Showing 10 results

Archival description
Papurau David Bowen a Ben Bowen, Sub-sub-sub-fonds
Advanced search options
Print preview View:

Rhyddiaith

Mae'r grŵp yn cynnwys rhyddiaith yn ymwneud â chrefydd yn bennaf gan gynnwys pregethau ac ysgrifau diwinyddol, 1896-1902.

Deunydd amrywiol

Mae'r grŵp yn cynnwys toriadau papur newydd [1890]-[1959], llyfrau nodiadau [1898]-[1939], papurau ariannol, 1936-1955, a dyddlyfrau, 1951-1955.

Barddoniaeth

Mae'r grŵp yn cynnwys llyfrau nodiadau a drafftiau o farddoniaeth Ben Bowen yn ei lawysgrif ei hun. Maent yn cynnwys deunydd ar gyfer eisteddfodau, er enghraifft 'Pantycelyn', 'Ymadawiad Arthur' a 'Goleuni'r Byd', a cherddi eraill. Cyhoeddwyd rhai o'r cerddi yma yn David Bowen (gol.) Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen, Treorci, 1904.

Gohebiaeth bersonol

Mae'r grŵp yn cynnwys llythyrau at ac oddi wrth David Bowen, llythyrau amrywiol gan nifer o weinidogion y Bedyddwyr, llenorion a gwleidyddion Cymru, [c. 1890]-[c. 1955].

Golygyddol a beirniadaethol

Mae'r grŵp yn cynnwys papurau'n ymwneud â gwaith David Bowen fel golygydd colofn Gymraeg y Llanelli Mercury a Seren yr Ysgol Sul. Ceir yma gynnyrch Ben Bowen a llenorion eraill a gyhoeddwyd gan David Bowen, neu a feirniadwyd ganddo mewn eisteddfodau.

Papurau addysgol

Mae'r grŵp yn cynnwys llyfrau nodiadau Ben Bowen tra roedd yn dilyn cyrsiau yn Academi Pontypridd, [1897]-[1899], Prifysgol Caergrawnt, [1898]-[1899], a Choleg Prifysgol Caerdydd, 1899-1900.

Rhyddiaith

Mae'r grŵp yn cynnwys rhyddiaith, [1890]-[1955], ysgrifau diwinyddol, [1930]-[1949] a bywgraffiadau, 1878-[c. 1955].