heb deitl
Mae'r gyfres hon yn cynnwys ffeiliau o ohebiaeth a phapurau amrywiol yn adlewyrchu gwaith yr Academi yn trefnu cyrsiau a digwyddiadau unigol amrywiol, 1980-1993.
Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth a pheth deunydd hysbysebu yn ymwneud â lansio cyfrolau a gyhoeddwyd gan yr Academi. Amheuir fod y gyfres hon yn anghyflawn iawn gan nad yw'n cynnwys dim ond deunydd yn ymwneud â dwy noson ar ddechrau'r 1990au.
Mae'r gyfres yn cynnwys gwybodaeth am nifer fawr o awduron enwog eu cenhedloedd a'u gwledydd, enghreifftiau o'u gwaith a chyfieithiadau ohonynt, wedi eu trefnu yn ffeiliau gweinyddol ac yn ffeiliau yn ymwneud â chenhedloedd unigol. Y gwledydd a'r diwylliannau a gynrychiolwyd yn y gynhadledd oedd: Gwlad y Basg, Catalunya, Denmarc, Estonia, Ffrisia, Galicia, Georgia, Groeg, Gwlad yr Iâ, Norwy, Romansch, Sorbia, Sri Lanka, Tsiecolofacia. Hefyd estynwyd gwahoddiadau i Hwngari, Yr Iseldiroedd, Iwgoslafia, Kenya, Nigeria a Romania.
Heb deitl
Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth, ffrwyth ymchwil a deunydd cyffredinol yn ymwneud â threfnu cyfarfodydd coffa a chyfarfodydd teyrnged i rai o brif lenorion yr iaith Gymraeg, 1977-1992.
Heb deitl
Llyfrau cofnodion cyfarfodydd y swyddogion
Mae'r gyfres yn cynnwys dwy gyfrol o gofnodion yr Academi Gymreig o'r cyfnod allweddol rhwng ei sefydlu ym 1960 a chyflogi ei Swyddog Gweinyddol cyntaf ym 1974 ac yn cynnwys cyfeiriadau at nifer o unigolion amlwg ym myd llenyddiaeth Gymraeg yn y cyfnod. Roedd y cyfarfodydd penwythnos yn cynnwys seiadau llenyddol ac un cyfarfod busnes. Cofnodion y cyfarfodydd hyn, a dau gyfarfod o rag-bwyllgor yr Academi a gynhaliwyd yn ystod 1959, a geir yma. Fe fu nifer o'r aelodau yn ysgrifenyddion yn ystod y cyfnod hwn yn eu plith Bobi Jones, yr ysgrifennydd cyntaf, 1959-1963, a Gwyn Thomas, Bangor, 1967-1971, a oedd yn paratoi cofnodion ffraeth a threiddgar.
Jones, Bobi, 1929-2017